Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cyhoeddi bron i £32m i gyflymu’r amseroedd rhoi canlyniadau.

Bydd y buddsoddiad yn wasanaethau labordai Iechyd Cyhoeddus Cymru yn sicrhau canlyniadau cyflymach ar gyfer olrhain cysylltiadau ac yn sicrhau bod Cymru wedi paratoi ar gyfer unrhyw gynnydd mewn achosion yn ystod yr hydref a’r gaeaf.

Bydd yr arian yn talu am y canlynol:

  • Staff ac offer ychwanegol ar gyfer y labordai rhanbarthol Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, Ysbyty Singleton, Abertawe ac Ysbyty Glan Clwyd Y Rhyl, fel eu bod yn gallu gweithredu 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos.
     
  • Creu chwe Labordy Allweddol mewn ysbytai acíwt ledled Cymru, a fydd ag offer profi hynod gyflym, llai na phedair awr, ac offer profi newydd ar gyfer cyflyrau eraill er mwyn rhyddhau staff i weithio ar brofion COVID-19. Byddant yn gweithredu rhwng 08.00 a 22.00 saith niwrnod yr wythnos.

Mae disgwyl y bydd y tair labordy ranbarthol yn gallu gweithredu 24 awr y dydd o fis Hydref ymlaen.

Bydd y chwe Labordy Allweddol newydd yn weithredol ym mis Tachwedd.

Dywedodd Mr Gething:

Bydd y buddsoddiad yma’n sicrhau bod gennym ni gapasiti labordai yng Nghymru i weithredu ein strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu er mwyn cadw’r coronafeirws dan reolaeth ac i fod yn barod ar gyfer y gaeaf.

Rwy’n gobeithio na fydd rhaid i ni ddefnyddio’r holl gapasiti profi y bydd y buddsoddiad hwn yn ei greu ond mae’n rhaid i ni fod yn barod. Mae’r wyddoniaeth yn dweud wrthyn ni y bydd y feirws yn lledaenu’n gyflymach yn ystod y misoedd oerach, gwlypach felly gallwn ddisgwyl cynnydd yn y lledaeniad yn nes ymlaen eleni.

Bydd y buddsoddiad hwn yn gwella ein gallu i wrthsefyll y feirws ac yn sicrhau bod ein profi a’r olrhain cysylltiadau’n ddigon cadarn i ddelio â beth bynnag fydd yn digwydd yn ystod y gaeaf.    

Rydyn ni i gyd eisiau gallu dychwelyd i fywyd normal a llacio cymaint â phosib ar y cyfyngiadau. Mae ein strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu yn allweddol i gyflawni hynny drwy alluogi i ni adnabod pobl sydd â symptomau’r coronafeirws yn gyflym; adnabod llecynnau allweddol newydd ac ynysu cymaint o gysylltiadau â phosib.

Dywedodd Dr Tracey Cooper, Prif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru:

Bydd y buddsoddiad hwn yn ein galluogi i wneud rhai newidiadau sylfaenol i'n gwasanaethau labordy, a fydd yn cynyddu eu gallu a'u gwydnwch yn sylweddol, yng nghyd-destun y pandemig presennol ac yn y tymor hir.

"Rydym eisoes yn gweithio y tu ôl i'r llenni i weithredu'r newidiadau hyn ac yn ddiweddar rydym wedi lansio ymgyrch recriwtio ar gyfer hyd at 160 o staff i'r swyddi newydd a wnaed yn bosibl gan y buddsoddiad hwn.

Mae disgwyl i’r gwariant cychwynnol ar staff ac offer newydd fod yn £8m bron ac mae
disgwyl i gost cynnal profion amrywio o £8 i £24m gan ddibynnu ar y galw.

Bydd y chwe Labordy Allweddol newydd wedi’u lleoli yn yr ysbytai canlynol:

  • Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli
  • Ysbyty Treforys, Abertawe
  • Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr
  • Ysbyty Tywysog Charles, Merthyr Tudful
  • Ysbyty Athrofaol Llandochau
  • Ysbyty Grange, Cwmbrân