Julie Morgan AS, Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Jane Hutt AS, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip
Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod yn lansio’r Grant Darparwyr Gofal Plant heddiw.
Fel rhan o becyn cymorth cynhwysfawr i fusnesau ledled Cymru sydd yn teimlo effaith y coronafeirws, bydd y Grant Darparwyr Gofal Plant yn darparu cymorth penodol i’r sector gofal plant yng Nghymru.
Ers mis Mawrth, mae llawer o’n darparwyr gofal plant wedi wynebu heriau sylweddol yn sgil y coronafeirws. Er mwyn rheoli lledaeniad y feirws roedd angen cadw niferoedd y plant yn isel. Rydym yn cydnabod bod hynny wedi bod yn gostus i ddarparwyr.
Er bod nifer y bobl a oedd defnyddio eu gwasanaethau wedi gostwng, roedd gan ddarparwyr filiau i'w talu o hyd, gan gynnwys cyflogau staff. Er bod llawer o ddarparwyr wedi aros yn agored i ofalu am blant ein gweithwyr allweddol a'n plant mwyaf bregus, ac rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am wneud hynny, bu'n rhaid i eraill gau.
Bydd y Grant Darparwyr Gofal Plant yn achubiaeth ariannol, y mae dirfawr angen amdani, i ddarparwyr gofal plant nad ydynt wedi gallu manteisio ar becynnau cymorth eraill sy’n cael eu cynnig gan y Llywodraeth. Bydd hefyd yn help i sicrhau bod lleoedd gofal plant ffurfiol ar gael i rieni wrth i ysgolion ail-agor ym mis Medi. Mae hyn yn bwysig ar gyfer sicrhau digon o gapasiti yn y sector sy’n allweddol i helpu teuluoedd sy’n gweithio.
Mae'r cynllun ar gael i'r lleoliadau hynny nad ydynt wedi gallu manteisio ar y cynlluniau cymorth busnes eraill sy’n cael eu cynnig gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru a bydd y rhan fwyaf o ddarparwyr yn gymwys i gael grant o £2,500. Mae sicrhau bod lleoedd gofal plant ffurfiol ar gael yn allweddol wrth i ni gychwyn ar y broses adfer ac rydym yn falch ein bod yn gallu cynnig y grant hanfodol hwn i'r rheini yn y sector sydd wedi methu â manteisio ar y mesurau cymorth eraill. Menywod yw dros 95% o weithlu’r blynyddoedd cynnar, ac fe fyddai cau gwasanaethau o’r fath a cholli swyddi yn effeithio’n anghymesur ar fenywod sy’n darparu gwasanaeth hanfodol i rieni ym mhob cwr o Gymru. Mae colli lleoedd gofal plant ffurfiol hefyd yn effeithio’n anghymesur ar fenywod, gan mai mamau fydd fwyaf tebygol o leihau eu horiau gwaith neu adael eu swyddi.
Rydym yn ymwybodol iawn o'r heriau y mae'r sector gofal plant wedi'u hwynebu ac am ddiolch i'r holl ddarparwyr gofal plant am eu dyfalbarhad a'u proffesiynoldeb yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y rôl bwysig sydd gan y sector gofal plant fel rhan o'r economi sylfaenol ac rydym yn benderfynol o gefnogi'r sector wrth i'r economi ail gychwyn.
Ers 22 Mehefin, mae darparwyr gofal plant wedi gallu gofalu am fwy o blant a chynyddu eu capasiti neu ail-agor yn llawn. Bydd y cynllun hwn yn helpu i sicrhau bod mwy o ddarparwyr yn ail-agor wrth i'r ysgolion ail-agor ym mis Medi.
Bydd y cynllun yn grant untro i helpu darparwyr i ymdopi â'r beichiau ariannol ychwanegol y maent wedi'u hwynebu ers mis Mawrth, wrth i lawer o leoliadau weld gostyngiad mewn incwm tra'n parhau i dalu costau megis rhent, cyfleustodau a chostau cyflogau nas diwallwyd. Mae'r cynllun hefyd yn ceisio helpu i wneud y sector gofal plant yn fwy gwydn ar gyfer y dyfodol drwy ei gwneud yn ofynnol i leoliadau anghorfforedig gofrestru fel cwmni cyfyngedig drwy warant, cwmni cyfyngedig preifat, Cwmni Buddiannau Cymunedol neu Sefydliad Corfforedig Elusennol.
Bydd y cynllun yn dechrau gwahodd ceisiadau ar 24 Awst a bydd y cynllun yn cau ar 31 Hydref 2020. Bydd y taliadau cyntaf yn cael eu gwneud i ddarparwyr ym mis Medi drwy eu hawdurdod lleol.
Rydym yn gobeithio y bydd y datganiad hwn yn help i rieni a darparwyr gynllunio’n fwy pendant ar gyfer y dyfodol.
Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau. Os bydd Aelodau eisiau i’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddai’n hapus i wneud hynny.