Mark Drakeford AS, Prif Weinidog
Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 yn gosod cyfres o gyfyngiadau ar gynulliadau a symudiadau gan bobl, ac ar weithrediad busnesau, gan gynnwys eu cau. Maent hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau sydd ar agor gymryd camau rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws. Eu nod yw diogelu pobl rhag lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2).
Mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu'r angen am y gofynion a'r cyfyngiadau, a pha mor gymesur ydynt, bob 21 diwrnod. Cafodd yr adolygiad diweddaraf – y chweched o’i fath – ei gynnal yr wythnos hon.
Mae’r cyngor gwyddonol a meddygol yn dangos, yn gyffredinol, fod lefelau trosglwyddiad y coronafeirws yng Nghymru yn isel. Rydym yn monitro’n agos achos o’r feirws yn Wrecsam, â’i ganolbwynt yn Ysbyty Maelor, ac ymddengys bod yr achos hwn o dan reolaeth.
Mae Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau y DU (SAGE) a Chell Cyngor Technegol Llywodraeth Cymru wedi dweud bod pob newid a wneir i lacio mesurau’r cyfyngiadau – y rheoliadau coronafeirws – yn cael effaith gronnol. Rydym felly yn mynd ati fesul cam i ddatgloi’r mesurau hyn, gan fonitro effaith pob newid, a dysgu o’r newidiadau a wnawn a pharhau yn ein blaenau mewn modd hynod ofalus.
Yn ystod y cylch adolygu tair wythnos diwethaf, gwnaethom nifer o newidiadau i agor ein sectorau hamdden, manwerthu, twristiaeth a lletygarwch. Ar ôl monitro effaith y newidiadau hyn ac adolygu’r dystiolaeth ehangach a’r dangosyddion mewn perthynas â throsglwyddiad y feirws yng Nghymru ac o amgylch y byd, rydym wedi dod i’r casgliad bod rhywfaint o le i wneud newidiadau pellach dros y cylch tair wythnos sydd i ddod.
Caiff y newidiadau hyn hefyd eu cyflwyno’n raddol dros y tair wythnos a byddant yn canolbwyntio ar ailagor rhannau o’r economi dan do, sydd wedi bod ar gau hyd yma ac ar ddarparu mwy o gyfleoedd i deuluoedd a ffrindiau gyfarfod â’i gilydd yn yr awyr agored.
Byddwn hefyd yn defnyddio’r cylch hwn i ymchwilio i’r opsiynau sydd ar gael i alluogi pobl i gyfarfod o dan do, os bydd yr amodau yn caniatáu i hynny ddigwydd.
Yn ystod yr wythnos gyntaf, o 3 Awst ymlaen, bydd tafarndai, bariau, bwytai a chaffis yn gallu ailagor o dan do, a bydd hyn yn wir ar gyfer llwybrau bowlio, arwerthiannau a neuaddau bingo dan do hefyd.
Byddwn yn llacio’r cyfyngiadau ar gyfarfod yn yr awyr agored i alluogi hyd at 30 o unigolion i gyfarfod yn yr awyr agored. Fodd bynnag, mae’n hynod bwysig bod pobl yn parhau i lynu at fesurau cadw pellter cymdeithasol bob amser.
O ganlyniad i’r newidiadau hyn bydd mangreoedd sydd wedi’u trwyddedu ar gyfer cynnal priodasau a seremonïau partneriaethau sifil yn gallu ailagor. Bydd derbyniadau bach, lle cydymffurfir â rheolau cadw pellter cymdeithasol, yn cael eu caniatáu yn yr awyr agored. Fodd bynnag, hyd nes y caiff y rheolau ar gynulliadau dan do eu hailystyried, ni chaniateir cynnal derbyniadau o dan do ar hyn o bryd.
Gan fod y dystiolaeth wyddonol yn dangos bod y perygl o drosglwyddo’r feirws yn is ymhlith plant, byddwn yn diweddaru’r canllawiau i egluro nad oes raid i blant o dan 11 oed gadw pellter o 2 fetr oddi wrth ei gilydd na rhyngddynt hwy ac oedolion. Mae’n hynod bwysig bod plant hŷn ac oedolion ifanc yn parhau i gydymffurfio â mesurau cadw pellter cymdeithasol gan fod y dystiolaeth o’r perygl yn wahanol ar gyfer y grwpiau oedran hyn.
Yn ystod yr ail wythnos, os bydd yr amodau yn caniatáu, o 10 Awst ymlaen, bydd pyllau nofio, stiwdios ffitrwydd dan do, campfeydd, sbas a chanolfannau hamdden ac ardaloedd chwarae i blant dan do yn gallu ailagor.
Ar gyfer y drydedd wythnos, rydym yn ystyried a allwn newid y rheolau ynglŷn â chyfarfod ag eraill o dan do. O safbwynt iechyd y cyhoedd, mae hwn yn un o’r meysydd mwyaf anodd i fynd i’r afael ag ef oherwydd bod y perygl o drosglwyddo’r feirws yn uwch. Rydym wedi gweld bod ton newydd o’r feirws yn codi mewn mannau o amgylch y byd. Mae cysylltiad rhwng yr ail don honno ag ailagor lleoliadau dan do a chynulliadau o bobl o dan do – yn ninas Melbourne ac yn nhaleithiau deheuol yr Unol Daleithiau, er enghraifft.
Bydd y rheolau presennol ar gynulliadau dan do yn parhau yn weithredol am y tro. Os bydd y dystiolaeth wyddonol a’r cyngor gan Brif Swyddog Meddygol Cymru o blaid llacio’r rheolau, ein nod fydd dod â’r newidiadau i rym ar 15 Awst. Os byddwn yn gallu newid y rheolau ar gynulliadau o dan do, bydd hyn yn cynnwys opsiynau i ganiatáu i ddigwyddiadau cymdeithasol bach gael eu cynnal, fel derbyniadau priodas.
Yn unol â’r rheolau presennol, dim ond gydag unigolion o’r un aelwyd â hwy neu o’u haelwyd estynedig y caiff unigolion gyfarfod. Golyga hyn, o ddydd Llun ymlaen, dim ond gydag aelodau o’u haelwyd eu hunain neu eu haelwyd estynedig y gall unigolion ymweld ag ardaloedd dan do mewn bwytai a thafarndai, er enghraifft.
Rydym yn symud i’r cyfnod gwyrdd o dan ein system goleuadau traffig. Wrth inni wneud hynny, mae’n fwyfwy pwysig bod canllawiau i’w cael sy’n egluro’r holl fesurau a’r camau sydd angen inni eu cymryd i’n diogelu rhag y coronafeirws.
Mae’n hanfodol bwysig ein bod yn dilyn yr holl ddulliau newydd o weithio hyn, a’n bod yn mabwysiadu’r ymddygiadau newydd, a bod unigolion a busnesau yn cydymffurfio â’r canllawiau hyn i helpu i leihau lledaeniad y feirws a diogelu pobl, gan sicrhau ein bod yn gallu parhau i godi’r cyfyngiadau yn y dyfodol.
Yn achos y lleiafrif bach nad ydynt yn dilyn y canllawiau, byddwn yn cymryd camau ac yn defnyddio’r pwerau cyfreithiol sydd gennym ni, ac sydd gan eraill.
Byddwn yn cryfhau pwerau i ymyrryd ac yn rheoli gorfodaeth pan fo angen gwneud hynny a byddwn yn gweithredu ar sail yr wybodaeth a adroddir i TUC Cymru a’i undebau cysylltiedig.
Nid yw’r coronafeirws wedi diflannu – rydym ni i gyd yn rhannu’r cyfrifoldeb parhaus i gadw Cymru’n ddiogel.