Yr wybodaeth reoli ddiweddaraf ynghylch prentisiaid yng Nghymru a roddwyd ar ffyrlo neu a ddiswyddwyd yn ystod pandemig y coronafeirws hyd at 28 Awst 2020.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Prentisiaid a roddwyd ar ffyrlo neu a ddiswyddwyd yn ystod pandemig coronafeirws (COVID-19)
Darperir yr wybodaeth reoli hon i Lywodraeth Cymru gan ddarparwyr prentisiaethau, ac ar sail data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru. Nid yw ei hansawdd wedi’i sicrhau i’r un graddau â’r ystadegau swyddogol.
Prif bwyntiau
- Mae nifer y prentisiaid sydd ar ffyrlo wedi gostwng 2,835 (37%) o uchafswm o 7,770 ar 29 Mai 2020.
- Roedd 4,930 prentis yn dal ar ffyrlo ar 28 Awst 2020.
- Roedd 195 prentis wedi cael eu diswyddo, ond maent yn parhau â’u rhaglen ddysgu tra bo’u darparwr yn ceisio dod o hyd i gyflogwr arall.
- Rhoddwyd terfyn ar brentisiaeth 50 unigolyn yn sgil eu diswyddo.
Y prentisiaid sydd wedi eu heffeithio fwyaf yw:
- yn ifanc
- yn wrywaidd
- yn wyn neu o hil gymysg
- yn gweithio yn y meysydd gwallt a harddwch; hamdden, chwaraeon a theithio; neu letygarwch
- ddim yn astudio prentisiaethau uwch
- yn gweithio i gwmnïau â llai na 50 o gyflogeion
- wedi’u cyflogi gan y sector preifat
- yn byw mewn cymdogaethau llai difreintiedig
- wedi hunan-nodi bod ganddynt 'brif anabledd a/neu anhawster dysgu'
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Gwybodaeth reoli: prentisiaid a roddwyd ar ffyrlo neu a ddiswyddwyd yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19): hyd at 28 Awst 2020 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 53 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.addysgol16@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.