Mae’r ymchwil hon yn edrych ar y boddhad o fewn y sector rhentu preifat; yr ystyriaethau a’r prosesau sy’n ymwneud â chanfod eiddo newydd yn y sector rhentu preifat; a barn am sicrwydd tenantiaeth.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Prif ganfyddiadau
- Dyheadau’r tenant mewn perthynas â thai yn y dyfodol: roedd gan y cyfranogwyr ieuengaf ddyheadau i fod yn berchen-feddianwyr; roedd y bobl hŷn a gyfrannodd yn byw ar eu pennau eu hunain neu’n rieni sengl a oedd yn fwy tebygol o fynegi diddordeb mewn symud i’r sector cymdeithasol.
- Dywedwyd fod y cyfnod hysbysu lleiaf o ddeufis i hysbysiadau Adran 21 yn achosi ansicrwydd, straen a phroblemau iechyd meddwl ymhlith y cyfranogwyr a oedd wedi wynebu’r profiad o gael eu troi allan.
- Diffyg ymwybyddiaeth o gymorth tenantiaeth ymysg landlordiaid. Mae yna farn bod angen mwy o hyfforddiant i landlordiaid ynghylch ffactorau cymhleth sy'n gallu effeithio ar denantiaethau, fel iechyd meddwl.
- Canfod blaendal oedd y broblem fwyaf sy'n wynebu tenantiaid, yn enwedig gan fod yn rhaid talu blaendal yn aml cyn i flaendal o eiddo rhent blaenorol gael ei ddychwelyd.
- Galw cynyddol a chystadleurwydd y sector rhentu preifat yn ei gwneud yn anos dod o hyd i lety addas. Roedd rhai cyfranogwyr wedi setlo am eiddo newydd nad oedd yn bodloni eu hanghenion, neu wedi gorfod aros gyda ffrindiau ar ôl cael hysbysiad Adran 21.
- Roedd cynyddu’r cyfnod hysbysu o ddeufis yn cael ei groesawu gan y cyfranogwyr ar sail eu profiadau.
- Roedd y cyfranogwyr yn teimlo y byddai 6 mis yn fwy angenrheidiol i denantiaid sy’n byw mewn ardaloedd gwledig oherwydd y prinder eiddo sydd ar gael.
- Roedd y cyfranogwyr yn croesawu cyfnodau hysbysu a oedd yn deg ar y tenant a’r landlord ac yn awgrymu 3 neu 4 mis.
Adroddiadau
Deall profiadau tenantiaid o’r sector rhentu preifat , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Rhian Davies
Rhif ffôn: 0300 025 6791
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.