Heddiw, dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James, y bydd ymestyn y cyfnod hysbysu dros dro ar gyfer achosion o droi allan yn diogelu tenantiaid mewn llety cymdeithasau tai neu denantiaid yn y sector rhentu preifat rhag dod yn ddigartref.
Mae’r newid, sy'n dod i rym heddiw, yn golygu y bydd hawl gan denantiaid i gael chwe mis o rybudd mewn achos o droi allan, yn hytrach na thri mis o rybydd, oni bai bod y tenant yn cael ei droi allan ar sail ymddygiad gwrthgymdeithasol. Bydd y cyfnod o chwe mis yn gymwys i bob hysbysiad sy’n cael ei roi i denantiaid tan o leiaf ddiwedd mis Medi.
Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd y Gweinidog:
Mae’r argyfwng presennol wedi cael effaith ar bawb, ond rydym yn gwybod ei fod wedi cael mwy o effaith ariannol ar y bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas, a llawer o’r rhain yn denantiaid yn y sector rhentu preifat.
Mae’n hanfodol bwysig nad oes neb sy’n rhentu yng Nghymru yn cael eu gorfodi o’u cartref yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae’r mesurau hyn, sy’n rhai dros dro, yn mynd i sicrhau bod llai o bobl yn wynebu bod yn ddigartref o ganlyniad i achos o droi allan, a hynny ar adeg pan fo awdurdodau lleol yn llai abl i ymateb i’r sefyllfaoedd hyn, gan roi mwy o sicrwydd i’r rhai sy’n rhentu cartrefi. Bydd hyn yn rhoi rhagor o amser i’r rhai sydd mewn perygl o gael eu troi allan i geisio dod o hyd i gymorth er mwyn datrys unrhyw broblemau.
Er bod y newidiadau hyn yn gymwys i’r rhai sy’n rhentu cartrefi gan landlordiaid preifat a chymdeithasau tai, mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio ag awdurdodau lleol i sicrhau bod eu tenantiaid hwythau yn elwa ar yr un sicrwydd.
Hefyd, mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau bod tenantiaid yn cael cymorth i ad-dalu unrhyw ôl-ddyledion rhent sydd wedi digwydd oherwydd pandemig y coronafeirws.
Ychwanegodd Julie James:
Er bod y newidiadau hyn yn cynnig mwy o ddiogelwch i denantiaid, nid ydynt yn esgus i bobl beidio â thalu eu rhent os ydynt yn gallu gwneud hynny, ac i beidio â mynd i'r afael ag unrhyw broblemau ariannol y maent yn eu hwynebu. Mae'n hollbwysig cael sgwrs gynnar gyda landlordiaid i ganfod ffordd ymlaen, yn ogystal â chael y cyngor cywir ynghylch dyledion. Yn ddiweddar rydym wedi buddsoddi £1.4 miliwn ychwanegol mewn gwasanaethau cynghori i sicrhau bod pobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i feithrin gallu ariannol ac i hawlio'r budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt.