Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau diwygiedig ar ymweld ag ysbytai GIG Cymru. Byddant yn dod i rym ar 20 Gorffennaf 2020 ac yn disodli’r canllawiau blaenorol a gyhoeddwyd ar 25 Mawrth a 20 Ebrill 2020.
Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno y dylai’r trefniadau ar gyfer ymweld ag ysbytai fod yn hyblyg, ac y dylid cadw’r unigolyn mewn cof bob amser. Er hynny, mae Cymru yn dal mewn sefyllfa lle mae COVID-19 yn dal i gael ei drosglwyddo yn y gymuned, a'n prif flaenoriaeth yw atal a rheoli heintiau yn ein lleoliadau gofal iechyd. Diben hyn yw sicrhau iechyd, diogelwch a lles cleifion/defnyddwyr gwasanaethau a staff, yn ogystal â’r ymwelwyr eu hunain. Dylai fod pwrpas i’r ymweliadau a chytundeb clir bod unrhyw ymweliad yn digwydd er budd gorau'r claf/defnyddiwr gwasanaeth neu lesiant yr ymwelydd.
Nod y canllawiau diwygiedig hyn yw helpu ymddiriedolaethau a byrddau iechyd GIG Cymru i sicrhau bod yr egwyddorion ar gyfer ymweliadau yn sicrhau cydbwysedd rhwng caniatáu ymweliadau a'r angen clir i gynnal strategaethau cadarn o ran atal a rheoli heintiau yn ystod y cam hwn yn y pandemig, i ddiogelu cleifion, ymwelwyr a staff. Er mwyn cydymffurfio â'r rheolau ynglyn a chadw pellter cymdeithsol/corfforol o 2 fetr, mae angen cyfyngu ar nifer yr ymwelwyr o hyd.
Mae angen cael caniatâd ymlaen llaw ar gyfer ymweliadau wyneb yn wyneb, a gellir cynnig ymweliad yn yr awyr agored os yw hynny'n briodol. Dylid annog a chefnogi ymweliadau rhithwir lle bo modd. Mae'r canllawiau hyn yn cael eu hadolygu'n gyson a byddant yn newid wrth i statws pandemig newid. Mae’r canllawiau ar gael yma: