Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
Rwyf wedi penodi Dr Dafydd Trystan Davies fel Cadeirydd y Bwrdd Teithio Llesol. Cychwynodd y rôl hon ar y 1af o Fedi 2020.
Cafodd y Bwrdd Teithio Llesol ei sefydlu yn 2014 i roi cyngor i Lywodraeth Cymru ar weithredu Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 a’r polisi teithio yn ehangach a chydlynnu’r camau gweithredu ymhlith sefydliadau partner. Ers cymryd cyfrifoldeb dros deithio llesol fel rhan o’m portffolio, rwyf wedi cadeirio’r bwrdd.
Rwyf bellach am gryfhau swyddogaeth y bwrdd drwy sefydlu cadeirydd annibynnol, oedd yn un o argymhellion craffu ȏl-ddeddfwriaethol Pwyllgor yr Economi a Thrafnidiaeth ar y Ddeddof Teithio Llesol yn 2018.
Mae Dr Dafydd Trystan Davies wedi bod yn hyrwyddwr effeithiol ar gyfer teithio egnïol. Bu yn y gorffennol yn aelod o fwrdd cynghori Sustrans yng Nghymru ac yn gyfarwyddwr Hyfforddiant Beicio Cymru. Yn ei swydd fel cadeirydd llywodraethwyr Ysgol Hamadryad yng Nghaerdydd, bu’n rhan o’r broses o ddatblygu un o’r cynlluniau teithio i’r ysgol mwyaf radical yn y wlad. Mae hefyd yn aelod o fwrdd Chwaraeon Cymru ac yn gadeirydd Rhedeg Cymru, sy’n anelu at gael mwy o bobl i redeg.
Bydd y penodiad am 2 flynedd, Ei flaenoriaethau fydd yn miniogi elfen herio y Bwrdd Teithio Llesol tuag at bolisïau a’u gweithredu. Byddaf yn disgwyl i Dafydd:- helpu i gynyddu dealltwriaeth ac ymrwymiad y sefydliadau sy’n aelodau i’w swyddogaethau eu hunain i gynyddu lefelau teithio llesol yng Nghymru; gwella y cydweithredu a’r cyfnewid rhwng aelodau yn barhaus. Bydd hefyd yn arolygu cynnydd gyda chamau gweithredu y Cynllun Teithio Llesol, gan gynnwys cynghori ar ymestyn targedau, a nodi bylchau gyda’r bwriad o adnewyddu’r Cynllun yn 2021 a dyfeisio strategaeth ar gyfer Cymru.
Bydd Dafydd yn eistedd gyda chomisiynwyr teithio llesol ledled y DU, yn herio ac yn cefnogi'r Llywodraeth ar deithio llesol.
Rwy’n dymuno’n dda i Dafydd yn y swyddogaeth hon ac yn edrych ymlaen at dderbyn diweddariadau rheolaidd a chyngor ar ran y Bwrdd Teithio Llesol.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.