Sut i hawlio presgripsiwn am ddim os ydych chi’n byw yn Nghymru ond wedi cofrestru gyda meddyg teulu yn Lloegr neu os ydych chi’n cael triniaeth yn rhywle arall yn y DU.
Cynnwys
Byw yng Nghymru ac wedi cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru
Os ydych chi wedi cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru, mae gennych chi hawl i gael presgripsiynau am ddim gan fferyllydd yng Nghymru.
Byw yng Nghymru ond wedi cofrestru gyda meddyg teulu yn Lloegr
Os ydych chi’n byw yng Nghymru ond wedi cofrestru gyda meddyg teulu yn Lloegr, byddwch yn cael cerdyn hawlio. Gyda’r cerdyn hwn bydd presgripsiwn a roddwyd yn Lloegr yn cael ei weinyddu am ddim mewn fferyllfa yng Nghymru.
Bydd angen ichi ddangos eich cerdyn hawlio yn y fferyllfa bob tro y byddwch yn rhoi presgripsiwn iddynt. Efallai y codir tâl arnoch os nad oes gennych gerdyn.
Dylech gael eich cerdyn hawlio’n awtomatig. I wneud cais am ad-daliad o unrhyw gostau neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich cerdyn hawlio, cysylltwch â Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.
Tystysgrif Eithrio Feddygol
Os oes gennych gyflyrau meddygol penodol, gallech fod yn gymwys i gael Tystysgrif Eithrio Feddygol. Mae’r dystysgrif yn rhoi’r hawl ichi gael presgripsiwn yn unrhyw ran o’r DU.
Gallech gael Tystysgrif Eithrio Feddygol os oes gennych unrhyw un o’r canlynol:
- ffistwla parhaol (er enghraifft, caecostomi, colostomi, laryngostomi neu ileostomi) sy’n golygu bod angen gorchuddion llawfeddygol parhaus neu gyfarpar
- ffurfiau ar hypoadrenaledd (er enghraifft, Clefyd Addison), y mae therapi amnewid penodol yn hanfodol ar ei gyfer
- diabetes insipidus a mathau eraill ar hypobitŵidedd
- diabetes mellitus ac eithrio lle bo’r driniaeth yn seiliedig ar ddeiet yn unig
- hypoparathyroidedd
- myasthenia gravis
- mycsoedema
- canser, effeithiau Canser neu effeithiau triniaeth am Ganser
- epilepsi sy’n ei gwneud yn ofynnol i barhau â therapi gwrthddirdynnol
- os oes gennych anabledd corfforol parhaus sy’n golygu na allwch fynd allan heb gymorth person arall
I wneud cais am Dystysgrif Eithrio Feddygol gofynnwch i’ch meddyg am ffurflen WP92A (Cymru). Mae’r ffurflen yn dweud wrthych beth i’w wneud. Caiff eich tystysgrif eithrio ei phostio atoch.
Fel arfer mae’r Dystysgrif Eithrio Feddygol yn para am bum mlynedd ac wedyn rhaid ei hadnewyddu.