Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg a Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Yn 2018, cyhoeddodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ei adroddiad, Cadernid Meddwl, a oedd yn trafod anghenion emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Mewn ymateb i’r adroddiad hwnnw, cyhoeddwyd y byddem yn creu Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cyd-Weinidogol i roi cyngor i ni ar y gwaith sydd ei angen i ddiwallu anghenion pobl ifanc y tu allan i wasanaethau iechyd meddwl prif ffrwd. Mae hyn yn ategu'r rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc, ac yn datblygu rôl ysgolion – y dull ysgol gyfan, fel rhan o ddull gweithredu ar lefel system gyfan ehangach.
Rydym wedi bod yn hapus i wneud hyn yn flaenoriaeth ar y cyd, a heddiw yw’r garreg filltir arwyddocaol nesaf yn ein gwaith wrth i ni lansio'r ymgynghoriad ffurfiol ar ganllawiau ein fframwaith ar gyfer ysgolion ar ddatblygu a gwreiddio’u dulliau gweithredu ar lefel ysgol gyfan. Yn awr yn fwy nag erioed, wrth inni ddechrau llacio’r cyfyngiadau a gyflwynwyd yn sgil pandemig Covid-19, ein prif flaenoriaeth yw gwarchod lles emosiynol a meddyliol ein plant a'n pobl ifanc. Mae'r pandemig a'r cyfnod clo diweddar hwn wedi effeithio ar bob un ohonom, yn enwedig ein plant sydd wedi gorfod dioddef misoedd heb weld ffrindiau ac aelodau agos o'u teulu, eu neiniau a'u teidiau. Mae plant a phobl ifanc wedi gweld newid aruthrol yn y ffordd y cânt eu haddysgu; ac mae rhai wedi gorfod dygymod â phrofedigaeth a cholli anwyliaid.
Nod y canllawiau hyn yw ceisio cefnogi ein hymateb i Covid-19 drwy sicrhau bod ysgolion yn cydnabod ac yn ystyried pwysigrwydd nid yn unig lles dysgwyr, ond hefyd lles yr ysgol fel cymuned ehangach. Maent yn ychwanegu at yr amrywiaeth o arferion da sydd eisoes ar waith yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol ledled Cymru. Ym mis Mehefin 2019, cyhoeddodd Estyn adroddiad ‘Iach a hapus’ sy’n ymdrin â sut y mae ysgolion cynradd ac uwchradd yn cefnogi iechyd a lles disgyblion. Dangosodd yr adroddiad fod tua dwy ran o dair o ysgolion cynradd ac un o bob tair ysgol uwchradd yn mynd ati mewn ffordd gynhwysol, ar lefel ysgol gyfan, i roi sylw i iechyd a lles disgyblion. Fodd bynnag, ein huchelgais ni yw gweld pob ysgol yn mabwysiadu dull gweithredu tebyg. Nid dim ond fel ymateb i Covid19, ond yn y tymor hirach, fel bod pob dysgwr yn gallu datblygu i fod yn unigolyn hyderus ac empathig; a’i fod yn gallu cael gafael ar lefel briodol o gymorth lles, a hynny mewn ffordd amserol, os a pha bryd bynnag y bo angen y cymorth hwnnw arno.
Dyna mae’r fframwaith yn ceisio’i gyflawni, a hynny drwy hyrwyddo cysondeb a thegwch. Nid yw'n fwriad gosod beichiau newydd ar ysgolion, ond yn hytrach sicrhau bod y trefniadau cynllunio a gwelliant parhaus sy'n bodoli eisoes yn rhoi ystyriaeth lawn i anghenion lles mewn ysgolion. Bwriad y fframwaith yw cefnogi ysgolion i adolygu eu gweithdrefnau lles eu hunain ac i ddatblygu cynlluniau i fynd i'r afael â'u gwendidau ac ychwanegu at eu cryfderau. Mae'n nodi rôl Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol, consortia, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac eraill, megis y trydydd sector wrth gefnogi'r ysgol. Mae hefyd yn cydnabod na all yr ysgol ddiwallu holl anghenion cymhleth yr holl bobl ifanc ar ei phen ei hun. Yn yr un modd, bwriedir diwallu hefyd anghenion lles athrawon a staff eraill yr ysgol gymaint â dysgwyr.
Nid yw'r fframwaith yn ymwneud â hyrwyddo unrhyw fenter unigol, na hyrwyddo un ymyrraeth ar draul y llall, gan nad oes un ateb twt a phendant i’r materion hyn. Bydd angen i bob ysgol ystyried sut y mae'n ymdrin â'i hanghenion yn unol â'i hamgylchiadau unigryw ei hun. Yn ei hanfod, mae'r fframwaith yn atgyfnerthu'r pethau bach sy'n meithrin y cydberthnasau cadarnhaol sydd, yn anad dim, yn gwneud y gwahaniaeth ac sy'n meithrin yr ymdeimlad o berthyn ac o gymuned. Nid yw'r fframwaith yn ddogfen sy’n sefyll ar ei phen ei hun ychwaith; caiff ei ategu gan gyfres o adnoddau i helpu ysgolion i ddatblygu, gweithredu ac adolygu’r dulliau a ddefnyddir ganddynt ar lefel ysgol gyfan. Mae'r adnoddau hyn yn cael eu datblygu ochr yn ochr â’r fframwaith.
Rydym hefyd yn falch o ddarparu £5m i gefnogi’r gwaith hwn yn 2020-21; daw £3m o’r gyllideb Iechyd a £2m o’r gyllideb Addysg. Mae hyn yn dangos ymrwymiad y ddau bortffolio i’r gwaith pwysig hwn ac yn cydnabod y manteision y gall eu cynnig o ran ein cyfrifoldebau addysg ac iechyd.
Wrth ddatblygu'r fframwaith rydym wedi cysylltu ag amrywiaeth o bartneriaid ar draws y sectorau addysg, iechyd a'r trydydd sector. Mae gormod i'w henwi, er ein bod am ddiolch i bob un ohonynt, ac yn enwedig i'r aelodau hynny o'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cyd-Weinidogol, ac i'r Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid a’r Grŵp Rhanddeiliaid Ieuenctid, am eu brwdfrydedd wrth gyflawni’r gwaith hwn a'u hymrwymiad iddo.
Dyma gyfle'r gymuned ehangach i wneud sylwadau. Yn benodol, rydym am glywed barn a sylwadau'r bobl hynny sy'n ymwneud yn uniongyrchol â darparu addysg ar draws Cymru, a'r bobl ifanc sy'n cael mynediad at yr addysg honno ac yn cael budd ohoni, gan mai nhw fydd yn elwa ar y gwaith hwn yn y pen draw.
https://llyw.cymru/sefydlu-dull-ysgol-gyfan-o-ymdrin-ag-iechyd-lles-meddyliol