Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
Fel y gwyddom ni oll, mae’r sefyllfa bresennol wedi dangos pwysigrwydd amlwg cysylltedd digidol, boed ar gyfer dysgu gartref, cadw mewn cysylltiad ag anwyliaid neu weithio o gartref. Mae ein rhaglen Cyflymu Cymru, sydd wedi cynnig mynediad band eang cyflym iawn i dros 733,000 o adeiladau, wedi bod yn fuddsoddiad hanfodol i gefnogi Cymru drwy’r pandemig a thu hwnt i hynny wrth inni ganolbwyntio ar adferiad. Fodd bynnag, mae llawer o waith i’w wneud eto.
Yn ystod y mis diwethaf rhoddais y newyddion diweddaraf i Aelodau ynghylch nifer o ddatblygiadau yn ein hymdrechion i sicrhau y gall cartrefi a busnesau yng Nghymru elwa o’r mynediad at fand eang cyflym a dibynadwy gan gynnwys ychwanegiad Cymru i’r Talebau Cysylltedd Gigabit Gwledig a chanlyniadau adolygiad diweddaraf y farchnad agored.
Rwyf bellach mewn sefyllfaI i roi diweddariad pellach ar gynlluniau i ymestyn ein band eang ffibr gydag Openreach a’r rhan allweddol y mae’r rhwydwaith Prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus (PSBA) yn ei chwarae yn ein hymateb i Covid 19.
Trwy ein cytundeb gydag Openreach rydym yn cynyddu nifer yr adeiladau fydd yn elwa drwy’r prosiect o 26,000 i 39,000. Bydd yr estyniad hwn i’r prosiect yn targedu ardaloedd yr awdurdodau lleol sydd â llai na 90% o fand eang cyflym iawn. Bydd hyn yn helpu i sicrhau gwell cydbwysedd o ran y band eang sydd ar gael ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru ac yn rhoi mynediad i’r adeiladau ychwanegol hynny at y band eang cyflymaf sydd ar gael. Hefyd, mae rhagor o waith modelu a chynllunio wedi gweld bod gan oddeutu 4,300 o’r adeiladau sydd wedi eu cynllunio fel rhan o gam cyntaf y prosiect naill ai fynediad eisoes neu i gael mynediad at fand eang cyflym iawn. Mae’r adeiladau mwy trefol hyn wedi eu dileu o’r prosiect a rhai eraill yno yn eu lle.
Bydd swm y cyllid ar gyfer y prosiect yn cynyddu i £56 miliwn. Mae hyn yn cynnwys cyllid Llywodraeth Cymru a’r UE gyda rhywfaint o gyllid ychwaengol gan Lywodraeth y DU. Y bwriad yw cwblhau’r prosiect cyfan erbyn Mehefin 2022. Bydd pob adeilad yn gallu cael mynediad at ffibr diogelu at y dyfodol i’r adeilad gan alluogi cyflymder bandeang gigabit. Mae dadansoddiad o nifer yr adeiladau fesul awdurdod lleol wedi’i atodi.
Ddiwedd Mawrth 2020, roedd cam cyntaf y prosiect wedi galluogi mynediad at fand eang ffibr llawn, allai ddefnyddio gigabit, i 8,283 adeilad. Darperir diweddariad pellach o’r ffigurau hyn i Aelodau ym mis Awst.
Mae’r cyflwyniad yn ddim ond rhan o gyfres o ymyraethau i wella cysylltedd sy’n cynnwys y cynllun Allwedd Band Eang Cymru, Cronfa Band Eang Lleol ac ychwanegiad Cymru at y cynllun Talebau Gigabit Gwledig Llywodraeth y DU.
Mae’r rhwydwaith PSBA wedi chwarae rhan bwysig yn ystod camau cychwynnol ymateb Covid 19 gan gynnig cysylltedd cyflym iawn i ysbytai y Ddraig Goch yn gyflym ac effeithiol. Mae’r sefyllfa bresennol wedi tynnu sylw at bwysigrwydd a phosibiliadau gweithio gartref ar draws y sector cyheoddus. Mae hefyd wedi pwysleisio bod rhai gweithwyr y sector cyhoeddus sy’n gweithio gartref angen cysylltiad cyflym gradd busnes i gyflawni eu swyddogaethau. Mewn ymateb mae’r PSBA wedi cyflwyno cynnyrch newydd ar gyfer derbynnwyr fydd yn caniatáu i fusnesau raddio cysylltiadau sydd i’w darparu’n arferol i gartrefi gweithwyr y sector cyhoeddus ble y bo angen. Gallai hyn, er enghraifft, ganiatáu i radiolegwyr dderbyn a gweld delweddau pelydr-X a delweddau meddygol eraill gartref yn ddiogel ac yn ddibynadwy.
Mae’r diweddariad hwn yn dangos ein hymrwymiad parhaus i ymyrryd mewn maes sydd heb ei ddatganoli er mwyn gwella cysylltedd ledled Cymru ac i arloesi er mwyn cefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus.
Byddaf yn parhau i ddiweddaru Aelodau yn hyn o beth.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
Dadansoddiad o adeiladau yn ȏl awdurdod lleol a lot
Lot ac awdurdod lleol |
Adeilad |
---|---|
1 |
11,224 |
Ceredigion |
2,592 |
Conwy |
1,608 |
Sir Ddinbych |
1,862 |
Gwynedd |
3,974 |
Ynys Môn |
1,188 |
2 |
12,584 |
Caerdydd |
908 |
Gorllewin Swydd Gaer A Chaer* |
4 |
Sir y Fflint |
2,027 |
Sir Fynwy |
2,163 |
Casnewydd |
304 |
Powys |
3,516 |
Swydd Amwythig* |
2 |
Bro Morgannwg |
1,117 |
Wrecsam |
2,543 |
3 |
15,308 |
Blaenau Gwent |
|
Pen-y-bont Ar Ogwr |
1,267 |
Bwrdeistref Sirol Caerffili |
2,831 |
Sir Gaerfyrddin |
3,185 |
Merthyr Tudful |
474 |
Castell-Nedd Port Talbot |
812 |
Sir Benfro |
4,128 |
Rhondda Cynon Taf |
1,507 |
Abertawe |
483 |
Torfaen |
621 |
Cyfanswm |
39,116 |
* Mae’r adeiladau hyn yng Nghymru ond yn cael eu categoreiddio yn y Premiwm Sylfaen Cyfeiriadau yn gysylltiedig ag Awdurdod Lleol yn Lloegr.