Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg ar ymddiriedolaethau a byrddau iechyd y GIG a sefydliadau cysylltiedig â’r GIG.

Trosolwg

Mae GIG Cymru yn darparu gwasanaethau drwy 7 bwrdd iechyd lleol a 3 ymddiriedolaeth GIG.

Mae byrddau iechyd lleol yn gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau’r GIG yn eu hardaloedd. Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys gwasanaethau:

  • deintyddol
  • optegol
  • fferyllol
  • iechyd meddwl

Hefyd mae’r byrddau hyn yn gyfrifol am:

  • wella canlyniadau corfforol ac iechyd meddwl
  • hyrwyddo llesiant
  • lleihau anghydraddoldebau iechyd ar draws eu poblogaethau
  • comisiynu gwasanaethau oddi wrth sefydliadau eraill er mwyn bodloni anghenion eu preswylwyr

Mae ymddiriedolaethau’r GIG yn gyfrifol am wasanaethau iechyd y cyhoedd a gwasanaethau ambiwlans, ynghyd â gwasanaethau canser a gwaed.

Hefyd mae nifer o sefydliadau cysylltiedig sy’n cefnogi GIG Cymru.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn gyfrifol am wasanaethau’r GIG ym:  

  • Mlaenau Gwent
  • Caerffili
  • Sir Fynwy
  • Casnewydd
  • Torfaen

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gyfrifol am wasanaethau’r GIG yn:

  • Ynys Môn
  • Gwynedd
  • Conwy
  • Sir Ddinbych
  • Sir y Fflint
  • Wrecsam

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn gyfrifol am wasanaethau’r GIG yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn gyfrifol am wasanaethau’r GIG ym:

  • Mhen-y-bont ar Ogwr
  • Merthyr Tudful
  • Rhondda Cynon Taf

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gyfrifol am wasanaethau’r GIG yn:

  • Sir Gaerfyrddin
  • Ceredigion
  • Sir Benfro

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gyfrifol am wasanaethau’r GIG ym Mhowys.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn gyfrifol am wasanaethau’r GIG yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, yn ogystal â rhai gwasanaethau rhanbarthol arbenigol.

Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre

Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn darparu gwasanaethau canser arbenigol ar draws y De-ddwyrain. Mae hefyd yn darparu gwasanaethau gwaed arbenigol ar draws Cymru drwy Ganolfan Ganser Felindre a Gwasanaeth Gwaed Cymru.

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yw’r gwasanaeth ambiwlans cenedlaethol.

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Iechyd Cyhoeddus Cymru yw’r asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gyfrifol am ddiogelu a gwella iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau iechyd.  

Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn chwarae rôl allweddol yn y gwaith o gynnal y gweithlu gofal iechyd yng Nghymru, drwy ddarparu:

  • addysg
  • hyfforddiant
  • cyfleoedd datblygu

Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn awdurdod iechyd arbennig sy’n adeiladu ac yn cynllunio gwasanaethau digidol ym maes iechyd a gofal yng Nghymru.

Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn cyflawni amrywiaeth o swyddogaethau ac yn darparu gwahanol wasanaethau sy’n canolbwyntio ar y cwsmer ar gyfer GIG Cymru.