Prentisiaethau - Dysgwr
Cydnabod ymroddiad a sgiliau unigolion sydd wedi dewis Prentisiaeth.
Dylai’r ceisiadau ddangos un neu fwy o’r isod:
- Ymroddiad gan brentis i ddatblygiad personol parhaus.
- Prentis sydd wedi cyfrannu’n sylweddol at y busnes gan gynnig gwerth ychwanegol.
- Prentis sydd wedi dangos sgiliau lefel uchel a/neu wedi cyfrannu’n sylweddol at y sector y mae’n gweithio ynddo.
- Y “pellter a deithiwyd” gan y prentis er mwyn llwyddo yn y maes a ddewiswyd ganddo/ganddi.