Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae darparwyr cartrefi gofal ac unigolion sy’n byw ac yn gweithio mewn cartrefi gofal wedi wynebu heriau nas gwelwyd mo’u tebyg o’r blaen yn ystod pandemig y coronafeirws. Mae hwn wedi bod yn gyfnod hynod anodd i bawb.
Rwy’n ddiolchgar iawn i bob un sydd wedi chwarae ei ran i ymateb i’r pandemig COVID-19 a hoffwn dalu teyrnged i waith caled ac ymroddiad pob un yn y sector.
Nid yw’r coronafeirws wedi diflannu – nid yw’r pandemig hwn drosodd. Mae’n bwysig inni ddefnyddio’r haf hwn i fyfyrio ar y camau a gymerwyd yn ystod misoedd cyntaf y pandemig i gefnogi’r sector gofal er mwyn sicrhau ein bod yn barod ar gyfer yr hydref a’r posibilrwydd y ceir ail don o’r feirws, ynghyd â’r pwysau sy’n codi yn flynyddol yn y gaeaf.
Rwyf wedi ysgrifennu heddiw at arweinwyr y sector i egluro’r camau yr ydym yn eu cymryd dros yr ychydig fisoedd nesaf i ddarparu cymorth ar gyfer y sector cartrefi gofal, ei weithlu a’r rheini y maent yn gofalu amdanynt. Mae’r llythyr hwn ar gael yn: https://llyw.cymru/cynllun-gweithredu-cartrefi-gofal.
Rydym yn canolbwyntio ar chwe phrif faes: atal a rheoli haint; cyfarpar diogelu personol; cymorth cyffredinol a chlinigol ar gyfer cartrefi gofal; llesiant preswylwyr cartrefi gofal; llesiant gweithwyr gofal cymdeithasol; a chynaliadwyedd ariannol. Bydd canlyniadau’r adolygiad cyflym yn llywio ein cynlluniau ar gyfer y gaeaf.
Byddaf yn darparu diweddariad ar gynnydd yn yr hydref.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau. Os bydd aelodau am inni wneud datganiad pellach, neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddem yn hapus i wneud hynny.