Mae diwydiant bwyd a diod Cymru o’r radd flaenaf ac mae cyfres o gamau â blaenoriaeth i’w helpu i adfer o effeithiau COVID-19 wedi cael ei chyhoeddi heddiw [dydd Mercher 29 Gorffennaf, ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Bwrdd y Diwydiant Bwyd a Diod.
Mae COVID-19 wedi cael effaith sydyn ac enfawr ar bob busnes a chadwyn gyflenwi yn y sector bwyd a diod, ni waeth beth yw eu maint.
Mae ymchwil wedi dangos maint a natur yr effaith:
- Mae cyfanswm gwerthiannau bwyd a diod (pob sianel) wedi gostwng £190 miliwn (27%);
- Mae patrymau prynu wedi newid yn sylweddol, gyda gwerthiannau nwyddau groser yn codi £38 miliwn (10.7%), ond mae cyfanswm y gwariant ar fwyd a diod tuag 20% yn is nag arfer, o ganlyniad i’r sector gwasanaethu’n cau yn gyfan gwbl bron,
- Mae patrymau siopa wedi newid ledled y DU, gyda rhagor o bobl yn siopa ar-lein ac mewn siopau cyfleustra (i fyny 43% a 40% yn y drefn honno).
Y cam cyntaf â blaenoriaeth yw cefnogi’r sector a’i arwain drwy effeithiau COVID-19 wrth iddynt ddod i’r amlwg, i sicrhau bod busnesau a rhwydweithiau cyflenwi yn goroesi ac yn cynnal llwyddiant ac enw da’r sector – enw da sydd wedi cyrraedd pob cwr o’r byd.
Mewn partneriaeth â Bwyd a Diod Cymru, mae cyfres o feysydd â blaenoriaeth i gefnogi’r sector wedi cael ei chyhoeddi heddiw, gan gynnwys:
- Monitro gwybodaeth am y farchnad, data a thueddiadau i ragweld newid a pharatoi’r sector;
- Darparu’r cyngor ymarferol sy’n hanfodol er mwyn i fusnesau oroesi;
- Darparu cyngor a chymorth i helpu busnesau i ddatblygu sianeli gwerthu ar-lein;
- Buddsoddi mewn pobl a thechnoleg wedi’i dargedu i adeiladau cadernid busnesau;
- Cynnal presenoldeb yn y farchnad fyd-eang drwy gymryd rhan yn rhithwir yn ein prif ddigwyddiad, Blas Cymru, yn 2021.
Camau i ganolbwyntio arnynt yn y tymor byr fydd y camau sy’n cael eu cyhoeddi heddiw. Byddant yn cael eu gweithredu ar y cyd a byddant yn targedu cymorth ar gyfer y sector yn ystod y misoedd nesaf, tan yr haf y flwyddyn nesaf. Byddant yn pontio rhwng y strategaeth bresennol, Tuag at Dwf Cynaliadwy, sy’n dod i ben yn 2020, a’r strategaeth newydd sy’n cael ei datblygu ar hyn o bryd.
Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:
Mae’r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru wedi chwarae rôl allweddol wrth fwydo’r genedl yn ystod yr adeg ddigynsail hon, a hoffwn i ddiolch i’r rheini sydd wedi gweithio’n ddiflino i gynnal cadwyni cyflenwi.
Yn awr mae’n rhaid inni edrych tuag at y dyfodol, a nod y camau a gyhoeddwyd heddiw yw cefnogi’r diwydiant lle mae’r pandemig wedi effeithio arno, a symud ymlaen i’r cyfnod adfer.
Rhaid inni sefydlogi’r sector cyn gynted â phosibl, wrth hefyd ystyried y tymor hir er mwyn adeiladu at y dyfodol. Drwy weithio gyda’n gilydd, gallwn ni sicrhau bod ein sector bwyd a diod yng Nghymru, sydd wedi ennill enw da ledled y byd, yn parhau i fod yn llwyddiannus.
Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Bwyd a Diod Cymru, Andy Richardson:
Roedd argyfwng y coronafeirws yn sioc i bawb, pan ddaeth y pandemig i’r amlwg yn gynnar yn 2020. Yn anffodus, nid yw’r diwydiant bwyd a diod wedi llwyddo i osgoi effeithiau’r argyfwng, ond yn bennaf ar yr adeg hon rydyn ni’n cofio’r rheini sydd wedi marw neu sydd wedi colli teulu, ffrindiau a chydweithwyr.
Er bod rhai busnesau bwyd a diod yng Nghymru wedi ffynnu yn ystod yr argyfwng, mae eraill yn parhau i ddioddef effeithiau sylweddol. Rydyn ni’n addo i fusnesau bwyd a diod Cymru y byddwn ni’n parhau i frwydro dros ein diwydiant ac yn llunio strategaeth a chynllun tactegol a fydd yn helpu sector bwyd a diod Cymru i ailgodi yn dilyn yr argyfwng, a pharhau ar ei lwybr o dwf, cyflogaeth a dylanwadu ar y byd.
Cafodd ‘Tuag at Dwf Cynaliadwy’ ei chyhoeddi yn 2014 a bydd yn dod i ben eleni. Ar ddechrau 2020, roedd Tuag at Dwf Cynaliadwy wedi rhagori ar ei tharged uchaf ar gyfer y sector bwyd a ffermio â blaenoriaeth, gyda gwerthiannau gwerth £7.473 biliwn o’u cymharu â’r targed o £7 biliwn.