Cyfarfod Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Hinkley Point C : 24 Awst 2020: Nodiadau
Nodiadau o gyfarfod Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Hinkley Point C ar 24 Awst 2020.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Aelodau yn bresennol:
- Jane Davidson (Cadeirydd)
- Yr Athro Roger Falconer
- Dr Rhoda Ballinger
- Dr Justin Gwynn
- Dr Huw Brunt
- Rachel Sharp
Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Dr James Robinson
Hefyd yn bresennol:
- Dan Butler, Cynghorydd Arbennig i’r Prif Weinidog
- John Howells, Jonni Tomos (Ysgrifenyddiaeth)
Cynhaliwyd ail gyfarfod Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid y prif Weinidog ar Hinkley Point C ar 24 Awst 2020. Cytunodd y Grŵp y cofnod o’r cyfarfod cyntaf, a gynhaliwyd ar 20 Gorffennaf.
Treuliwyd rhan gyntaf y cyfarfod yn trafod dulliau gweithio'r Grŵp. Cytunodd yr aelodau y dylai eu gwaith gael ei lywio gan egwyddorion tryloywder a hygyrchedd. Trafododd y Grŵp hefyd y trefniadau ar gyfer trin gohebiaeth. Dylid trafod unrhyw ohebiaeth a dderbynnir yn y cyfarfod nesaf posibl ynghyd ag ymateb arfaethedig y grŵp. Gofynnwyd i'r Ysgrifenyddiaeth gydnabod gohebiaeth a dderbyniwyd eisoes yn unol â hynny. Yn dilyn y drafodaeth hon, cytunodd y grŵp ar bapur ar ddulliau gweithio yn amodol ar fân ddiwygiadau i'r drafft. Cytunodd y Grŵp hefyd i gadarnhau a chyhoeddi fersiwn derfynol o'r Cylch Gorchwyl cyn cyfarfod nesaf y Grŵp.
Rhoddwyd gwahoddiad gan y Cadeirydd i aelodau i awgrymu materion a phynciau y dylai'r Grŵp eu blaenoriaethu mewn cyfarfodydd sydd i ddod. Cytunwyd y byddai'r Grŵp yn derbyn papurau yn ei gyfarfod nesaf ar yr asesiadau amgylcheddol sy'n cael eu cynnal gan Gyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â charthu sy'n gysylltiedig â Hinkley Point C, ac ar y trefniadau cydsynio ehangach sy'n ymwneud â'r prosiect yn ei chyfanrwydd.
Cytunodd y Grŵp i gynnal y cyfarfod nesaf ar 21 Medi 2020 am 9.30yb.