Roedd y prif ffocws yr ymchwil ar resymau dros arbed dŵr a'r ffactorau sy'n eu rhwystro, ac agweddau tuag at fesuryddion dŵr.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mesuryddion dŵr a’r defnydd o ddŵr
Roedd 56% o’r ymatebwyr yn nodi eu bod yn gwneud penderfyniad ymwybodol i ddefnyddio llai o ddŵr. Roedd nifer llai (42%) yn nodi eu bod wedi cymryd camau i ddefnyddio llai o ddŵr. Pryderon amgylcheddol ac arbed arian oedd y prif resymau a nodwyd dros ddefnyddio llai o ddŵr.
Roedd ymatebwyr gyda mesuryddion dŵr yn fwy tebygol o nodi eu bod yn cymryd camau i leihau eu defnydd o ddŵr. Roedd 82% o’r rhai hynny yn dweud bod gosod mesurydd yn elfen a’u hysgogodd i ddefnyddio llai o ddŵr.
Manteision gwybodaeth
Cafodd cael gwybodaeth dda ynghylch sut a pham y dylid arbed dŵr ei nodi fel rhywbeth fyddai yn annog pobl i ddefnyddio llai o o ddŵr. Hefyd, cafodd peidio â chael digon o wybodaeth o safon uchel ei nodi fel elfen sy’n rhwystro lleihad yn y defnydd o ddŵr. Roedd y rhai oedd yn teimlo nad oedd digon o gymorth a chyngor yn llai tebygol o osod mesurydd dŵr.
Ysgogiadau sy’n cystadlu
Roedd 62% o ymatebwyr yn nodi eu bod yn teimlo bod lleihau eu defnydd o ddŵr ‘y peth iawn i’w wneud’. Fodd bynnag, pan ofynnwyd iddynt beth fyddai yn eu hannog i ddefnyddio llai o ddŵr, crybwyllodd nifer ohonynt mai arbedion ariannol fyddai’r rheswm. Gallai’r gwahaniaeth hwn awgrymu nad oes cysylltiad rhwng agweddau’r ymatebwyr at arbed dŵr a’u hymddygiad ynghylch lleihau y defnydd o ddŵr. Ar y llaw arall, gallai ddangos bod tensiwn rhwng yr hyn y mae pobl yn ei ystyried fel dewis moesol a’u hangen i arbed arian.
Gwahaniaethau rhanbarthol
Roedd gwahaniaethau rhanbarthol ledled Cymru ynghylch agweddau at arbed dŵr. Er enghraifft, roedd 21% o ymatebwyr y Cymoedd yn cytuno nad yw lleihau y defnydd o ddŵr yn flaenoriaeth, o gymharu â 5% o Ymatebwyr Gogledd Cymru.
Ble mae’r cyfrifoldeb
Gofynnwyd i ymatebwyr pwy oeddent yn deimlo oedd yn gyfrifol am leihau y defnydd o ddŵr. Roedd y mwyafrif ohonynt (76% o ymatebwyr) yn teimlo bod ‘llawer’ o’r cyfrifoldeb hwn ar y cwmnïau dŵr. Roedd 58% yn teimlo yr un cyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru, a 55% ar fusnesau. Roedd newidiadau deddfwriaethol a pholisi yn cael eu nodi fel elfen bosibl i ysgogi pobl i ddefnyddio llai o ddŵr.
Adroddiadau
Agweddau'r cyhoedd at arbed dŵr yng Nghymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Agweddau'r cyhoedd at arbed dŵr yng Nghymru: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 405 KB
Cyswllt
Katy Addison
Rhif ffôn: 0300 025 6292
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.