Mae'r adroddiad blynyddol yn rhoi dadansoddiad cynhwysfawr ar batrymau a thueddiadau o gyfaint a gwariant ar gyfer 2019.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr
Mae hefyd yn cynnwys data ychwanegol am weithgareddau a wneir, math o gyrchfan, mathau o gludiant a ddefnyddir, arian a wariwyd yn ystod ymweliadau a phroffil ymwelwyr.
Darperir y canlyniadau ar lefel Prydain Fawr i gyd ac yn unigol ar gyfer ymweliadau i gyrchfannau yng Nghymru, yr Alban a Lloegr.
Prif bwyntiau
- Bu gostyngiad yn nifer yr ymweliadau twristaidd undydd yng Nghymru yn ystod 2019, gyda 87 miliwn o deithiau wedi eu cymryd (gostyngiad o 9%).
- Disgynnodd cyfanswm y gwariant gyda 14% yn 2019 gyda gwariant o £3.4 biliwn.
Adroddiadau
Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr, 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 4 MB
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Cyswllt
David Stephens
Rhif ffôn: 0300 025 5236
E-bost: ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.