Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg
Mae’r datganiad hwn yn rhoi diweddariad i’r Aelodau ar y gwaith o gyflwyno’r diwygiadau i’r system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), yn benodol felly’r cod ADY a’r rheoliadau gweithredu. Ym mis Medi y llynedd, cyhoeddais y byddai’r rolau statudol sydd wedi’u hamlinellu yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn cychwyn ym mis Ionawr 2021 ac y bydd y system ADY newydd yn cychwyn, gam wrth gam, o fis Medi 2021. Dyma nhw’r rolau statudol:
- Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol,
- Swyddogion Arweiniol Clinigol Dynodedig Addysg, a
- Swyddogion Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol Blynyddoedd Cynnar
Mae effaith Covid-19 wedi ei gwneud yn angenrheidiol i bob un ohonom ail-flaenoriaethu ein busnes er mwyn adlewyrchu natur yr argyfwng hwn, nas gwelwyd mo’i fath o’r blaen. Er hynny, gallaf gadarnhau bod y cod ADY a’r rheoliadau cysylltiedig yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth gen i, a byddant yn cael eu gosod gerbron y Senedd ym mis Chwefror 2021 er mwyn gallu cychwyn a gweithredu’r Ddeddf yn raddol ym mis Medi 2021.
Yn ogystal, gallaf gadarnhau y bydd y rolau statudol yn cychwyn ym mis Ionawr 2021 yn unol â’r cynllun. I gyd-fynd â hyn, rwy’n bwriadu gosod rheoliadau ynghylch rôl y Cydlynydd ADY a chyhoeddi canllawiau ar bob un o’r tair rôl statudol o dan y system ADY. Byddant yn cynnwys testun o’r Cod diwygiedig sy’n ymwneud â’r rolau hyn, a byddant yn rhoi eglurder o ran eu cyfrifoldebau.
Bydd y canllawiau a’r rheoliadau yn seiliedig ar yr ymatebion i’r ymgynghoriad ar y Cod ADY drafft a’r rheoliadau ynghylch rôl y Cydlynydd ADY. Er mwyn helpu i roi’r Ddeddf ar waith o fis Medi 2021, darperir gwybodaeth hefyd ynghylch y trefniadau gweithredu a phontio.
Mae llawer iawn wedi’i wneud i baratoi ar gyfer lansio'r broses o ddechrau gweithredu’r system ADY newydd ym mis Medi 2021. Drwy gydol pandemig Covid-19, mae'r gwaith wedi parhau yn y meysydd canlynol:
- mae ein harweinwyr trawsnewid ADY rhanbarthol wedi parhau i weithredu, gan gydweithio o bell ag ysgolion, awdurdodau lleol a byrddau iechyd i gynnal y gwaith paratoi sydd ei angen i sicrhau y bydd Cymru yn barod i lansio'r system newydd y flwyddyn nesaf;
- rydym yn cydweithio â’n prifysgolion i lunio ac ysgrifennu cynnig dysgu proffesiynol newydd i gefnogi rôl y Cydgysylltydd Anghenion Dysgu Ychwanegol;
- rydym yn datblygu pecynnau hyfforddiant ar-lein ar y system ADY newydd, a bydd y cyntaf o'r rhain ar gael ar Hwb yn ddiweddarach yr haf hwn;
- rydym yn parhau i gydweithio â Phrifysgol Caerdydd i hyfforddi seicolegwyr addysgol newydd i Gymru, a
- rydym yn parhau i weithio'n agos gyda sefydliadau partner yn y blynyddoedd cynnar a'r trydydd sector.
Mae pandemig Covid-19 hefyd wedi creu amgylchiadau heriol ar gyfer ein holl ddysgwyr, ac yn arbennig y rhai ag ADY, eu teuluoedd a’r rhai sy’n gweithio i roi cymorth i’r dysgwyr hynny. Mae cynorthwyo’r dysgwyr hyn yn parhau’n flaenoriaeth i ni.
Rhoddodd y cyfnod "Ailgydio, Dal i Fyny a Pharatoi" gyfle ardderchog i ni nodi unrhyw rwystrau i ddysgu sy’n wynebu plant agored i niwed neu difreintiedig, gan gynnwys rhai ag ADY, a chael gwared ar y rhwystrau hynny. O ganlyniad i'r trafodaethau diweddar â phlant, teuluoedd, eu cynrychiolwyr ac arbenigwyr addysg, rwyf wedi cyhoeddi canllawiau atodol ar gyfer tymor yr hydref. Mae’r rhain yn ymdrin yn benodol ag anghenion ymarferol, anghenion emosiynol ac anghenion dysgu plant agored i niwed a difreintiedig, gan gynnwys rhai sydd ag ADY.
I gloi, rwyf un lansio heddiw ymgynghoriad ar gynigion i ganiatáu cynrychiolwyr i weithredu ar ran pobl ifanc, a rhieni plant, nad oes ganddynt alluedd meddyliol, wrth arfer eu hawliau o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlysoedd Addysg (Cymru) 2018. Er mwyn sicrhau bod yr ymgynghoriad yn cyrraedd y bobl y bydd y cynigion yn cael yr effaith fwyaf, byddwn yn gweithio gyda Phlant yng Nghymru i sicrhau bod pobl ifanc nad oes ganddynt alluedd yn cael eu targedu a'u cefnogi i ymgysylltu â'r ymgynghoriad. Mae hyn yn rhan hanfodol o'r gwaith ar y cod a'r rheoliadau ADY.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau. Os bydd Aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.