Data cryno ar gleifion byw ar y rhestr o Gleifion a Warchodir yng Nghymru ar 27 Gorffennaf 2020.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Rhestr o Gleifion a Warchodir yng Nghymru yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19)
Ystadegau’r cleifion byw ar y rhestr o’r cleifion a warchodir gan gynnwys:
- nifer y bobl a warchodir yn ôl awdurdod lleol a grŵp oedran
- nifer y bobl a warchodir yn ôl bwrdd iechyd Lleol a grŵp oedran
- nifer y bobl a warchodir yn ôl ardal gynnyrch ehangach haen is a grŵp oedran.
Mae’r data cryno dienw wedi’u cyhoeddi i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y boblogaeth a warchodir yng Nghymru a byddant yn cael eu diweddaru pan fydd newidiadau o bwys i’r Rhestr o Gleifion a Warchodir. Bydd pob rhestr yn seiliedig ar fersiwn ddiweddaraf y Rhestr o Gleifion a Warchodir fel y’i diffiniwyd gan fethodoleg Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru.
Mae’r set ddata yn cynnwys data rhanbarthol a lleol i ganiatáu ar gyfer dadansoddi, modelu a chynllunio i gynorthwyo gyda'r ymateb i’r pandemig coronafeirws.
Daw'r data o wybodaeth reoli ac mae'n agored i'w newid. Nid ydynt wedi cael yr un prosesau dilysu ag a ddefnyddiwyd wrth ryddhau ystadegau swyddogol. Fodd bynnag, fe'u darperir i gefnogi tryloywder a dealltwriaeth o faint y rhestr o Gleifion a Warchodir yng Nghymru.
I drafod y data, ceir manylion cyswllt isod.
Am wybodaeth am warchod, yn cynnwys cyngor os credwch y dylech gael eich ychwanegu at y rhestr, cyfeiriwch at: Canllawiau ar ddiogelu pobl a ddiffinnir ar sail feddygol fel rhai eithriadol o agored i niwed yn glinigol yn sgil y coronafeirws (COVID-19) – y cynllun ‘gwarchod’ gynt. Ar gyfer ymholiadau sy'n ymwneud â gwarchod (nad ydynt yn ystadegol) cysylltwch â gwarchod@llyw.cymru.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Rhestr o Gleifion a Warchodir yng Nghymru yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19): ar 27 Gorffennaf 2020 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 85 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.