Yn y canllaw hwn
3. Sut i ysgrifennu enwebiad
Y peth pwysicaf yw darparu tystiolaeth o’r hyn y maent wedi ei wneud, canlyniad eu gwaith a sut maent wedi gwneud pethau’n well i eraill.
Wrth enwebu rhywun am anrhydedd, mae’n bwysig cofio dangos sut mae eich ymgeisydd wedi:
- cyfrannu mewn ffordd unigryw at wella byd yr unigolion hynny sy’n llai abl i’w helpu eu hunain
- ymroi i wasanaeth gwirfoddol parhaus ac anhunanol
- dangos arloesedd neu greadigrwydd wrth gyflawni canlyniadau parhaol
Dylai enwebiad da hefyd ddisgrifio’r gwahaniaeth y mae eu cyfraniad wedi’i wneud.
Ceisiwch ateb y cwestiynau canlynol:
- sut yr oedd pethau cyn iddynt ddechrau?
- sut mae pethau nawr?
- beth sy’n gwneud eich ymgeisydd yn wahanol i eraill sy’n gwneud yr un peth?
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at Dîm Anrhydeddau Llywodraeth Cymru yn HonoursPN@llyw.cymru.