Heddiw (dydd Gwener 7 Awst), cadarnhaodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, y bydd pyllau nofio, stiwdios ffitrwydd dan do a chanolfannau hamdden yn gallu ailagor o ddydd Llun ymlaen.
Bydd ardaloedd chwarae dan do i blant hefyd yn gallu agor eu drysau unwaith eto fel rhan o’r newidiadau diweddaraf i reoliadau’r coronafeirws yng Nghymru. Fodd bynnag, dylai ardaloedd megis pyllau peli nad oes modd eu glanhau yn hawdd barhau ar gau.
Mae Prif Weinidog Cymru yn pwysleisio pa mor bwysig ydyw i ddilyn y rheolau perthnasol mewn bariau, bwytai a chaffis sydd bellach wedi ailagor ac mewn gweithleoedd.
Dan gyfraith Cymru, mae’n ofynnol bod mesurau yn cael eu cymryd i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y mathau hyn o eiddo. Mae hynny’n cynnwys sicrhau bod pobl yn cadw 2 fetr o bellter rhwng ei gilydd lle bo’n bosibl a chymryd camau eraill i osgoi rhyngweithio agos megis gosod sgriniau neu wisgo gorchuddion wyneb a gwella hylendid. Rhaid darparu gwybodaeth hefyd i gwsmeriaid a staff i’w helpu i ddeall yr hyn y mae’n rhaid iddynt wneud i gadw’n ddiogel yn yr eiddo.
Mae Llywodraeth Cymru yn cryfhau’r pwerau sydd gan awdurdodau lleol i orfodi’r gofynion hyn. Mae hyn yn galluogi swyddogion gorfodi i gyflwyno Hysbysiad Gwella Eiddo i dynnu sylw at dor-cyfraith ac i nodi mesurau sydd angen eu cymryd yn yr eiddo i gydymffurfio â’r gyfraith.
Os na chydymffurfir â’r Hysbysiad Gwella Eiddo, neu os oes achos difrifol o dor-cyfraith, gellir cau eiddo drwy gyflwyno Hysbysiad Cau Eiddo.
Pan gaiff hysbysiadau eu cyflwyno, bydd arwyddion yn cael eu harddangos mewn man amlwg i roi gwybod i bobl bod angen gwelliant neu y bu gorfod cau eiddo.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:
Rydym yn parhau i fynd ati fesul cam i lacio’r cyfyngiadau symud, gan fonitro effaith pob newid a wnawn. Wrth i fwy o rannau o’n cymdeithas a’n heconomi ailagor, mae’n bwysig ein bod yn cyflawni ein cyfrifoldeb personol i wneud y peth iawn a sicrhau ein bod yn parhau i ddiogelu ein hunain a phawb sy’n annwyl inni rhag y feirws.
Mae hyn yn golygu cadw 2 fetr o bellter oddi wrth eraill, golchi ein dwylo’n aml a gwisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus. Maent yn gamau syml sydd o fudd inni gyd. Nid yw’r rheolau sydd gennym yn eu lle yn opsiynol - maent yno i’n diogelu i gyd. Maent yn hanfodol os yw Cymru am osgoi cyfnod arall o gyfyngiadau symud.
Wrth i fwy a mwy o eiddo agor, mae’r rheolau penodol sy’n gymwys i’r mathau hynny o eiddo, ac i bob gweithle, yn arbennig o bwysig oherwydd fe’u lluniwyd i’n cadw’n ddiogel.
O ran y lleiafrif bach o unigolion a busnesau sy’n penderfynu peidio â dilyn y canllawiau, rwyf am ddweud yn glir y byddwn yn cymryd camau gweithredu ac yn cau eiddo unigol ar unwaith pe bai angen.
Mae awdurdodau lleol yn cael gwell pwerau i ymyrryd, ac i ymateb yn fwy effeithlon i gwynion gan gynnwys y rheini sy’n dod i sylw TUC Cymru a’i undebau cysylltiedig.
Fel y gwelwn mewn sawl man ar draws y byd, nid yw’r pandemig drosodd a rhaid inni barhau’n wyliadwrus. Mae risg sylweddol y gallai nifer yr achosion yng Nghymru gynyddu unwaith eto a bydd rhaid inni gymryd camau pellach pe bai hynny’n digwydd. Dim ond drwy barhau i wneud ein rhan y gallwn gadw Cymru’n ddiogel.”
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i edrych i weld a oes modd newid y rheolau i alluogi pobl i gwrdd dan do gyda phobl nad ydynt yn perthyn i’w haelwyd neu eu haelwyd estynedig o Awst 15 ymlaen.