Jane Davidson Cadeirydd
Jane yw Dirprwy Is-Ganghellor Emeritws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
O 2000-2011, bu’n Weinidog Addysg ac yna’n Weinidog yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn Llywodraeth Cymru, lle cyflwynodd ddeddfwriaeth i wneud cynaliadwyedd yn egwyddor trefniadol sylfaenol a phasio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn gyfraith yn 2015. Cyflwynodd y tâl cyntaf am fagiau plastig yn y DU a diolch i’w rheolau ailgylchu, Cymru yw’r trydydd gorau am ailgylchu yn y byd. Creodd Gomisiwn Newid Hinsawdd Cymru, swydd y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy a Llwybr Arfordir Cymru.
Ym maes addysg, treialodd newidiadau mawr i’r cwricwlwm, megis y Cyfnod Sylfaen ar gyfer y blynyddoedd cynnar, Bagloriaeth Cymru ac Addysg dros Ddatblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang fel pynciau o fewn Cwricwlwm Cymru.
Mae Jane yn noddwr i’r Sefydliad Siartredig Ecoleg a Rheoli Amgylcheddol (CIEEM) ac i Tools for Self Reliance Wales (TFSR Cymru). Mae ganddi gymrodoriaethau er anrhydedd gan IEMA (Sefydliad Rheoli ac Asesu Amgylcheddol) a doethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Morgannwg. Mae’n cyfrannu’n rheolaidd at gynadleddau rhyngwladol o arbenigwyr. Mae’n Gymrodor gyda’r RSA ac yn 2017, fe’i gwahoddwyd i fod yn gyfadran wadd ar y rhaglen Addysg Reoli ar gyfer Arweinwyr Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Harvard.
Mae’n byw mewn tyddyn yn y Gorllewin lle mae’n anelu at fyw’n ysgafndroed ar y tir.
(Jane Davidson yw awdur #futuregen: Lessons from a Small Country, hanes pam Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i gyflwyno deddfwriaeth i ddiogelu cenedlaethau’r dyfodol. Cyhoeddir #futuregen gan Chelsea Green.)