Mark Drakeford AS, y Prif Weinidog
Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 yn gosod cyfres o gyfyngiadau ar gynulliadau a symudiadau gan bobl, ac ar weithredoedd busnesau, gan gynnwys eu cau. Maent hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau sydd ar agor gymryd camau rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws. Eu nod yw diogelu pobl rhag lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2).
Mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am y gofynion a’r cyfyngiadau yn y rheoliadau, a pha mor gymesur ydynt, bob 21 o ddiwrnodau.
Mae’r cyngor gwyddonol a meddygol yn parhau i ddangos bod lefelau trosglwyddo’r coronafeirws yn isel yn Nghymru. Fodd bynnag, mae’r cynnydd yn nifer yr achosion yn ardaloedd eraill y DU a thu hwnt yn dal i’n hatgoffa nad yw’r feirws wedi diflannu. Rydym yn dysgu gwersi o’r hyn sy’n digwydd yn y lleoedd hynny, sy’n awgrymu bod cynulliadau o bobl dan do yn parhau i fod yn risg sylweddol.
Mae’n flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru y dylai ysgolion yng Nghymru allu agor ym mis Medi yn ôl y bwriad. Mae’r holl lacio yr ydym yn ei wneud i’r cyfyngiadau yn cael effaith ar y cyfraddau trosglwyddo a’r hyblygrwydd sydd ar gael inni. Byddwn yn defnyddio’r hyblygrwydd sydd gennym i sicrhau y gall plant ailafael yn eu haddysg fis nesaf.
Yn unol â'r cyngor a gafwyd gan Brif Swyddog Meddygol Cymru a'r dystiolaeth wyddonol am y risgiau o leoliadau dan do, nid yw'r amodau yn caniatáu imi lacio’r cyfyngiadau cyffredinol ar allu pobl i gwrdd o dan do ar hyn o bryd. Mae hyn yn cael ei adolygu’n barhaus a bydd newidiadau’n cael eu gwneud pan fydd hynny’n ddiogel.
Mae hyn yn dal i olygu bod rhaid inni beidio ag ymweld â phobl eraill yn eu cartrefi oni bai ein bod yn rhan o aelwyd estynedig gyda nhw neu'n darparu gofal. Mae hefyd yn golygu na allwn ond ymweld â busnes neu safle y tu mewn, megis tafarn neu fwyty, gydag aelodau o'n haelwyd ein hunain neu’n haelwyd estynedig. Mae'n bosibl, wrth gwrs, cyfarfod â gwahanol bobl yn yr awyr agored gan gofio cadw pellter cymdeithasol.
Rwy’n gwerthfawrogi pa mor anodd yw’r cyfyngiadau parhaus hyn a'r effeithiau negyddol y gallent eu cael ar les pobl. Felly, yn ystod cyfnod yr adolygiad hwn, rwy'n awyddus i lacio cyfyngiadau i gydnabod y pwysigrwydd y mae pawb yn ei roi ar y gallu i dreulio amser gyda theulu a ffrindiau.
Gallaf gadarnhau y bydd hyd at bedair aelwyd yn gallu uno â'i gilydd i greu aelwyd estynedig o ddydd Sadwrn 22 Awst. Gall aelwyd estynedig o’r math hwn fod ar ffurf dwy aelwyd estynedig sy’n bodoli eisoes, neu aelwydydd nad ydynt eisoes wedi creu aelwyd estynedig yn uno ag aelwyd estynedig newydd neu bresennol.
Mae creu aelwydydd estynedig wedi galluogi i deuluoedd ailuno ac wedi helpu’r rheini sy'n dioddef unigrwydd ac arwahanrwydd. Maent hefyd wedi cefnogi trefniadau gofalu. Fodd bynnag, rwy'n gwybod bod teuluoedd wedi gorfod gwneud dewisiadau anodd wrth benderfynu pwy i greu aelwyd estynedig â nhw.
Bydd y newid hwn o fudd i'r rhai nad oeddent wedi gallu ffurfio aelwyd estynedig cyn hyn yn ogystal â chynnig cyfleoedd i bobl gwrdd â mwy o ffrindiau a theulu. Bydd mwy o bobl yn gallu ymweld â’i gilydd o dan do, mynd allan a gwneud pethau gyda’i gilydd, ac aros dros nos heb gadw pellter cymdeithasol.
Bydd newidiadau hefyd yn cael eu gwneud i'r rheoliadau i ganiatáu ar gyfer cynnal rhai dathliadau dan do cyfyngedig yn dilyn priodas, partneriaeth sifil, neu angladd ar gyfer hyd at 30 o bobl o 22 Awst. Ar hyn o bryd, bydd y rhain yn gyfyngedig o ran cwmpas, megis pryd o fwyd wedi'i drefnu mewn gwesty neu fwyty, a rhaid iddynt ddigwydd mewn lleoliad a reoleiddir. Bydd hyn yn sicrhau bod pob mesur rhesymol yn cael ei gymryd i gyfyngu ar y risg o haint a lledaenu coronafeirws. Byddwn yn dysgu gwersi o'r llacio hwn i ystyried sut y gellid eu cymhwyso i ddigwyddiadau eraill yn y dyfodol.
Mae'r risg o ddal coronafeirws yn llawer is yn yr awyr agored, sydd wedi golygu ein bod wedi gallu llacio cyfyngiadau’n gyflymach yn y lleoliadau hynny. Ein hymagwedd drwy gydol y broses hon fu cynllunio, cynnal gweithgareddau peilot pan fo angen er mwyn dysgu gwersi, ac yna llacio cyfyngiadau ymhellach. Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn cynnal rhai digwyddiadau peilot yn yr awyr agored i hyd at 100 o bobl.
Ein nod yw gwneud hyn drwy gynigion sy'n cael eu datblygu ar gyfer:
- Digwyddiadau theatr awyr agored a drefnir gan Theatr Clwyd (dros benwythnosau yn dechrau dydd Gwener 27 Awst);
- Rali ceir ar raddfa fach yn Nhrac Môn, Ynys Môn;
- Cystadleuaeth ‘dychwelyd i rasio’ Triathlon Cymru ym Mharc Gwledig Pen-bre.
I fod yn glir, ni fydd unrhyw ddigwyddiadau awyr agored eraill o’r math hwn yn cael eu caniatáu yn ystod y tair wythnos nesaf. Mae’r digwyddiadau peilot hyn yn cael eu treialu er mwyn ein galluogi ni i ddysgu gwersi yn y gobaith y gallwn ganiatáu rhagor o ddigwyddiadau o’r fath yn y dyfodol.
Gan edrych ymlaen at weddill y cyfnod adolygu tair wythnos, byddwn yn defnyddio'r amser hwn i edrych ar sut y gallwn ailddechrau cynnal mwy o weithgarwch dan do yn ddiogel. Mae hyn yn baratoad pwysig ar gyfer yr hydref a'r gaeaf pan fydd llai o opsiynau i gwrdd yn yr awyr agored.
Mae nifer o bobl, gan gynnwys y Comisiynydd Pobl Hŷn, wedi mynegi pryder cynyddol am yr effaith y mae’r cyfyngiadau ar ymweld â chartrefi gofal yn ei chael ar iechyd emosiynol, iechyd meddwl a hyd yn oed iechyd corfforol pobl. Rwy’n deall y trallod y mae hyn yn ei achosi.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio'n agos gyda phartneriaid i ddatblygu canllawiau sy'n amlinellu’r ystyriaethau caeth y dylai darparwyr cartrefi gofal gadw atynt er mwyn gallu ailddechrau caniatáu ymweliadau dan do yn ddiogel. Mae pawb yn awyddus i sicrhau ein bod yn atal y feirws rhag lledaenu ymysg y dinasyddion sydd fwyaf agored i niwed.
Ein bwriad yw trefnu i ymweliadau dan do ailddechrau o ddydd Sadwrn 29 Awst os yw’r amodau’n parhau i fod yn ffafriol ac y cedwir at y rheolau caeth yn y canllawiau.
Ar yr amod bod y gwaith paratoi terfynol wedi'i gwblhau, fe fydd casinos yng Nghymru hefyd yn gallu ailagor ar ddydd Sadwrn 29 Awst.
Unwaith eto, rwy'n ddiolchgar i bobl Cymru am eu cefnogaeth wrth i ni Ddiogelu Cymru gyda’n gilydd.