Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw, hoffwn gyhoeddi cyfres o fesurau i sicrhau bod pobl sydd wedi eu heintio â COVID-19 yn cysylltu â gwasanaethau meddygol mewn da bryd, er mwyn cael y cymorth y mae ei angen arnynt.
Clefyd newydd yw hwn ac rydym yn dal i ddysgu sut y mae’n effeithio ar bobl a phryd y dylent geisio cymorth. I’r rhan fwyaf o bobl bydd hwn yn salwch ysgafn. Ni fydd rhai pobl yn cael symptomau o gwbl, ac i lawer sydd yn datblygu symptomau, bydd y symptomau hynny’n anghyfforddus, ond ni fyddant yn ddifrifol. Fodd bynnag, fel y gwyddom yn rhy dda, bydd rhai pobl yn datblygu salwch mwy difrifol a bydd angen iddynt gael eu derbyn i’r ysbyty. Rydym wedi bod yn edrych ar y ffordd y mae pobl yn cysylltu â GIG Cymru i ofyn am gyngor neu gymorth, gan ystyried a oes angen inni addasu ein dull gweithredu. Mae rhannau eraill o’r DU hefyd yn cynnal eu hadolygiadau hwythau.
Er enghraifft, yn ystod profiad arferol o bandemig anadlol, y disgwyl fyddai bod pobl yn cael trafferth anadlu wrth i’w cyflwr waethygu. Dyma fyddai’r prif symptom i gadw golwg amdano. Ond mae profiad yn dangos bod COVID-19 yn wahanol. Mae’n wir bod rhai pobl yn dioddef o ddiffyg anadl, ond nid yw llawer o bobl sy’n mynd yn ddifrifol wael yn dioddef o’r symptom hwn, er gwaethaf y ffaith bod lefel yr ocsigen yn eu gwaed yn disgyn wrth iddynt frwydro i amsugno’r ocsigen sydd yn eu hysgyfaint. Ymddengys mai’r ffaith ryfedd hon yw’r rheswm pam nad yw rhai pobl yn sylweddoli eu bod yn mynd yn ddifrifol wael, gan nad ydynt yn ei chael yn anodd anadlu.
Rydym hefyd wedi canfod nifer o ffactorau eraill a allai fod yn gysylltiedig â’r cyflwr yn gwaethygu, megis nad yw’r symptomau’n gwella ar ôl saith niwrnod, neu eu bod yn mynd yn waeth, ac yn cynnwys chwydu, diffyg anadl neu flinder. Felly rydym yn cynghori pobl sy’n hunanynysu gartref oherwydd bod ganddynt COVID-19 i gadw golwg am y symptomau hyn ac i gysylltu â’r gwasanaeth 111 neu eu meddyg teulu os yw’r symptomau’n ymddangos. Mae’r cyngor clinigol i feddygon teulu a gwasanaethau cymunedol eisoes wedi cael ei ddiweddaru ers 16 Mehefin, ac mae clinigwyr yn y gymuned yn gwybod i gadw golwg am y symptomau hyn. Rwy’n gwybod y bydd llawer o bobl braidd yn amharod i roi pwysau ychwanegol ar eu meddyg teulu yn ystod y cyfnod anodd hwn, ond mae’n bwysig nad yw pobl yn ceisio ymdopi am yn rhy hir ar eu pennau eu hunain, ac nad ydynt yn ei gadael yn rhy hwyr cyn cael cymorth.
Asesu lefel yr ocsigen yn y gwaed yw’r elfen bwysicaf o’r asesiad clinigol. Y prif ddull a ddefnyddir i fesur y lefel honno yw dyfais o’r enw ocsifesurydd pwls. Dyfeisiau cludadwy bach yw’r rhain sy’n cael eu cysylltu â blaen bys yr unigolyn, gan ddangos lefel yr ocsigen yn y gwaed. Mae’n bwysig defnyddio’r dyfeisiau hyn, a bod y canlyniadau’n cael eu dehongli’n gywir. Dyna pam yr ydym yn credu bod ganddynt rôl bwysig i’w chwarae yn yr asesiadau clinigol a wneir gan wasanaethau gofal sylfaenol. Mae meddygon teulu a thimau nyrsys ardal eisoes yn meddu ar y dyfeisiau hyn. Fodd bynnag, byddwn yn dosbarthu rhai miloedd o ddyfeisiau ychwanegol i feddygon teulu er mwyn iddynt allu cynyddu eu defnydd o ocsimetreg pwls.
Mae’r Prif Swyddog Meddygol hefyd wedi ysgrifennu at wasanaethau ymarfer cyffredinol i dynnu sylw at y casgliadau hyn, ac i argymell bod meddygon teulu yn mabwysiadu trothwy is ar gyfer pryd i ddefnyddio ocsimetreg pwls, yn unol â’r cyngor newydd ar symptomau. Oherwydd hynny, mae’n amlwg y bydd angen cynnal mwy o ymgyngoriadau wyneb yn wyneb. Mae’n bosibl y bydd practisau’n dymuno defnyddio canolfannau neu gyfleusterau drwy ffenestr y car os ydynt yn penderfynu bod angen cynnal ymgynghoriad o’r fath, gan y bydd yn bwysig lleihau’r risg o ledaenu’r haint gymaint â phosibl.
Byddwn yn parhau i fonitro effeithiau’r pandemig, gan ddarparu canllawiau ar gyfer y GIG wrth i dystiolaeth bellach ddod i’r amlwg.
Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn sicrhau bod yr Aelodau’n cael yr wybodaeth ddiweddaraf. Os bydd Aelodau’n dymuno i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.