Mark Drakeford AS, y Prif Weinidog
Mae cynghorwyr arbennig yn rhoi dimensiwn gwleidyddol i'r cyngor a'r gefnogaeth sydd ar gael i Weinidogion ac yn atgyfnerthu hefyd ddidueddrwydd gwleidyddol y Gwasanaeth Sifil parhaol drwy fod yn ffordd arall o roi cyngor a chymorth gwleidyddol.
Fe'u penodir gan y Prif Weinidog i helpu Gweinidogion i ymateb i faterion pan fo gwaith y Llywodraeth a'r blaid sy'n llywodraethu yn gorgyffwrdd a phan na fyddai'n briodol i weision sifil parhaol gymryd rhan. Maent yn adnodd arall i'r Gweinidog ac yn rhoi cefnogaeth a ddaw o safbwynt sy'n fwy ymroddedig ac ymwybodol yn wleidyddol nag y byddai modd i'r Gwasanaeth Sifil parhaol ei gynnig i Weinidog.
Roedd 15 o Gynghorwyr Arbennig yn gweithio yn ystod y cyfan neu ran o'r flwyddyn ariannol 2019/20, sy'n cyfateb i 10 cynghorydd arbennig cyfwerth ag amser llawn ar gyfartaledd, fel y nodir isod:
Cynghorydd Arbennig |
Band Cyflog |
Clare Jenkins † |
PB3 |
Jane Runeckles |
PB3 |
Gareth Williams * |
PB3 |
Madeleine Brindley |
PB2 |
Andrew Johnson |
PB2 |
Tom Woodward |
PB2 |
Alex Bevan (dechreuodd ar 07/05/19) |
PB1 |
Daniel Butler ** |
PB1 |
Ian Butler ** (dechreuodd ar 23/3/20) |
PB1 |
David Davies ** (gadawodd ar 31/3/20) |
PB1 |
Kate Edmunds (dechreuodd ar 30/3/20) |
PB1 |
Sara Faye ** (dechreuodd ar 04/06/19) |
PB1 |
Paul Griffiths ** |
PB1 |
Andy Pithouse ** (dechreuodd ar 23/3/20) |
PB1 |
Mitchell Theaker ** (dechreuodd ar 10/06/19) |
PB1 |
† Secondai.
* Rhan-amser hyd at 15/03/20. Amser llawn o 16/03/20.
** Rhan-amser
Roedd cyfanswm cost y bil cyflogau ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2019 i 31 Mawrth 2020 yn £835,840.38. Mae hyn yn cynnwys cyflogau, cyfraniadau yswiriant gwladol a chyfraniadau pensiwn cyflogeion.
Bandiau Cyflog Cynghorwyr Arbennig
Roedd y bandiau cyflogau ac ystod cyflogau ar gyfer Cynghorwyr Arbennig yn 2019-20 fel a ganlyn:
PB1 - £40,500 - £60,500
PB2 - £57,000 - £78,000
PB3 - £73,000 - £102,000
PB4 - £96,000 - £145,000
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.