Kirsty Williams AS, Y Gweinidog Addysg
Rwy’n falch o gyhoeddi heddiw bod yr Athro Charlotte Williams OBE wedi cytuno i gadeirio gweithgor ‘Cymunedau, cyfraniadau a chynefin: Profiadau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a’r cwricwlwm newydd’.
Mae’r Athro Williams yn Athro Anrhydeddus yn Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Bangor ac yn gyn-Ddeon Cyswllt ac Athro mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol RMIT Melbourne, Awstralia. Mae’n Gymrawd Anrhydeddus ym Mhrifysgol Glyndŵr a Phrifysgol De Cymru.
Mae’r Athro Williams yn adnabyddus am ei sylwebaeth ar amlddiwylliannaeth yng Nghymru, ac am ei thestun arloesol, “A Tolerant Nation? Exploring Ethnic Diversity in Wales”. Enillodd ei hunangofiant o dyfu i fyny yng Nghymru, “Sugar and Slate” wobr Llyfr y Flwyddyn yng Nghymru yn 2003. Mae wrthi ar hyn o bryd yn gweithio ar drydydd rhifyn ‘Social Policy for Social Welfare Practice in Wales’ sydd i’w gyhoeddi yn 2021.
Yn 2007, dyfarnwyd OBE i’r Athro Williams fel rhan o Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines am ei gwasanaethau i leiafrifoedd ethnig a chyfleoedd cyfartal yng Nghymru.
Yn rhan gyntaf y prosiect, bydd y gweithgor yn adolygu’r adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd i gefnogi’r gwaith o addysgu themâu sy’n ymwneud â chymunedau a chynefinoedd pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ar draws y cwricwlwm cyfan. Bydd yn tynnu sylw at enghreifftiau o arfer da yn ogystal â nodi meysydd lle mae angen gwaith pellach. Rwy’n disgwyl i’r cam hwn ddod i ben yn ystod tymor yr hydref, i gyfrannu i’r flwyddyn academaidd i ddod.
Yn ail ran y prosiect, bydd y gweithgor yn adolygu’r cyfleoedd dysgu proffesiynol sy’n gysylltiedig â chymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, eu cyfraniadau, eu profiadau a’u cynefinoedd ar draws y cwricwlwm. Rwy’n disgwyl i’r grŵp gyflwyno argymhellion allweddol yn y maes hwn erbyn diwedd Rhagfyr.
Bydd gwaith y gweithgor yn gysylltiedig iawn ag adolygiad Estyn o hanes Cymru.
Ar sail y gwaith hwn, byddwn yn comisiynu adnoddau newydd i gefnogi’r gwaith o addysgu themâu sy’n ymwneud â chymunedau, cynefinoedd, cyfraniadau a phrofiadau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Bydd y grŵp yn goruchwylio’r broses o ddatblygu’r adnoddau hyn cyn i gwricwlwm newydd Cymru gael ei gyflwyno’n raddol yn 2022, ac rwy’n bwriadu ystyried y cynnydd yn ystod blwyddyn academaidd 2020/21.
Caiff manylion pellach ynghylch aelodau’r grŵp eu cyhoeddi yn ystod yr haf.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.