Julie Morgan AS, Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw, cyhoeddwyd adolygiad o lenyddiaeth, mewn perthynas â’r gwerthusiad o effeithiau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a wneir gan y tîm astudio sy’n cynnwys academyddion o Brifysgol De Cymru a Phrifysgolion Abertawe, Bangor, a Chaerdydd. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i roi gwybodaeth bellach ichi am hynt y gwerthusiad hwn, gan egluro ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Mae COVID-19 wedi effeithio’n sylweddol ar bob agwedd ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Ar ddechrau’r pandemig, gwnaeth Llywodraeth Cymru benderfyniad i atal y gwerthusiad dros dro er mwyn caniatáu i’r adnoddau angenrheidiol gael eu neilltuo ar gyfer y meysydd lle’r oedd yr angen mwyaf. Rwy’n cydnabod bod cryn ffordd i fynd o hyd o ran yr ymateb i’r pandemig, ond er gwaethaf hynny mae hefyd yn bwysig inni barhau i ddeall effeithiau ein deddfwriaeth er mwyn inni allu dysgu a gwella. Mae’n hanfodol bod yr holl unigolion y mae angen gofal a chymorth arnynt, ynghyd â’r holl ofalwyr sydd ag angen cefnogaeth, yn cael cyfle i elwa ar y ddarpariaeth orau bosibl er mwyn iddynt allu cyflawni’r hyn sydd fwyaf pwysig iddynt. Felly, heddiw, rwy’n cyhoeddi’r canlynol:
- Bod y gwerthusiad yn ailddechrau – gwnaeth Llywodraeth Cymru benderfyniad i atal y gwerthusiad dros dro ym mis Mawrth er mwyn neilltuo adnoddau ar gyfer yr ymateb i’r pandemig. Gan ein bod bellach yn symud ein ffocws i ganolbwyntio mwy ar sefydlogi ac ailadeiladu, rwyf am weld y gwerthusiad yn ailddechrau’n ffurfiol o fis Medi ymlaen. Mae hynny’n golygu y bydd angen i amrywiaeth eang o randdeiliaid gyfrannu at waith y tîm astudio er mwyn ein helpu i ddeall effeithiau’r ddeddfwriaeth ar y sector gofal cymdeithasol, ac ar unigolion yng Nghymru y mae angen gofal a chymorth arnynt. Dyma fydd ffocws cam nesaf gwaith y tîm.
- Bod ffrwd waith arall yn cael ei hychwanegu at y gwerthusiad i edrych ar sut y mae COVID-19 wedi effeithio ar y ddeddfwriaeth. Mae’r pandemig wedi cael effaith sylweddol ar ofal cymdeithasol, ac mae’n bwysig ein bod yn deall pa effaith y mae hynny wedi ei chael ar y gwaith o weithredu’r ddeddfwriaeth a’i chanlyniadau. Rwyf wedi gofyn i’r tîm gwerthuso ystyried hyn, a disgwylir i’w casgliadau cychwynnol gael eu cyflwyno imi erbyn mis Ionawr 2021.
- Bod cyfnod y gwerthusiad yn cael ei ymestyn – gan y bu’n rhaid atal y gwaith hwn dros dro, a hefyd ychwanegu ffrwd waith arall i’r tîm gwerthuso ei gwblhau, rwyf wedi cytuno i roi estyniad o flwyddyn i’r contract presennol. Bydd hyn yn caniatáu’r amser y mae ei angen i gwblhau’r gwaith, a hefyd bydd yn caniatáu ar gyfer paratoi asesiad o effeithiau mwy tymor hir a fydd yn ein helpu i ddeall effeithiau’r Ddeddf yn fwy trylwyr. Felly, bydd y gwerthusiad yn parhau tan fis Hydref 2022. Cyhoeddir yr adroddiad terfynol, gan gynnwys yr argymhellion, yn yr hydref 2022, a hefyd caiff nifer o adroddiadau interim allweddol eu cyhoeddi rhwng nawr a’r adeg hwnnw er mwyn inni gael gwybodaeth reolaidd am y casgliadau diweddaraf ynglŷn â gweithredu’r ddeddfwriaeth a’i heffeithiau.
Bydd y gwerthusiad yn hanfodol er mwyn inni allu deall effeithiau ein deddfwriaeth. Rwy’n gwybod bod llawer ohonoch wedi neilltuo amser ac adnoddau i’n helpu gyda’r gwaith pwysig hwn, a hoffwn ddiolch ichi am eich cyfraniad gwerthfawr. Mae cryn ffordd i fynd eto cyn inni allu deall yn llawn y gwahaniaeth yr ydym yn ei wneud. Felly, hoffwn annog y sector i barhau i gymryd rhan yn y gwaith hwn drwy weithio gyda’r tîm gwerthuso, gan ein helpu i wella bywydau unigolion ar draws Cymru gyfan.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.