Mark Drakeford AS, y Prif Weinidog
Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 (‘y rheoliadau’) yn gorfodi cyfres o gyfyngiadau ar gynulliadau, ar symudiadau pobl, ac ar weithrediaeth busnesau, gan gynnwys cau busnesau. Maent hefyd yn gorfodi gofynion ar fusnesau sydd ar agor i gymryd camau rhesymol i sicrhau bod unigolion yn cadw pellter corfforol oddi wrth ei gilydd. Gwnaed hyn er mwyn diogelu pawb rhag lledaeniad syndrom anadlol acíwt difrifol coronafeirws 2 (SARS-CoV-2).
O dan reoliad 4, mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am y gofynion a’r cyfyngiadau yn y rheoliadau, a’u cymesuredd, bob 21 o ddiwrnodau. Cynhelir adolygiad 21 diwrnod nesaf y rheoliadau erbyn 30 Gorffennaf.
Yn fy Natganiad Ysgrifenedig ar 10 Gorffennaf, nodais fy mwriad i edrych ar y rhain fesul wythnos gan ddefnyddio’r hyblygrwydd sydd gennym i lacio’r cyfyngiadau yng Nghymru ymhellach yn ystod y cyfnod o dair wythnos.
Yn ystod yr ail wythnos hon, byddwn yn dileu’r cyfyngiadau presennol ar feysydd chwarae a champfeydd awyr agored. Oherwydd bod y cyngor meddygol a gwyddonol yn dangos bod coronafeirws yn parhau i leihau yng Nghymru, caiff y mannau hyn ddechrau ailagor o 20 Gorffennaf. Mae dileu’r cyfyngiadau yn galluogi’r mannau hyn i ailagor, ond nid oes gorfodaeth arnynt i wneud hynny. Gall yr amserlen benodol ar gyfer ailagor amrywio o le i le wrth i awdurdodau lleol a gweithredwyr eraill sicrhau bod asesiadau risg wedi’u cynnal a bod mesurau ar waith i leihau’r risg o drosglwyddo’r feirws.
Mae ffeiriau – dan do ac awyr agored – wedi cymryd camau priodol i’w galluogi i ailagor. Bydd y rheoliadau’n cael eu diwygio i ddileu’r cyfyngiadau ar ffeiriau o 20 Gorffennaf, yn dilyn ailagor atyniadau dan do ac awyr agored yn yr wythnosau diwethaf.
Byddwn yn ailedrych ar y dystiolaeth eto yr wythnos nesaf i gadarnhau a yw’n bosibl inni ailagor gwasanaethau cysylltiad agos, sinemâu dan do, amgueddfeydd, orielau, gwasanaethau archifau ac ailagor y farchnad dai yn llawn.
Hoffwn unwaith eto, gofnodi fy niolch i bobl Cymru am helpu i ddiogelu Cymru.