Dadansoddiad o gyfran y bobl sy'n profi'n bositif, cyfradd yr heintiau newydd a chyfran y bobl â gwrthgyrff ar gyfer COVID-19 ar gyfer 14 i 20 Awst 2020.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Arolwg heintiadau coronafeirws (COVID-19) (amcangyfrifon positifedd)
Nod Arolwg Heintiadau COVID-19 yw darganfod:
- faint o bobl sydd â’r haint dros gyfnod penodol
- faint o achosion newydd sy'n digwydd dros gyfnod penodol
- faint o bobl sydd â gwrthgyrff i COVID-19.
Bydd yr arolwg yn helpu i olrhain lefelau heintio a throsglwyddo COVID-19 ymhlith pobl mewn preswylfeydd preifat, sef y boblogaeth gymunedol. Yn ogystal ag edrych ar nifer yr achosion yn gyffredinol, defnyddir yr arolwg i edrych ar nodweddion y rhai sy'n profi'n bositif am COVID-19 a gweld i ba raddau y mae pobl sydd wedi’u heintio yn cael symptomau.
Dechreuodd y gwaith maes yng Nghymru ar 29 Mehefin 2020 ac mae'r canlyniadau ar gael yn awr. Mae'n bwysig nodi bod cryn dipyn o ansicrwydd o ran yr amcangyfrifon. Y rheswm am hyn yw, er gwaethaf sampl fawr o gyfranogwyr, bod nifer yr achosion positif a nodwyd yn fach. Rhoddir yr amcangyfrifon gyda chyfyngau credadwy o 95% i ddangos yr ystod y gallwn fod yn hyderus bod y gwir ffigur wedi’i gynnwys ynddi.
Mae'r canlyniadau ar gyfer cartrefi preifat yn unig ac nid ydynt yn cynnwys pobl mewn ysbytai, cartrefi gofal neu leoliadau sefydliadol eraill.
Mae'r canlyniadau diweddaraf ar gyfer Cymru yn dangos, ar gyfer yr wythnos o 14 i 20 Awst 2020, yr amcangyfrifir bod cyfartaledd o 0.04% o'r boblogaeth gymunedol wedi cael COVID-19 (cyfwng credadwy o 95%: 0.01% i 0.09%).
Mae hyn yn cyfateb i tua 1 o bob 2,800 o unigolion (cyfwng credadwy o 95%: 1 mewn 14,700 i 1 mewn 1,200), neu amcangyfrif o 1,100 o bobl i gyd (cyfwng credadwy: 200 i 2,700).
Mae modelu'n awgrymu bod y gyfradd wedi bod yn sefydlog dros y 6 wythnos diwethaf.
Bydd rhagor o ddadansoddi yn bosibl wrth i'r arolwg fynd rhagddo ac wrth i fwy o ddata fod ar gael. Rydym yn bwriadu cyhoeddi amcangyfrifon ar gyfer mynychder (nifer yr heintiau newydd fesul 10,000 o bobl) a chyfran y bobl sydd â gwrthgyrff i COVID-19 pan fydd data ar gael i gynnal y lefel hon o ddadansoddi.
Adroddiadau
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.