Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg a Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ers dechrau pandemig y coronafeirws yng Nghymru, mae ein hysgolion a’n darparwyr gofal plant wedi chwarae rôl bwysig o ran sicrhau bod plant yn cael gofal diogel, yn enwedig plant gweithwyr hanfodol a phlant bregus.
Wrth inni edrych ymlaen at ddechrau gwyliau’r haf, rydym am ddiolch i’n hawdurdodau lleol a’n gweithlu gofal plant ac addysg am eu holl ymdrechion yn ystod y cyfnod anodd ac ansicr hwn.
Ar hyn o bryd, mae cyfle i bob plentyn o oedran ysgol ailgydio, dal i fyny a pharatoi ar gyfer yr haf a mis Medi. Mae ysgolion wedi gweithio’n anhygoel o galed i gynnig gwersi wyneb yn wyneb i bob disgybl mewn grwpiau llai er mwyn sicrhau eu bod yn cael rhywfaint o amser dynodedig gyda staff addysgu a’u cyfoedion cyn toriad yr haf.
Ar yr un pryd, rydym wedi ei gwneud yn bosibl i ddarparwyr gofal plant gynyddu eu gweithgarwch i gefnogi teuluoedd sy’n gweithio wrth i fwy o weithleoedd agor, gan sefydlu mesurau ar yr un pryd i leihau’r risg o ledaenu’r coronafeirws gymaint â phosibl. Wrth i wasanaethau gofal plant barhau i gynyddu eu gweithgarwch, credwn y bydd yna ddarpariaeth ddigonol i’r rheini sydd ei hangen.
O heddiw (6 Gorffennaf), bydd modd i ddwy aelwyd ddod ynghyd i ffurfio un aelwyd estynedig egsgliwsif – mae hwn yn gam pwysig ymlaen o ran ailuno teuluoedd, ond bydd hefyd yn cefnogi teuluoedd gyda threfniadau gofal plant anffurfiol a chyfrifoldebau gofal eraill. Mae rhagor o wybodaeth am aelwydydd estynedig ar gael yn:
https://llyw.cymru/creu-catrefi-estynedig-fel-bod-teuluoedd-yn-cael-dod-ei-gilydd-eto
Wrth i ysgolion baratoi i gau dros yr haf, rydym nawr yn gwneud y trefniadau ar gyfer darpariaeth gofal plant a chwarae dros wyliau’r haf.
Byddwn yn darparu £1.6m o gronfa galedi awdurdodau lleol er mwyn i awdurdodau allu gwella eu cyfleoedd gofal a chwarae i’r plant a’r bobl ifanc hynny rhwng pump ac 16 oed sydd angen cymorth ychwanegol dros yr haf. Awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau i ddefnyddio’r gwasanaethau sydd ar gael iddynt i helpu’r rheini sydd yn y categori risg uchaf yn eu hardaloedd.
Mae £1m arall wedi’i ddyrannu o’r gyllideb addysg i gefnogi plant a phobl ifanc dros y gwyliau haf, i’w helpu i ailgydio yn eu haddysg, gan roi’r cyfle iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau y gallent fod wedi gweld eu heisiau yn ystod eu cyfnod i ffwrdd o’r ysgol, gan gynnwys cymdeithasu â’u cyfoedion a gweithgarwch corfforol.
Byddwn yn cydweithio â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i benderfynu sut i ddyrannu’r cyllid hwn. Hoffem ei weld yn targedu’r plant hynny sydd wedi bod fwyaf ar eu colled o beidio â gallu mynd i’r ysgol, ac yn enwedig anghenion plant bregus mewn cymunedau difreintiedig.
Caiff cyfanswm o £2.6m arall ei fuddsoddi, felly, i gefnogi awdurdodau lleol i ddarparu gofal plant a darpariaeth chwarae yn ystod gwyliau’r haf eleni.
Byddwn hefyd yn parhau i gyllido prydau ysgol am ddim i bob plentyn cymwys dros wyliau’r haf. Cymru oedd gwlad gyntaf y DU i wneud yr ymrwymiad hwn.
Ar 9 Mehefin, cyhoeddwyd y bydd Cynllun Cymorth Gofal Plant y Coronafeirws yn parhau tan ddiwedd Awst. Bydd gofal yn cael ei gyllido ar gyfer plant gweithwyr hanfodol a phlant bregus o dan bump oed mewn lleoliadau gofal plant. Cymru yw’r unig wlad yn y DU sy’n darparu ac yn cyllido gofal ar gyfer plant cyn-ysgol sy’n fwy bregus ac sy’n wynebu heriau penodol ar hyn o bryd, gan eu cefnogi nhw a’u teuluoedd.
Byddwn yn ailedrych ar Gynllun Cymorth Gofal Plant y Coronafeirws dros yr haf. Gwneir penderfyniad terfynol ynghylch y cynllun hwn a Chynnig Gofal Plant Cymru cyn mis Medi. Byddwn yn rhoi gwybod i’r Aelodau am unrhyw ddatblygiadau.