Prentisiaethau - Cyflogwr
Cydnabod ymroddiad y cyflogwr i ddatblygu a chefnogi’r gweithlu trwy Brentisiaethau.
Dylai’ch cais ddangos sut y mae dull eich sefydliad chi o gyflenwi Prentisiaethau:
- Yn canolbwyntio ar y dysgwr.
- Wedi cael effaith sylweddol ar berfformiad dysgwyr.
- Yn golygu bod eich rhaglen Brentisiaethau wedi datblygu yn unol â nodau ac amcanion eich sefydliad.
- Wedi’ch arwain i gynnig cefnogaeth ac adnoddau ychwanegol (mwy nag a ddisgwylir gan sefydliad o’r maint hwn) i sicrhau bod dysgwyr yn cyrraedd nodau eu rhaglen Brentisiaeth.
- Wedi’ch arwain i ddatblygu rhaglen Brentisiaethau sy’n ceisio mynd i’r afael ag anghenion ychwanegol y gymuned ehangach.