Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething heddiw y bydd yr holl feddygon, nyrsys a staff sy’n gweithio mewn practisau meddygon teulu yn cael codiad cyflog o 2.8%.
Cymru yw’r genedl gyntaf i wneud hyn yn dilyn cytundeb newydd gyda’r Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol. Cyn hyn, cyflogwyr y practisau unigol oedd yn goruchwylio codiadau cyflog staff.
Bydd y cytundeb newydd ar gyfer Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol yn gweld y cyllid am bob claf yn codi o £91.77 i £95.07, sy’n fwy na’r hyn a gynigir yn Lloegr.
Cytunwyd hefyd i ddileu’r tâl i gleifion pan ofynnir i weithiwr iechyd proffesiynol lenwi Ffurflenni Tystiolaeth am Ddyled ac Iechyd Meddwl. Bydd hyn yn cefnogi cleifion agored i niwed y mae eu benthycwyr yn ei gwneud yn ofynnol iddynt lenwi’r ffurflen.
Mae’r contract newydd yn adeiladu ar y newidiadau sylweddol a welwyd yn 2019-20, gan ddatblygu nodau Cymru Iachach ymhellach, a bydd yn cadw’r newidiadau positif a welwyd o ganlyniad i COVID-19, fel cynnig ymgyngoriadau o bell.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:
Cynhaliwyd y rownd hon o negodiadau mewn cyfnod o heriau sylweddol i’n Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Mae Gofal Sylfaenol wedi chwarae rhan bwysig yn ystod y pandemig, gyda phractisau meddygon teulu ar agor drwy gydol y cyfnod gan addasu’n gyflym i sicrhau bod gofal yn parhau i fod ar gael.
Mae’r cynnig a gytunwyd yn dangos fy ngwerthfawrogiad i ymdrechion meddygon teulu a staff sy’n gweithio mewn practisau. Mae eu hymroddiad a’u hymrwymiad yn ystod yr ymateb i COVID wedi cefnogi ein cymunedau ar draws Cymru. O dan y contract newydd byddwn yn adeiladu ar y newidiadau a wnaed yn ystod y pandemig gan gynnwys cyflwyno ymgyngoriadau digidol ac ymgorffori dulliau newydd o weithio.
Dywedodd Dr Phil White, Cadeirydd Pwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru y BMA (GPC Cymru):
Mae ein perthynas weithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru a GIG Cymru wedi arwain at set o ganlyniadau cadarnhaol i feddygon teulu yng Nghymru.
Yn nhrefniadau cytundebol 2020-21 bydd meddygon teulu a’u staff yn cael eu gwobrwyo am eu hymdrechion neilltuol yn ystod y cyfnod eithriadol hwn, ac mae’n dangos y gwerth a roddir ar swyddogaeth Practisau Cyffredinol yng Nghymru. Bydd y buddsoddiad yn y contract yn galluogi cyflawni argymhelliad y Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion (y DDRB) i roi codiad cyflog o 2.8% i feddygon teulu ar gontractau byr, yn ogystal â galluogi cyflawni’r argymhelliad i roi codiad cyflog o 2.8% i feddygon teulu sy’n derbyn cyflog misol. Mae’r dyfarniad eithriadol hwn hefyd yn rhoi cynnydd o 2.8% ar gyfer cyllidebau staffio’r practisau i gydnabod ymdrechion holl staff y practis.
Rydym yn cydnabod y newidiadau y mae meddygon teulu wedi’u rhoi ar waith yn ystod COVID-19, ac rydym wedi cytuno i gyflwyno prosiect gwella ansawdd newydd yn ymwneud â’r ddysg yn sgil COVID-19 gan adeiladu ar y gwaith y mae sawl practis a chlwstwr eisoes wedi’i ddechrau, gan ganolbwyntio ar gynllunio ar gyfer gofal brys. Rydym hefyd wedi cytuno i wneud gwaith i wella profiad y claf gan edrych ar integreiddio rhwng gofal heb ei drefnu a phractisau, gan sicrhau y diogelir barn glinigol y meddygon teulu.
Rwy’n gobeithio bod cadarnhau y bydd y buddsoddiad ar gyfer 2020-21 yn y Swm Craidd yn fuddsoddiad rheolaidd yn lliniaru rhai o’r pryderon ynghylch cynaliadwyedd, ac yn cysuro meddygon teulu yng Nghymru sydd wedi bod yn wynebu gofynion na welwyd mo’u math o’r blaen.
Rwy’n falch iawn ein bod wedi ymrwymo i edrych ar sut y bydd holl staff y practisau yn gallu cael gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol a fydd yn cael eu darparu gan y Byrddau Iechyd, ac edrychaf ymlaen at weld hyn yn cael gyflwyno ar draws Cymru.
Dywedodd Judith Paget, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan
Rydym yn falch o fod wedi dod i’r cytundeb hwn fel rhan o’r dull teiran o ddarparu gwasanaethau gofal sylfaenol yng Nghymru. Mae’r cytundeb yn cydnabod gwaith caled ac ymroddiad ein meddygon teulu ac yn sail ar gyfer adeiladu ar y newidiadau cadarnhaol a roddwyd ar waith mewn ymateb i bandemig COVID-19.
Mae’r ymrwymiad i roi codiad cyflog o 2.8% i staff y practisau, sef yr un lefel o godiad cyflog â’r meddygon teulu, yn gadarnhaol iawn, ac yn gwobrwyo ymdrechion pob aelod o weithlu’r practisau cyffredinol.
Bydd y cytundebau ehangach yn y contract yn galluogi byrddau iechyd i weithio’n agos gyda Phractisau Cyffredinol i ddatblygu a gwella’r gwasanaeth mewn modd sydd o fantais i gleifion ar adeg o newid mawr, drwy ymrwymiad i gryfhau gweithio mewn clystyrau.