Data o brofion ar gyfer coronafirws (COVID-19): hyd at 9 Awst 2020
Diweddariad gwybodaeth reoli ar brofion coronafirws hyd at 9 Awst 2020.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Daw'r data o wybodaeth reoli ac mae’n bosibl y gallent newid. Nid ydynt wedi bod yn destun yr un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol. Rydym yn cyhoeddi’r data hyn i ddarparu crynodeb wythnosol o’r gweithgarwch profi yng Nghymru, gan gynnwys profion ar weithwyr hanfodol, preswylwyr ac amseroldeb y profion. Mae’r ddogfen ystadegol hon yn datblygu’n barhaus ac rydym yn gwerthfawrogi cael adborth er mwyn gwella ei gynnwys.
Mae tablau cysylltiedig â’r ddogfen hon i’w cael ar wahân, gan gynnwys yr holl ddata a ddangosir yn y ddogfen hon a data hanesyddol.
1. Ffigurau penawdau cenedlaethol
Prif ganlyniadau
- Roedd y gallu i brofi antigen yn labordai GIG Cymru yn 15,167 ar 9 Awst 2020. Nid yw hyn yn cynnwys y gallu i brofi yn labordai’r DU lle mae samplau rhai preswylwyr o Gymru’n cael eu prosesu.
- Am 1yp ar 9 Awst 2020, roedd 442,611 o brofion antigen wedi’u hawdurdodi ar gyfer preswylwyr Cymru.
- Cynhaliwyd cyfanswm o 275,050 o brofion antigen ar weithwyr hanfodol a phreswylwyr lle cyflogir gweithwyr hanfodol yng Nghymru.
- Yn yr wythnos ddiwethaf, cafodd ychydig dros draean o’r profion sgrinio a broseswyd yn labordai Cymru eu hawdurdodi o fewn un diwrnod. Cynhaliwyd y mwyafrif o’r rhain mewn cartrefi gofal sy’n broses sy’n cymryd mwy o amser wrth i brofion gael eu cludo i’r cartrefi gofal ac yna ymlaen i’r labordai.
- Yn yr wythnos ddiwethaf, cafodd bron i 70% o brofion Cymunedol: galw, ac 88% o brofion ysbyty eu prosesu yn labordai GIG Cymru a’u hawdurdodi o fewn un diwrnod. (Gweler Deall data ar brofion y coronafeirws (COVID-19) i gael rhagor o wybodaeth am y categorïau lleoliadau profion).
- Erbyn diwedd 9 Awst 2020, mae 68,550 o brofion gwrthgyrff wedi'u hawdurdodi ar gyfer trigolion Cymru a’u prosesu drwy labordai GIG Cymru gyda 7,282 o ganlyniadau positif.
Mae'r data ar gyfer 9 Awst yn cynnwys canlyniadau a awdurdodwyd cyn 1yp yn unig.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cwblhau eu gwaith i ddwyn ynghyd y profion sydd wedi'u hawdurdodi mewn labordai y tu allan i GIG Cymru (Labordai Goleudy) a’r profion sydd wedi’u prosesu yn labordai GIG Cymru. Mae Siart 1 yn dangos nifer y profion a awdurdodwyd yn labordai GIG Cymru ac mewn labordai heblaw rhai GIG Cymru.
- Roedd nifer y profion a awdurdodwyd yn labordai GIG Cymru wedi bod ar gynnydd tan ddechrau mis Mehefin. Gwelwyd cwymp bach ac yna fe wnaeth y lefelau wastatáu yn gyffredinol.
- Y nifer mwyaf o brofion a awdurdodwyd mewn un diwrnod calendr oedd ar 25 Gorffennaf, pan awdurdodwyd 7,608 o brofion yn labordai GIG Cymru a labordai heblaw am rai GIG Cymru.
- Mae’r ffigurau hyn yn cynnwys profion a broseswyd mewn labordai y tu allan i GIG Cymru, sy’n cynnwys samplau preswylwyr o Gymru a gymerwyd mewn canolfannau profi yn Lloegr, rhai canolfannau profi yng Nghymru, profion a archebir trwy'r porth cartref gofal a phecynnau profi gartref.
- Proseswyd y sampl cyntaf mewn labordy nad yw’n labordy GIG Cymru ar gyfer preswylydd o Gymru ar 24 Ebrill. Cynyddodd nifer y profion ar ôl cyflwyno profion cartref ar 18 Mai.
- Dechreuodd y profion a broseswyd trwy labordai heblaw rhai GIG Cymru gynyddu tua diwedd mis Mehefin. Mae hyn yn bennaf oherwydd i drigolion Cymru ddechrau archebu profion trwy'r porth cartref gofal sydd newydd ddod ar gael
2. Amseroedd dychwelyd ar gyfer profion antigenau
Mae’r ffigurau a ddangosir yn mesur o ddyddiad cofnodi casglu’r sampl i’r amser y bydd y canlyniad yn cael ei awdurdodi. Nid yw’n dangos pa mor hir y mae’n ei gymryd i unigolyn gael y canlyniad ar ôl cymryd y prawf.
Rhennir data ar yr amser a gymerir i dderbyn canlyniad prawf COVID-19 yn ôl y gwahanol ddulliau profi, gan y bydd hyn yn cael effaith ar yr amser a gymerir i brosesu’r prawf. Mae angen i brofion cartref gael eu postio a’u cludo i’r labordy. Gellir cynnal profion sgrinio mewn lleoliadau megis cartrefi gofal mewn sypiau o brofion ar gyfer gwahanol shifftiau staff cyn dychwelyd y profion i’r cludwr. Gall y dulliau hyn effeithio ar amser dychwelyd y prawf. Caiff profion sgrinio cartrefi gofal a brosesir gan labordai GIG Cymru eu cynnwys yn y ffigurau Cymunedol: rhaglen sgrinio asymptomatig rheolaidd.
O’r datganiad hwn ymlaen, rydym wedi rhannu’r profion cymunedol yn ôl l y gwahanol lwybrau, gan adrodd ar brofion a gynhelir oherwydd angen clinigol ar wahân i brofion a gynhelir er mwyn sgrinio unigolion sydd wedi’u nodi fel bod yn asymptomatig. Er bod y term 'ategol' yn cael ei ddefnyddio, gallai rhai o’r profion i sgrinio gweithwyr allweddol neu breswylwyr asymptomatig a gynhwysir yn y categori hwn fod yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb fel rhan o’r profi torfol a chymunedol ehangach. Mae angen gwaith pellach i ddeall y gwahaniaeth hwn yn llawn a gallai arwain at rywfaint o ailddosbarthu profion rhwng categorïau mewn datganiadau yn y dyfodol.
Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach yn ein hesboniad gan gynnwys yr hyn sy’n cael ei gynnwys ym mhob categori lleoliad: Deall data ar brofion y coronafeirws (COVID-19).
Yn flaenorol, byddai’r rhan fwyaf o’r samplau a gasglwyd mewn canolfannau profi rhanbarthol yn cael eu prosesu yn labordai GIG Cymru, fodd bynnag, mae nifer o’r canolfannau hyn bellach yn defnyddio labordai heblaw rhai GIG Cymru (sy’n cael eu galw’n labordai goleudy).
Ers dechrau profi hyd at ddiwedd y dydd ar 9 Awst 2020:
- awdurdodwyd 39,230 o brofion fel rhan o raglen sgrinio gymunedol, gyda 25.9% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn un diwrnod a 54.9% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn dau ddiwrnod
- awdurdodwyd 65,934 o brofion cymunedol ar alw, gyda 55.5% wedi’u hawdurdodi o fewn un diwrnod a 79.4% o ganlyniadau eu hawdurdodi o fewn dau ddiwrnod calendr
- awdurdodwyd 68,169 brofion mewn ysbytai, gyda 77.8% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn diwrnod ac 96.4% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn dau ddiwrnod
Yn ystod yr wythnos ddiweddaraf (yr wythnos yn dechrau 3 Awst 2020):
- awdurdodwyd 10,024 o brofion fel rhan o raglen sgrinio gweithwyr allweddol asymptomatig gyda 37.3% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn diwrnod, sy’n gynnydd o gymharu â’r wythnos flaenorol
- awdurdodwyd 3,141 o brofion fel rhan o’r rhaglen profi ar alw yn y gymuned, gyda 69.9% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn diwrnod, sydd ychydig yn llaw na’r wythnos flaenorol
- awdurdodwyd 4,494 o brofion mewn ysbytai, gyda 88.4% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn diwrnod, sy’n gynnydd bach o gymharu â’r wythnos flaenorol
Profion ategol yn bennaf yw’r profion a gynhelir fel rhan o raglen sgrinio asympotmatig rheolaidd a awdurdodir yn labordai GIG Cymru. Profion ategol yw pan caiff sampl ei gasglu mewn lleoliad gwahanol i’r ganolfan brofi, er enghraifft cartrefi gofal. Gelwir y mathau hyn o brofion yn brofion o bell, gan fod y sampl yn cael ei gymryd mewn man heblaw canolfan brofi. Ar ôl i’r sampl gael ei gymryd, caiff ei ddanfon gan gludwr i labordy i'w brosesu. Gall cartrefi gofal gwblhau sypiau o brofion ar gyfer gwahanol sifftiau staff cyn i'r cludwr ddychwelyd y profion. Gall y dulliau hyn gael effaith ar amser dychwelyd y prawf ac mae nifer mawr o brofion sydd yn y categorïau hyn yn rhai o gartrefi gofal.
Er bod y term 'ategol' yn cael ei ddefnyddio, gallai rhai o’r profion i sgrinio gweithwyr allweddol neu breswylwyr asymptomatig a gynhwysir yn y categori hwn fod yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb fel rhan o’r profi torfol a chymunedol ehangach. Mae angen gwaith pellach i ddeall y gwahaniaeth hwn yn llawn a gallai arwain at rywfaint o ailddosbarthu profion rhwng categorïau mewn datganiadau yn y dyfodol.
Mae mwyafrif y profion ar gyfer rhaglenni sgrinio gweithwyr allweddol eu prosesu mewn labordai GIG Cymru yn rhai ar gyfer cartrefi gofal (94%). Caiff dadansoddiad ei ddarparu yn y tablau data cysylltiedig.
Cyn 22 Mehefin, nid oedd modd rhannu’r data rhwng rhaglenni sgrinio ar alw a rhaglenni sgrinio gweithwyr allweddol. Caiff data cyfunol ar gyfer profion cymunedol cyn 22 Mehefin ac amseroedd dychwelyd yr wythnos flaenorol eu cynnwys yn y tablau data cysylltiedig.
Nid yw’r data ar gyfer yr wythnos ddiwethaf hyd at 9 Awst 2020 wedi cael eu cynnwys, ac mae ansawdd y data yn cael ei archwilio ar hyn o bryd. Ein bwriad yw cyhoeddi’r data diweddaraf yn y datganiad nesaf.
Ers dechrau profi hyd at ddiwedd y dydd ar 2 Awst 2020:
- awdurdodwyd 80,957 o brofion cartref gofal, gyda 51.3% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn diwrnod ac 88.4% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn dau ddiwrnod
- awdurdodwyd 34,314 brofion cartref, gyda 33.0% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn diwrnod ac 78.3% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn dau ddiwrnod
- awdurdodwyd 20,611 o brofion cymunedol a broseswyd mewn labordai heblaw am rai GIG Cymru, gyda 95.3% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn diwrnod ac 98.4% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn dau ddiwrnod
Yn ystod yr wythnos ddiweddaraf (yr wythnos yn dechrau 27 Gorffennaf 2020):
- awdurdodwyd 13,943 o brofion porth sefydliadol, gyda 52.8% yn cael eu hawdurdodi o fewn diwrnod, sydd ychydig yn uwch na’r wythnos ddiwethaf
- awdurdodwyd 3,122 o brofion cartref, gyda 49.6% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn dau ddiwrnod
- awdurdodwyd 4,593 o brofion cymunedol a broseswyd mewn labordai heblaw am rai GIG Cymru, gyda 97.6% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn diwrnod
3. Profion antigen i weithwyr hanfodol a phreswylwyr
Categori | Profion positif | Profion negatif | Nifer y profion |
---|---|---|---|
Gweithiwr allweddol: mewn cartref gofal | 1,356 | 95,140 | 96,496 |
Preswylydd: mewn cartref gofal | 1,348 | 38,753 | 40,101 |
Preswylydd neu weithiwr allweddol: mewn cartref gofal | 134 | 93,559 | 93,693 |
Cyfanswm: mwen cartref gofal | 2,838 | 227,452 | 230,290 |
Gweithiwr allweddol: mewn sefydliad addysgol | 23 | 839 | 862 |
Preswylydd: mewn sefydliad addysgol | 1 | 272 | 273 |
Preswylydd neu weithiwr allweddol: mewn sefydliad addysgol | 2 | 10 | 12 |
Cyfanswm: mewn sefydliad addysgol | 26 | 1,121 | 1,147 |
Gweithiwr allweddol: gwasanaethau brys | 149 | 1,008 | 1,157 |
Cyfanswm: gwasanaethau brys | 149 | 1,008 | 1,157 |
Gweithiwr allweddol: gofal iechyd | 6,390 | 24,927 | 31,317 |
Cyfanswn: gofal iechyd | 6,390 | 24,927 | 31,317 |
Gweithiwr allweddol: mewn hostel neu dŷ â chymorth | 16 | 932 | 948 |
Preswylydd: mewn hostel neu dŷ â chymorth | 71 | 2,788 | 2,859 |
Preswylydd neu weithiwr allweddol: mewn hostel neu dŷ â cymorth | 11 | 25 | 36 |
Cyfanswm: mewn hostel neu dŷ â chymorth | 98 | 3,745 | 3,843 |
Gweithiwr allweddol: mewn carchar neu ganolfan gadw | 25 | 132 | 157 |
Preswylydd: mewn carchar neu ganolfan gadw | 2 | 32 | 34 |
Preswylydd neu weithiwr allweddol: mewn carchar neu ganolfan gadw | 109 | 451 | 560 |
Cyfanswm: mewn carchar neu ganolfan gadw | 136 | 615 | 751 |
Gweithiwr allweddol: arall neu anhysbys | 501 | 5,368 | 5,869 |
Preswylydd: arall neu anhysbys | 102 | 574 | 676 |
Cyfanswm: arall neu anhysbys | 603 | 5,942 | 6,545 |
Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae Tabl 1 yn dangos nifer y profion a awdurdodwyd ar gyfer gweithwyr hanfodol a phreswylwyr yng Nghymru sydd wedi'u hawdurdodi yn labordai GIG Cymru a labordai heblaw rhai GIG Cymru.
Ar hyn o bryd mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gwneud gwelliannau i'r categori gweithwyr hanfodol a phreswylwyr yn eu data. Mae hyn wedi arwain at ddefnyddio diwygiadau yn y data a gwahanol gategorïau o gymharu â chyhoeddiadau blaenorol.
- Cynhaliwyd tua 84% o’r holl brofion ar weithwyr hanfodol ar breswylwyr cartrefi gofal neu weithwyr cartrefi gofal.
- Cafwyd canlyniad positif i 20% o’r profion a gynhaliwyd ar weithwyr gofal iechyd.
Mae nifer y profion a gofnodir ar gyfer gweithwyr hanfodol yn dibynnu ar y categori gweithwyr hanfodol sy'n cael ei gofnodi yn y system pan gymerwyd y sampl. Ar hyn o bryd nid yw'n bosibl gwahaniaethu rhwng gweithwyr allweddol a phreswylwyr ar gyfer samplau a broseswyd mewn labordai heblaw rhai GIG Cymru ac maent wedi'u cynnwys gyda'i gilydd yn y tabl.
Mae modd gwahaniaethu rhwng gweithwyr allweddol a phreswylwyr ar gyfer profion a awdurdodwyd mewn labordai GIG Cymru; fodd bynnag, nid yw’n bosibl gwneud hyn ar gyfer profion a awdurdodwyd mewn labordai heblaw rhai GIG Cymru. O ran profion a awdurdodwyd mewn labordai heblaw rhai GIG Cymru, defnyddiwyd y lleoliad i nodi gweithwyr allweddol a phreswylwyr. Er enghraifft, mae profion a awdurdodwyd mewn labordai heblaw rhai GIG Cymru ar samplau a gasglwyd mewn cartref gofal wedi’u cynnwys yn y categori ‘preswylydd neu weithiwr allweddol: mewn cartref gofal’ yn Nhabl 1.
4. Profion gwrthgyrff i Weithwyr hanfodol a phreswylwyr
Categori | Profion positif | Profion negatif | Profion amhendant | Nifer y profion |
Preswylydd neu weithiwr allweddol: mewn cartref gofal | 39 | 211 | 9 | 259 |
Preswylydd neu weithiwr allweddol: mewn sefydliad addysgol | 1,105 | 18,752 | 130 | 19,987 |
Gweithiwr allweddol: gwasanaethau brys | 59 | 337 | 6 | 402 |
Gweithiwr allweddol: gofal Iechyd | 4,968 | 34,009 | 61 | 39,038 |
Preswylydd neu weithiwr allweddol: arall neu anhysbys | 23 | 413 | 6 | 442 |
Preswylydd neu weithiwr allweddol: mewn carchar neu ganolfan gadw | * | * | * | 14 |
Preswylydd: mewn hostel neu dŷ â cymorth | * | * | * | * |
Aelod o gartref gweithiwr allweddol | * | * | * | 6 |
Heb ei nodi | 1,086 | 7,235 | 80 | 8,401 |
Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru & GIG Cymru Gwasanaeth Gwybodeg
* Mae'r eitem ddata yn cael ei hatal er mwyn osgoi datgelu.
Mae Tabl 2 yn dangos nifer y profion gwrthgyrff a awdurdodwyd yn labordai GIG Cymru a phrofion llif unffordd.
Ers i'r profion ddechrau hyd at ddiwedd 9 Awst 2020, mae 19,987 o brofion gwrthgyrff wedi’u cynnal ar weithwyr allweddol neu breswylwyr mewn sefydliad addysgol a 39,038 o brofion gwrthgyrff wedi’u cynnal ar weithwyr allweddol gofal iechyd. Mae hyn yn adlewyrchu'r strategaeth samplu presennol o flaenoriaethu profion gwrthgyrff ar gyfer y gweithwyr allweddol a'r preswylwyr hyn. Mae'r data hyn yn cynnwys 10,228 o brofion llif unffordd.
Mae nifer y profion a'r canlyniadau yn cynnig ciplun o’r sefyllfa a bydd y strategaeth samplu yn dylanwadu'n fawr arno ar yr eiliad honno. Ar hyn o bryd, dim ond i grwpiau blaenoriaeth y mae profion gwrthgyrff ar gael. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y dudalen Profion gwrthgyrff: coronafeirws (COVID-19) ar ein gwefan.
Os yw canlyniad prawf gwrthgyrff yn amwys, mae'n golygu bod y canlyniad yn amhendant.
5. Cefndir
Rydym yn cyhoeddi’r data i ddarparu crynodeb wythnosol o’r gweithgarwch profi yng Nghymru, gan gynnwys profion ar weithwyr hanfodol, preswylwyr ac amseroldeb y profion.
O 13 Gorffennaf, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyfuno profion a chanlyniadau a broseswyd yn labordai GIG Cymru a labordai heblaw GIG Cymru, a adroddwyd yn flaenorol ar wahân. Mae Siart 1 a Thabl 1 yn cynnwys profion a broseswyd ar gyfer preswylwyr Cymru trwy labordai GIG Cymru a labordai nad ydynt yn GIG Cymru (Lighthouse Labs). Siart 2 yn dangos dim ond profion mewn labordai awdurdodedig GIG Cymru a Siart 3 profion yn dangos dim ond awdurdodi drwy labordai nad ydynt yn GIG Cymru. Mae Tabl 2 yn dangos profion gwrthgyrff a awdurdodwyd trwy labordai GIG Cymru a phrofion llif ochrol.
Mae’r data yn y ddogfen hon yn seiliedig ar gymysgedd o ddyddiadau ar wahanol gyfnodau yn y broses brofi, fel dyddiad y sampl, y dyddiad prosesu a’r dyddiad awdurdodi. Mae pob tabl yn y daenlen Data Agored yn manylu ar yr amserlen adrodd.
Mae ein hesboniad data o dan y teitl Deall data ar brofion coronafeirws (COVID-19) yn rhoi esboniad pellach ar y data a ddefnyddiwyd gan gynnwys y gwahaniaeth mewn dyddiadau a ffynonellau data.
Defnyddir profion gwrthgyrff COVID-19 i weld os yw person eisoes wedi cael y feirws. Mae’r prawf gwrthgyrff yn gweithio drwy gymryd sampl o waed a’i brofi i weld os oes gwrthgyrff yn bresennol. Caiff gwrthgyrff eu cynhyrchu gan y corff mewn ymateb i haint, ac maent fel rheol i’w gweld yn y gwaed tua phythefnos ar ôl i berson gael ei heintio.
Dim ond i grwpiau blaenoriaeth y mae profion gwrthgyrff ar gael ar hyn o bryd gyda phrofion wedi'u blaenoriaethu ar gyfer sampl o staff ysgolion sydd wedi gweithio o'r blaen mewn hybiau addysg a gweithwyr gofal iechyd. Gellir gweld esboniad pellach o brofion gwrthgyrff yng Nghymru ar ein tudalennau polisi: Deall data ar brofion coronafeirws (COVID-19).
Mae’r data yn y ddogfen hon yn gywir am 23:59 ar 9 Awst.
6. Gwybodaeth ansawdd a methodoleg
Cyd-destun
Mae’r data yn wybodaeth reoli sydd wedi’i chasglu i gefnogi gweithgarwch profi. Rydym yn cyhoeddi’r data i ddarparu crynodeb amserol o weithgarwch profi ond nid yw wedi bod yn destun yr un lefel o sicrwydd ansawdd â’r ystadegau swyddogol, gyda’r data yn destun diwygiadau yn y dyfodol. Daw’r crynodeb wythnosol hwn o wybodaeth am brofion COVID-19 o ddangosfwrdd gwyliadwriaeth dyddiol Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ogystal â manylion ychwanegol ar nifer y profion ar weithwyr hanfodol a lleoliad casglu’r sampl i’w brofi.
Mae’r wybodaeth hon yn helpu i fonitro effaith COVID-19 a chyfrannu at fonitro a gwneud penderfyniadau yng Nghymru.
Perthnasedd
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dadansoddi data profion cleifion gan System Rheoli Gwybodaeth Labordai Cymru fel rhan o’u cyfrifoldebau cadw gwyliadwriaeth ar glefydau. Yn ogystal, defnyddir yr ystadegau hyn at sawl diben arall:
- deall effaith pandemig COVID-19
- cefnogi’r cyngor seiliedig ar dystiolaeth am adolygiadau o drefniadau’r cyfyngiadau symud
- cyfrannu at waith monitro a gwneud penderfyniadau yng Nghymru a’r DU
Cywirdeb
Mae Canolfan Arolygu Clefydau Trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gyfrifol am wneud gwaith gwyliadwriaeth ar heintiau anadlol yng Nghymru, gan gynnwys y coronafeirws (COVID-19).
Mae data clinigol yn cael eu cadw yn System Rheoli Gwybodaeth Labordai Cymru, gan gynnwys data am brofion COVID-19. Bydd y data yn cael eu defnyddio a’u trin gan ddadansoddwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan gynnwys dileu achosion positif sydd wedi’u dyblygu ar y dangosfwrdd gwyliadwriaeth dyddiol. Mae’r data yn cael eu hadolygu yn ddyddiol a’u hystyried fel data dros dro yn amodol ar eu diwygio yn y dyfodol.
Mae gwahanol ddyddiadau profi wedi’u defnyddio wrth roi gwybod am ddata profion yn dibynnu ar natur y data a’u defnydd. Ar gyfer data gwyliadwriaeth cyflym defnyddiwyd y dyddiad prawf a awdurdodwyd ac mae wedi’i gynnwys yn y ffigurau pennawd a gyflwynwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ond ar gyfer gwyliadwriaeth fanwl dros amser defnyddiwyd dyddiad y sampl.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn ein hesboniad data: Deall data ar brofion coronafeirws (COVID-19).
Amseroldeb a phrydlondeb
Mae’r data yn y datganiad hwn yn darparu data o 18 Mawrth 2020 ymlaen.
Hygyrchedd ac eglurder
Mae’r datganiad ystadegol hwn wedi’i gyhoeddi ac yna ei gynnwys yn adran Ystadegau ac Ymchwil ein gwefan. Mae’n cynnwys Taenlen Dogfen Agored fel y gall defnyddwyr gael mynediad uniongyrchol i’r data sy’n sail i’r siartiau yn y datganiad hwn.
Cymaroldeb
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynhyrchu dangosfwrdd gwyliadwriaeth dyddiol lle gall defnyddwyr weld yr wybodaeth ddiweddaraf ar y nifer o brofion a awdurdodwyd, yr unigolion a brofwyd (profion a gynhaliwyd) ac achosion positif.
Mae’r data ar gyfer Lloegr yn cael eu cyhoeddi ar dudalennau Coronafeirws (COVID-19) yn y DU ar wefan GOV.UK.
Mae’r data ar gyfer yr Alban yn cael eu cyhoeddi ar dudalennau Coronafeirws (COVID-19): data dyddiol yr Alban ar wefan GOV.SCOT.
Mae’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol hefyd yn cyhoeddi gwybodaeth ddyddiol am brofion ac achosion positif.
Statws Ystadegau Gwladol
Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Ond cyn belled ag sy’n ymarferol, maent wedi’u casglu a’u dilysu yn unol â’r pileri a’r egwyddorion yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rydym yn parhau i ddatblygu’r data a gasglwyd a’r broses sicrwydd ansawdd i wella’r data.
Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau ar draws y byd.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Diben Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Diben y nodau yw creu Cymru sy’n fwy cyfartal, lewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus, a diwylliant bywiog lle mae’r iaith Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ('dangosyddion cenedlaethol') y mae’n rhaid eu defnyddio at ddiben mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Gosodwyd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol ym mis Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth ar y dangosyddion, ynghyd â disgrifiad o bob un o’r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Gwybodaeth bellach ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau yn y datganiad hwn hefyd gyfrannu at y dangosyddion cenedlaethol a gellir eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer llunio asesiadau llesiant lleol a chynlluniau llesiant lleol.
Diweddariad nesaf
Datganiad ystadegol wythnosol yw hwn ar hyn o bryd. Bydd yn cael ei gyhoeddi am 12.30yp bob dydd Mawrth. Byddwn yn adolygu hyn yn unol ag anghenion newidiol y defnyddwyr.
Bydd y datganiad nesaf yn cael ei gyhoeddi ddydd Mercher 19 Awst.
Rydym eisiau eich adborth
Rydym yn croesawu adborth ar unrhyw agwedd o’r ystadegau hyn. Gallwch anfon adborth dros e-bost i kas.covid19@llyw.cymru.
7. Manylion cyswllt
Ystadegydd: Matthew Curds
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SFR 110/2020