Ymwybyddiaeth o iaith
Yr Athro Enlli Thomas, Dirprwy Is-ganghellor Cysylltiol–Dysgu ac Addysgu (Cyfrwng Cymraeg) ym Mhrifysgol Bangor, sy’n sôn am sut ry’n ni i gyd yn defnyddio, cadw ac yn adfywio’n sgiliau iaith.
Mae’n byd ni’n un gwead hardd o dirwedd, pobl a phethau. Un o’n nodweddion unigryw ni fel pobl yw ein gallu i gyfathrebu â’n gilydd er mwyn mynegi ein meddyliau, ein teimladau a’n dyheadau. Da ni’n gwneud hyn drwy gyfrwng iaith, ac mae ieithoedd yn amrywio mewn ffyrdd diddorol a chyffrous.
Wyddoch chi fod 7,117 o ieithoedd yn y byd ar hyn o bryd? Pob un mor werthfawr â’i gilydd. O’r ieithoedd hynny, Saesneg sydd fwyaf cyffredin, gan ei bod yn cael ei siarad gan nifer helaeth o siaradwyr anfrodorol ledled y byd, ond Tsieinëeg Mandarin a Sbaeneg sydd â’r niferoedd uchaf o siaradwyr brodorol.
O’r 7,117 o ieithoedd hynny sy’n cael eu siarad heddiw, mae 2,936 (41%) mewn perygl. Mae gan 1,514 lai na 1,000 o siaradwyr brodorol, 467 llai na 100, ac mae gan 151 lai na 10.
Mae gan bob iaith ei ffordd unigryw ei hun o ddehongli’r byd o’n cwmpas. Cymer liw er enghraifft. Wyddost di fod gwahanol ieithoedd yn dehongli holl liwiau’r byd mewn ffyrdd gwahanol? Mae rhai ieithoedd yn defnyddio dau derm i fynegi prif liwiau’r sbectrwm, tra bod eraill yn defnyddio hyd at un ar ddeg neu ddeuddeg. A hynny oll cyn hyd yn oed dechrau sôn am yr amrywiaethau o fewn lliwiau, fel gwyrddlas, glas tywyll, môf, ac yn y blaen!
Felly mae’r ffordd ‘da ni’n prosesu ac yn cynrychioli lliwiau yn wahanol. Mae’n dibynnu ar sut mae’r ieithoedd ‘da ni’n eu defnyddio yn ein helpu ni i ‘weld’ y lliwiau hynny. Dyna pam mae’n bwysig gwneud popeth fedrwn ni i gynnal cyfoeth ieithoedd y byd.
Yn ôl y cyfrifiad 2011, mae dros 560,000 o siaradwyr Cymraeg yn byw yng Nghymru. Ein system addysg drochi ni yng Nghymru sy’n gallu cymryd llawer o’r clod am lwyddiant y Gymraeg. Mae pobl wedi dod o bob cwr o’r byd i weld pa mor llwyddiannus mae o. Ac ella bod dy blant wedi cael profiad uniongyrchol o hyn!
Mae rhaglenni trochi ledled wir yn wych o ran creu siaradwyr dwyieithog. Mae’r siaradwyr hyn efo’r holl brofiadau ychwanegol sy’n dod o ganlyniad i wybod mwy nag un iaith. Maen nhw’n gallu cyfrannu’n ôl i’r cymunedau ieithyddol, bywiog y maen nhw’n perthyn iddynt.
Darllen pellach
Ethnologue: Languages of the world
Roberson, D., Davidoff, J., Davies, I. R. L., & Shapiro, L. R. (2005). “Color Categories: Evidence for the Cultural Relativity Hypothesis” Cognitive Psychology, 50 (4), tt. 378-411.
Dapretto, M., & Bjork, E. (2000). “The development of word retrieval abilities in the second year and its relation to early vocablulary growth.” Child Development, 71, 635-648.
Moon, C., Lagercrantz, H., & Kuhl, t. K. (2013). “Language experienced in utero affects vowel perception after birth: a two-country study.” Acta pædiatrica, 102, tt. 156-160.