Mae'r adran hon wedi'i hysgrifennu ar gyfer perchnogion tai sydd o bosibl yn ystyried adeiladu estyniad neu wneud newidiadau. Mae'n amlinellu prif effeithiau posibl systemau draenio ar eich prosiect. Os ydych yn penderfynu mynd ymlaen â'ch prosiect, bydd yn rhaid i'ch adeiladwr edrych ar ddogfen gymeradwy H am gyngor manwl ar sut i gydymffurfio â Rheoliadau Adeiladu.
Beth yw draenio?
Mae dwy system ddraenio y mae angen ichi eu hystyried: 'budr' a 'dŵr wyneb'Ar y cyfan, dylid cadw'r ddwy system hon ar wahân.
Mae gan y ddwy system hon elfennau uwchben wyneb y ddaear a thanddaearol.
Mae draenio budr yn cludo dŵr wedi'i ddefnyddio o doiledau, sinciau, basinau, baddonau, cawodydd, bidetau, peiriannau golchi llestri a pheiriannau golchi. Cyfeirir at y pibelli uwchben y ddaear fel pibelli glanweithiol; cyfeirir at y pibelli o dan y ddaear fel draeniau budr a charthffosiaeth fudr.
Mae draenio dŵr wyneb yn cludo dŵr glaw (ac eira a rhew wedi dadmer) o arwynebau caled. Cyfeirir at y systemau o gwteri a phibelli dŵr glaw uwchben y ddaear fel draenio toeau; cyfeirir at y pibelli o dan y ddaear fel draeniau dŵr wyneb a charthffosiaeth dŵr wyneb.
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng draen a charthffos?
Ar y cyfan, mae draen yn gwasanaethu un eiddo tra bo carthffos yn gwasanaethu mwy nag un eiddo.
Mae carthffosydd preifat yn berchen i'r eiddo y maent yn ei wasanaethu. Mae carthffosydd cyhoeddus yn berchen i'r cwmni carthffosiaeth (mae ei gyfeiriad i'w weld ar eich bil carthffosiaeth). Mae angen hawl perchennog y garthffos i adeiladu ar neu o amgylch carthffos.
Pam sydd angen imi ystyried draenio tanddaearol?
Efallai y bydd angen ichi newid eich cynlluniau i gyd-fynd â dyfnder a lleoliad y draen neu'r garthffos danddaearol yr ydych yn bwriadu ei gysylltu iddo.
Os ydych yn bwriadu adeiladu dros neu yn agos at garthffos gyhoeddus, byddwch angen cytundeb ysgrifenedig gan eich cwmni carthffosiaeth, felly dylech gysylltu â'r cwmni yn ystod cam cynllunio cynharaf eich gwaith adeiladu.
Gall adeiladu dros ddraen neu garthffos ddifrodi pibelli, fel eu bod yn gollwng neu yn llenwi, a gallai hynny arwain at broblemau gydag arogleuon, problemau iechyd a difrod amgylcheddol. Mae hefyd yn ei wneud yn anoddach, yn cymryd mwy o amser ac yn ddrud i glirio pibelli wedi'u rhwystro a thrwsio neu adnewyddu draeniau sydd ddim yn gweithio. Felly os oes draen dan y ddaear, neu yn agos at eich estyniad arfaethedig, mae'n bosibl y bydd angen ei symud neu ei warchod, sy'n debygol o godi costau eich prosiect.
Dylai llwybr y draen osgoi unrhyw rwystrau (e.e. pyllau neu adeiladau allanol) a chadw'n glir o sylfeini, felly mae'n bosibl y bydd angen iddynt fod yn hirach, gyda siambrau mynediad ychwanegol, yn hytrach na dilyn llinell syth. Mae Dogfen Gymeradwy H yn rhoi canllawiau ar fesurau ychwanegol sydd eu hangen pan fo'n rhaid i draeniau redeg yn agos at sylfeini.
Er mwyn sicrhau bod y dŵr yn llifo ac i atal y pibelli rhag blocio, mae angen i'r draen neu'r garthffos yr ydych yn bwriadu ei chysylltu fod o leiaf 0.8m yn is na lefel y ddaear. Os yw'n llai na hyn, dylech ofyn cyngor adeiladwr, pensaer neu beiriannydd draenio.
Sut allaf i ddod o hyd i leoliad y draeniau a'r carthffosydd tanddaearol?
Mae'n bosibl edrych ar fapiau carthffosydd cyhoeddus am ddim yn swyddfeydd y cwmni carthffosydd neu'r awdurdod lleol. Nid yw carthffosydd a draeniau preifat ar fapiau fel arfer ac mae angen dod o hyd i'w lleoliad mewn ffyrdd eraill, fel a ddisgrifiwyd isod.
Mae gorchudd draen yn awgrymu bod draen i'w gael oddi tano. Drwy godi'r gorchudd, gall fod yn bosibl gweld cyfeiriad, maint a dyfnder y pibelli, ond peidiwch â mynd i'r siambr (mae'n bosibl ei fod yn llawn o nwyon gwenwynig) a gwnewch yn siŵr bod y gorchudd wedi ei osod yn ôl yn ddiogel.
Mae lleoliadau pibelli dŵr glaw, staciau pibelli glanweithiol a gwlïai allanol yn nodi ble y mae'r draeniau tanddaearol yn debygol o redeg.
Mae nifer o gwmnïau'n cynnal arolygon teledu cylch cyfyng fydd yn dangos cyflwr y draeniau yn ogystal â'u lleoliad a'u dyfnder.
Mae'n syniad da iawn i holi barn adeiladwr, pensaer, peirianydd draenio neu'r adran Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol cyn ymrwymo neu ddechrau'r gwaith.
Rwy'n ystyried gwneud y to yn fwy.
Efallai y bydd angen ymestyn eich gwteri a'ch pibelli dŵr glaw, neu ychwanegu pibelli dŵr glaw newydd. Mae gwybodaeth am feintiau gwteri a phibelli dŵr glaw wedi'u rhoi yn Nogfen Gymeradwy H.
Gall y pibelli dŵr glaw ychwanegol ollwng i'r tir, neu i bibelli newydd neu bibelli presennol o dan y ddaear. Os ydych yn penderfynu caniatáu i bibelli dŵr glaw ollwng i'r tir, bydd angen ichi sicrhau na fydd y dŵr yn gwneud difrod i sylfeini (e.e. drwy wneud i'r dŵr ledaenu dros ardal eang) neu lifo i eiddo cyfagos (e.e. trwy ddarparu rhwystr bychan ar y ffin).
Bydd arwynebedd mwy i'r to yn cynyddu'r dŵr wyneb. Mae'n well cadw'r dŵr ychwanegol ar y safle, er mwyn osgoi y perygl o lifogydd mewn mannau eraill. Gellid cadw'r dŵr glaw ar y safle drwy ddefnyddio ffos gerrig neu ddull arall o ganiatáu iddo suddo i'r ddaear (a elwir yn ymdreiddiad), neu ei storio a'i ddefnyddio fel dŵr yn y toiled neu ddyfrhau'r ardd (a elwir yn gasglu dŵr glaw). Mae Dogfen Gymeradwy H yn rhoi cyngor ar ble i leoli ffosydd cerrig, pa mor fawr y dylent fod a sut y dylid eu hadeiladu.
Ble y mae'n anymarferol i ddefnyddio ymdreiddiad (e.e. oherwydd sylfeini gerllaw, tir na ellir ei dreiddio neu dir wedi'i halogi, neu ddŵr daear uchel), mae'n well ei ollwng ar gwrs dŵr, neu os nad yw hynny'n bosibl, i garthffos dŵr wyneb, neu fel ateb olaf, garthffos gyfun. Ni ddylid gollwg dŵr wyneb i ddraen fudr neu garthffos.
Rwy'n ystyried cael patio neu ddreif newydd.
Er mwyn sicrhau nad oes mwy o berygl o lifogydd mewn mannau eraill, mae'n well i'r rhain oleddu tuag at dir hydraidd, neu gael eu gwneud o ddeunyddiau hydraidd.Mae deunyddiau hydraidd yn cynnwys deunyddiau mân-dyllog (e.e. gwydr wedi'i gryfhau neu gerrig mân, concrid neu asffalt hydraidd) a deunyddiau hydraidd (e.e. briciau clai neu flociau concrid, wedi'u cynllunio i ganiatáu i ddŵr lifo drwy uniadau neu fannau gwag).Yn ogystal â lleihau yr effaith ar yr amgylchedd, mae hyn yn osgoi y gost o ddraenio.
Ni ddylid caniatáu i ddŵr wyneb o loriau caled redeg ar y briffordd, ble y gallai achosi damweiniau neu fod yn niwsans.
Ble y bo'n anymarferol i ddraenio ar dir hydraidd neu ddefnyddio pafin hydraidd, mae'n well cadw'r dŵr wyneb ychwanegol ar y safle, er mwyn osgoi gweld cynnydd yn y perygl o lifogydd mewn mannau eraill. Gellid gwneud hyn trwy ddefnyddio ffos gerrig neu ddefnyddio ffordd arall o ganiatáu iddo socian i'r tir (gelwir hyn yn ymdreiddiad).
Mae Dogfen Gymeradwy H yn rhoi cyngor ar benderfynu maint ffos gerrig. Ble y bo'n anymarferol i ddefnyddio ymdreiddiad (e.e. oherwydd sylfeini gerllaw, tir na ellir ei dreiddio neu wedi'i halogi, neu ddŵr daear uchel), mae'n well ei ollwng ar gwrs dŵr, neu os nad yw hynny'n bosibl, i garthffos dŵr wyneb, neu fel ateb olaf, garthffos gyfun. Ni ddylid gollwng dŵr wyneb i ddraen fudr neu garthffos.
Beth ddylai maint pibelli o beiriannau o'r gegin neu'r ystafell ymolchi fod?
Mae angen i bibelli fod o'r maint iawn ar gyfer llif y dŵr, i leihau y perygl o rwystrau ac i ganiatáu i'r aer symud. Mae cyngor ar faint pibelli i'w gael yn Nogfen Gymeradwy H.
Dylid cynllunio pibelli glanweithiol gyda dulliau o gael mynediad, neu fod modd ei dynnu ar wahân, er mwyn delio â rhwystrau.
Dylid defnyddio pibelli archwilio a siamberi mynediad fel bod modd clirio pob rhan o'r system ddraenio danddaearol ac i symud rhwystrau.
A wyf angen pibell awyru drwy'r to?
Mae angen i bibelli glanweithiol gael eu hawyru i atal aer o'r pibelli a'r draeniau rhag dianc i'r adeilad.
Y dull arferol o wneud hyn yw ymestyn y pibelli (fe'i gelwir yn bibell awyru) i du allan yr adeilad, gan adael y pen yn agored (ond wedi'i orchuddio â rhwyd metel rhag i adar fynd i mewn iddo). Er mwyn atal arogleuon rhag cyrraedd yr adeilad, dylai pen agored y bibell awyru fod o leiaf dri metr i'r ochr, neu yn ymestyn 0.9m uwchben unrhyw agoriad i'r adeilad.
Os yw'r draeniau wedi'u hawyru eisoes, mae'n bosibl cysylltu offer ychwanegol ar y llawr daear (e.e. toiled a basn ymolchi) yn uniongyrchol i'r draen heb bibell awyru.
Gallai fod yn bosibl i ddefnyddio falfiau pwrpasol fel nad oes angen pibelli awyru.