Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Rydym wedi symud allan o gyfnod hanfodol o safbwynt cynllunio ar gyfer COVID-19, ac ymateb iddo, i gyfnod hwy lle y mae’n rhaid i’n system iechyd a gofal barhau i fod yn barod ar gyfer unrhyw frig arall a ddaw yn y dyfodol o ran nifer yr achosion yn ogystal â darparu gwasanaethau hanfodol a gofal a thriniaeth eraill o ansawdd uchel i bobl Cymru.
Ym mis Mai, cyhoeddais Fframwaith Gweithredu COVID-19 GIG Cymru ar gyfer Chwarter 1 (2020/21), er mwyn cynnal y momentwm a sicrhau bod y system yn parhau i ganolbwyntio ar ddarparu amrywiaeth ehangach o wasanaethau. Tynnodd y ddogfen hon sylw at bedwar math o niwed a allai ddeillio o COVID-19 yr oedd rhaid inni barhau i ganolbwyntio arnynt ac amddiffyn yn eu herbyn:
- Niwed o COVID-19 ei hun
- Niwed o ganlyniad i’r ffaith bod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) a system gofal cymdeithasol o dan bwysau aruthrol
- Niwed o leihad mewn gweithgarwch nad yw’n ymwneud â COVID-19
- Niwed o gamau cymdeithasol ehangach / y cyfyngiadau.
Ers i’r fframwaith ar gyfer Chwarter 1 gael ei gyhoeddi, cafwyd datblygiadau pwysig gan gynnwys parhau i lacio’r cyfyngiadau yng Nghymru gan gydnabod gwerth y gyfradd R a’r rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu a lansiwyd ddechrau mis Mehefin.
I gydnabod hyn, rwyf wedi cyhoeddi fframwaith ar gyfer Chwarter 2 a fydd yn ysgogi’r cyfnod nesaf yn ein ffocws systemau ar sicrhau ein bod yn parhau i ymateb yn effeithiol i COVID-19, gan ddarparu gwasanaethau hanfodol eraill ar yr un pryd mewn modd gofalus a chytbwys.
Gofynnwyd am farn broffesiynol wrth ddatblygu’r fframwaith, a derbyniwyd barn amrywiol randdeiliaid, gan gynnwys Prif Weithredwyr GIG Cymru a Chyfarwyddwyr Meddygol. Mae’r cyngor yr wyf wedi’i dderbyn yn parhau i bwysleisio bod angen inni symud ymlaen yn raddol, gan fod yn bwyllog, ac yn hyblyg ac ystwyth.
Mae’r fframwaith hwn yn esblygiad o Chwarter 1 ac fe’i rhannwyd o dan themâu a ddefnyddiwyd yn y fframwaith blaenorol. Mae’r Gweithlu a Llesiant yn parhau i fod yn flaenoriaeth ac yn thema allweddol ar gyfer Chwarter 2 oherwydd bydd staff y rheng flaen a staff cymorth yn teimlo effaith yr argyfwng gwreiddiol am fisoedd i ddod a byddant hefyd o bosibl yn paratoi ar gyfer adegau pan geir cynnydd sylweddol eto yn y galw.
Dulliau newydd o weithio – Dylai cynllunio yn Chwarter 2 barhau i adeiladu ar ddulliau newydd o weithio a fabwysiadwyd yn ystod camau cynnar y pandemig.
Rheoli COVID-19 – Bydd yn anodd bob amser i sicrhau bod lleoliadau iechyd a chymdeithasol yn rhydd o COVID, fodd bynnag mae’n rhaid i gleifion sy’n defnyddio’r GIG fod yn hyderus bod amgylcheddau ysbytai mor ddiogel â phosibl.
Wrth i wybodaeth a thystiolaeth newydd ynglŷn â’r feirws barhau i ddod i’r amlwg, rhaid diwygio’r canllawiau. Rhaid eu cyhoeddi a’u gweithredu yn gyflym, yn arbennig mewn perthynas ag atal a rheoli haint. Rwy’n falch o allu cadarnhau, felly, fod Grŵp Trosglwyddiadau Nosocomiaidd wedi cael ei sefydlu at y diben hwn a bydd angen i Fyrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd ddatblygu’r gwaith o weithredu’r canllawiau ar atal a rheoli haint, gan gynnwys ffactorau amgylcheddol a chamau cadw pellter cymdeithasol a fydd yn deillio o’r grŵp hwn.
Hyd nes y ceir brechlyn effeithiol bydd rhaid i GIG Cymru barhau i fod yn barod ar gyfer rhagor o adegau pan geir cynnydd sylweddol yn y galw yn sgil COVID-19. Byddaf yn chwilio am gynlluniau i gynnig sicrwydd ar ofynion pan geir cynnydd sylweddol yn y galw a fydd hefyd yn ystyried gofynion o ran capasiti ar gyfer gwasanaethau hanfodol, yn ogystal â phwysau posibl yn y gaeaf.
Dylid amlinellu’r cynigion ar gyfer yr angen am Ysbytai Maes fel rhan o’r capasiti ar gyfer ymateb i unrhyw gynnydd sydyn yn y galw ynghyd â dangos modelau clinigol a gwerth am arian yn y cynlluniau.
Gwasanaethau “hanfodol”– Gwasanaethau hanfodol yw’r ffocws o hyd yn y fframwaith gweithredu ar gyfer Chwarter 2, a fydd yn cynnwys diweddariadau ar:
- Gwasanaethau canser
- Gwasanaethau diagnostig a delweddu
- Adfer gwasanaethau trawsblannu organau solet
- Iechyd Meddwl
- Gweithredu fesul cam i ailgyflwyno gwasanaethau sgrinio
- Gweithredu cynlluniau ar gyfer Rhwydwaith Trawma De Cymru (erbyn dechrau’r hydref)
- Cynlluniau ar gyfer adferiad corfforol ac emosiynol.
Ni fydd unrhyw ofyniad arall i Fyrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd ddatblygu cynlluniau ar gyfer y gaeaf eleni. Fodd bynnag, bydd rhaid i sefydliadau fy sicrhau eu bod yn gwneud paratoadau ar gyfer y gaeaf yn eu cynlluniau ar gyfer chwarter 2 a’u bod yn defnyddio chwe nod y Rhaglenni Cenedlaethol ar gyfer Gofal Heb ei Drefnu yng nghyd-destun gofal mewn argyfwng a gofal brys i gefnogi’r gwaith cynllunio hwn.
Gwasanaethau “rheolaidd” – Mae’r fframwaith yn cydnabod bod cyflenwi gwasanaethau rheolaidd yn fater y dylid penderfynu yn ei gylch yn lleol, yn amodol ar asesu a ellir gwneud hyn yn ddiogel ai peidio. Fodd bynnag, mae Gwasanaethau Plant yn un maes a fydd yn galw am ffocws ychwanegol.
Gofal sylfaenol – Yn ystod mis Mai cafodd rhagor o ganllawiau eu cyhoeddi i gefnogi adfer gwasanaethau gofal sylfaenol ymhellach ar draws holl broffesiynau contractwyr. Yn ystod Chwarter 2, byddaf yn disgwyl gweld ffocws penodol ar ddatblygu cynlluniau ar gyfer cefnogi clystyrau i roi gwybodaeth i’r rheini sydd mewn perygl ar y camau i’w cymryd os bydd newid yn eu cyflwr a’r rheini sydd â symptomau neu sydd wedi cael prawf COVID-19 positif, a gweithredu Gwasanaethau Ychwanegol dan Gyfarwyddyd ar gyfer cartrefi gofal.
Mynd ati i ailsefydlu gwasanaethau deintyddol hanfodol mewn modd diogel, fesul cam ac yn seiliedig ar risg yw’r nod o hyd. Yn sgil llacio mesurau eraill sy’n gysylltiedig â’r cyfyngiadau, a’r wybodaeth bod rhai practisau yn barod i ailgyflwyno rhagor o driniaethau, cafodd y rhybudd Coch ei godi ar 22 Mehefin.
Gofynnwyd hefyd i bractisau optometreg gwblhau offeryn hunanasesu a symud i gyfnod Oren y cynllun ar gyfer adferiad o ddydd Llun 22 Mehefin.
Dylai cynlluniau chwarter dau gyfeirio at y cynnydd y gellir ei wneud yn awr ym meysydd deintyddiaeth ac optometreg ar gyfer agor y gwasanaethau hyn ymhellach.
Rhyngwyneb Gofal Cymdeithasol – Mae’r fframwaith yn parhau i ddangos bod angen darparu cymorth estynedig i gartrefi gofal sy’n adlewyrchu anghenion ychwanegol preswylwyr sydd â symptomau COVID, a’r goblygiadau gweithredol ychwanegol ar staff, cyflenwadau a lefelau preswylwyr.
Byddaf am i’r Byrddau Iechyd sicrhau bod cynlluniau yn eu lle mewn perthynas â rhyngweithio â chartrefi gofal a gofal cymdeithasol.
Bydd cynlluniau GIG Cymru ar gyfer Chwarter 2 yn cael eu cyflwyno erbyn 3 Gorffennaf.
Mae Fframwaith Gweithredu COVID-19 GIG Cymru ar gyfer Chwarter 2 (2020/21) a dwy ddogfen atodiad ynghlwm yn y dolenni perthnasol isod:
https://llyw.cymru/fframwaith-gweithredu-gig-cymru-chwarter-2-2020-i-2021
https://gov.wales/nhs-wales-covid-19-operating-framework-quarter-2-2020-2021