Newidiadau i drefniadau adrodd Cyfnod Allweddol 4 o Flwyddyn Academaidd 2022 i 2023
Diweddariad ar drefniadau adrodd Cyfnod Allweddol 4 o 2022 i 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Diweddariad ar drefniadau adrodd Cyfnod Allweddol 4 o 2022 i 23.
Mae'r Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cyhoeddi ailgychwyn trefniadau adrodd ar ddata cymwysterau Cyfnod Allweddol 4 a gyhoeddwyd ddiwethaf yn 2019. Trefniant dros dro fydd hwn, wrth i ni ystyried y canfyddiadau a gyflwynwyd yn yr adroddiad Datblygu ecosystem data a gwybodaeth newydd sy’n cefnogi’r system ysgolion ddiwygiedig yng Nghymru. Yna byddwn yn symud tuag at system fwy holistaidd sy'n hybu dysgu ac yn rhoi dysgwyr, athrawon a rhieni wrth wraidd popeth.
Mae ymateb Estyn i ddatganiad y Gweinidog ar gael ar wefan Estyn.
Beth yw’r prif bwyntiau?
- Yn dilyn cyfnod o dair blynedd pan gafodd y trefniadau eu hatal dros dro oherwydd COVID-19, bydd trefniadau adrodd data cymwysterau Cyfnod Allweddol 4 yn ailddechrau ar gyfer blwyddyn academaidd 2022 i 2023 ar ffurf y mesurau dros dro a gyflwynwyd ac a gyhoeddwyd ddiwethaf yn 2019.
- Bydd y mesurau'n rhoi set gyfarwydd o ddata canlyniadau cymwysterau cadarn sydd wedi’u dilysu i ysgolion a fydd, ochr yn ochr â'r ystod ehangach o wybodaeth am ddysgwyr a’r ysgol sydd ganddynt eisoes, yn helpu i lywio eu penderfyniadau hunanwerthuso a gwella, yn unol â'n Canllawiau Gwella Ysgolion.
- Nid yw'r wybodaeth hon i'w defnyddio ar ei phen ei hun i farnu neu gymharu ysgolion ac ni ddylid ei defnyddio i yrru penderfyniadau nad ydynt er budd gorau’r dysgwyr. Yn ogystal â hynny, oherwydd y gwahanol drefniadau asesu a graddio sydd wedi digwydd o achos y pandemig, dylid bod yn ofalus wrth wneud unrhyw gymariaethau ar draws blynyddoedd.
- Bydd y mesurau'n bodoli am gyfnod dros dro tra bo gwaith yn parhau ar ddatblygu ecosystem gwybodaeth fwy holistaidd sy’n hybu dysgu ac yn rhoi dysgwyr, athrawon a rhieni wrth wraidd popeth.
- O 2022 i 2023, bydd data deilliannau cymwysterau Cyfnod Allweddol 4 yn cael ei adrodd ar lefel genedlaethol, lefel awdurdod lleol a lefel ysgol. Bydd data deilliannau cymwysterau Cyfnod Allweddol 4 ar lefel ysgol ar gael ar FyYsgoLeol a’r data ar lefel genedlaethol a lleol ar StatsCymru
- Nid yw Rheoliadau Llacio’r Gofynion Adrodd mewn Ysgolion (Cymru) (Coronafeirws) 2020 a Rheoliadau Llacio’r Gofynion Adrodd mewn Ysgolion (Cymru) (Coronafeirws) 2021, a ddaeth i rym ar 7 Awst 2020 a 18 Mehefin 2021 yn y drefn honno, yn gymwys mewn perthynas â 2022 i 2023 ac wedi hynny.