Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd pobl sydd am gwblhau’r Cynllun Adsefydlu Gyrwyr sy’n Yfed yn gallu cwblhau’r rhaglen gyfan ar-lein, am gyfnod dros dro.
Mae’r cwrs yn rhaglen hyfforddi 16 awr sy’n gallu helpu i atal pobl rhag aildroseddu. Fel arfer mae’n cael ei gynnal mewn ystafell ddosbarth. Mae’n ofynnol mynychu tair sesiwn ar wahân dros gyfnod o bythefnos.
Oherwydd y coronafeirws bu angen atal cynnal cyrsiau yn yr ystafell ddosbarth. Roedd hyn yn golygu nad oedd pobl yn gallu dechrau rhaglenni, er y rhoddwyd caniatâd i ddarparwyr gynnal nifer fach o gyrsiau ar-lein. Roedd hyn yn galluogi pobl a oedd wedi gwneud rhan o’u cwrs i gwblhau’r cwrs ar-lein.
Bydd cynnal yr hyfforddiant ar-lein am gyfnod dros dro yn sicrhau bod cyrsiau’n cael eu cynnal unwaith eto a bydd pobl yn gallu dechrau ar eu cwrs.
Y ddau gwmni sy’n darparu cyrsiau yng Nghymru yw IAM RoadSmart a grŵp TTC. Caiff pobl gwblhau cwrs os ydynt wedi cael eu gwahardd rhag gyrru am gyfnod o 12 mis neu fwy. Bwriad y cyrsiau yw lleihau’r tebygolrwydd o aildroseddu wrth hefyd leihau gwaharddiadau gyrru.
Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:
Mae’r cwrs adsefydlu yn bwysig iawn, ac mae’n gallu lleihau’r risg y bydd pobl yn yfed a gyrru yn y dyfodol.
Wrth roi ganiatâd i gyrsiau gael eu cynnal ar-lein am gyfnod dros dro, rydyn ni’n hyderus y bydd pobl yn gallu cael yr un budd o’r cynllun, heb orfod teithio a threulio amser mewn lle cyfyngedig. Rydyn ni’n cynnal trafodaethau â darparwyr i sicrhau bod gwasanaethau’n parhau i fod yn hygyrch.
Byddwn ni’n parhau i adolygu’r cynllun wrth inni ystyried ein hymateb parhaus i COVID-19.
Dywedodd Tim Ribton, Rheolwr Cenedlaethol TTC:
Mae TTC yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i helpu i wella diogelwch ar y ffyrdd ledled Cymru, gan gydnabod pwysigrwydd y rhan mae’r Cynllun Adsefydlu Gyrwyr sy’n Yfed yn ei chwarae wrth wneud ffyrdd Cymru yn fwy diogel ar gyfer pawb. Prif nod TTC yw diogelu pawb sy’n teithio, waeth ydyn nhw’n gyrru, cerdded neu feicio.
Yn sgil pandemig COVID-19, bu rhaid cau cyrsiau am grwpiau o bobl dros dro, a byddai hyn wedi cael effaith negyddol ar allu’r troseddwr i gymryd rhan yn y cwrs.
Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i ganiatáu cynnal cyrsiau Adsefydlu Gyrwyr sy’n Yfed ar-lein mewn ystafell ddosbarth rithwir, am gyfnod dros dro, yn benderfyniad gwych, a bydd yn galluogi TCC i barhau i ddarparu rhaglenni newid ymddygiad ar gyfer troseddwyr.
Yn ystod y misoedd diwethaf, mae TTC wedi llwyddo i gynnal hyfforddiant ystafell ddosbarth rithwir ar gyfer miloedd o unigolion, ar draws holl feysydd ein busnes, gan barhau â’n hymrwymiad i wella diogelwch ar y ffyrdd.
Boed yn cael ei chynnal ar-lein neu yn berson, mae’r Rhaglen Adsefydlu Gyrwyr sy’n Yfed yn hanfodol i wneud gwahaniaeth cadarnhaol, nid yn unig ar gyfer yr unigolion sy’n cwblhau’r cwrs, ond hefyd i deuluoedd a’r gymuned ehangach sy’n rhannu’r ffyrdd ledled Cymru.
Dywedodd Tony Greenidge, Prif Weithredwr dros dro IAM RoadSmart:
Rydyn ni yn IAM RoadSmart wrth ein boddau yn cael cynnal y Cynllun Adsefydlu Gyrwyr sy’n Yfed yng Nghymru unwaith eto. Mae’n rhan bwysig o’n hymrwymiad i wella diogelwch ar y ffyrdd i bawb, ac rydyn ni’n croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddefnyddio technoleg cynadledda fideo brofedig i hwyluso cyrsiau na fydden nhw wedi cael eu cynnal fel arall.
Rydyn ni wedi datblygu seilwaith hyfforddi ar-lein sy’n gallu darparu profiad dysgu gwell, wedi’i ategu gan gwricwlwm cadarn a gofyniad i’r darparwr a’r troseddwr fodloni meini prawf llym ar gyfer y cwrs.
Mewn ymateb i bandemig COVID-19, mae IAM RoadSmart wedi darparu amrediad eang o sesiynau cynadledda fideo ar gyfer busnesau a gyrwyr preifat. Yn ystod y cyfyngiadau symud rydyn ni wedi manteisio ar y cyfle i adolygu a mireinio’r ffordd rydyn ni’n darparu ein cyrsiau, ac mae wedi bod yn dda gennyn ni weld lefelau presenoldeb uchel gan fynychwyr yn gyson drwy gydol y cyfnod hwn.
Rydyn ni’n croesawu’r cyfle i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i fonitro llwyddiant y trefniant dros dro hwn. Mae ein tîm yn barod amdani, ac ar gyfer y troseddwyr sy’n cwblhau’r cwrs rydyn ni’n gwybod y bydd llawer yn cael profiad cadarnhaol a fydd yn newid eu bywyd.