Mark Drakeford AS, Prif Weinidog
Daeth Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 i rym ar 8 Mehefin 2020. Yn unol â’r Rheoliadau, mae’n ofynnol i bersonau penodol sy’n cyrraedd porthladdoedd o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin (sef y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, ac Iwerddon) ddarparu gwybodaeth ynglŷn â lle y byddant yn preswylio yn ystod eu cyfnod yng Nghymru ac ynysu am 14 diwrnod wedi iddynt gyrraedd.
Mae Rheoliad 19 o’r Rheoliadau yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i adolygu’r angen am y gofynion a orfodwyd gan y Rheoliadau ac adolygu a ydy’r gofynion yn gymesur at y diben y mae Gweinidogion Cymru yn ceisio ei gyflawni drwyddynt. Disgwylir yr adolygiad cyntaf erbyn 29 Mehefin 2020.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ystyried a ddylai’r Rheoliadau presennol barhau mewn grym, neu gael eu diwygio neu eu dirymu. Cyngor pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU cyn cyflwyno’r Rheoliadau presennol oedd y gallai gosod y rheini sy’n dod o wlad gyda chyfradd uwch o’r haint na’r DU o dan gwarantin am 14 diwrnod gael effaith ddefnyddiol ar yr epidemig pan fydd nifer yr achosion o’r haint yn y DU yn isel. Dywedasant hefyd, fodd bynnag, na fydd gosod y rheini sy’n dod o wledydd â chyfraddau is o’r haint na’r DU yn cael yr un effaith.
Cyngor Prif Swyddog Meddygol Cymru yw nad yw’r sefyllfa wedi newid.
Mae’r Rheoliadau yn cael eu hadolygu’n barhaus ac mae Llywodraeth Cymru yn trafod â llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig eraill ynglŷn â diwygiadau posibl i’r Rheoliadau. Byddai’r diwygiadau hynny yn darparu, ar sail asesiad o’r risg, er mwyn i’r rheini sy’n cael eu derbyn yma o restr benodedig o wledydd gael eu heithrio rhag y gofynion ar gyfer hunanynysu, yn ogystal ag amrywiaeth o newidiadau posibl eraill a fyddai’n ymestyn ac yn ehangu’r categorïau o bersonau sydd wedi’u heithrio rhag gofynion y Rheoliadau.
Ar sail y dystiolaeth sydd ar gael a’r cyngor oddi wrth y Prif Swyddog Meddygol, mae Gweinidogion Cymru felly wedi penderfynu y dylai’r Rheoliadau presennol barhau ar waith. Gellir diwygio’r Rheoliadau maes o law gan ddibynnu ar ganlyniad y trafodaethau sy’n parhau â gweinyddiaethau eraill y DU a chan ystyried yn llawn y cyngor meddygol a gwyddonol a fyddai’n sail ar gyfer unrhyw newidiadau a allai gael eu cynnig.