Yr wybodaeth reoli ddiweddaraf ynghylch prentisiaid yng Nghymru a roddwyd ar ffyrlo neu a ddiswyddwyd yn ystod pandemig y coronafeirws hyd at 24 Gorffennaf 2020.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Prentisiaid a roddwyd ar ffyrlo neu a ddiswyddwyd yn ystod pandemig coronafeirws (COVID-19)
Darperir yr wybodaeth reoli hon i ni gan ddarparwyr prentisiaethau, ac ar sail data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru. Nid yw ei hansawdd wedi’i sicrhau i’r un graddau â’r ystadegau swyddogol.
Prif bwyntiau
- Roedd 6,170 (18%) prentis yn dal ar ffyrlo erbyn 24 Gorffennaf 2020.
- Mae nifer y prentisiaid sydd ar ffyrlo wedi gostwng o 6,575 ar 10 Gorffennaf 2020.
- Roedd 175 prentis wedi cael eu diswyddo, ond maent yn parhau â’u rhaglen ddysgu tra bo’u darparwr yn ceisio dod o hyd i gyflogwr arall.
- Rhoddwyd terfyn ar brentisiaeth 40 unigolyn yn sgil eu diswyddo.
Y prentisiaid sydd wedi eu heffeithio fwyaf yw:
- gwrywod
- gwyn neu o hil gymysg
- y rheini nad oeddent yn astudio prentisiaethau uwch
- y rheini a oedd yn gweithio i gwmnïau â llai na 50 o gyflogeion
- y rheini a gyflogid gan y sector preifat
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Gwybodaeth reoli: prentisiaid a roddwyd ar ffyrlo neu a ddiswyddwyd yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19): hyd at 24 Gorffennaf 2020 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 40 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.addysgol16@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.