Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi heddiw (dydd Gwener 26) mai Charles Janczewski fydd cadeirydd newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Mae Charles Janczewski, sy’n cael ei adnabod fel Jan, yn gyn-gyfarwyddwr gweithredol gyda Bwrdd Cymru Banc Lloyds Plc, a chyn hynny roedd yn ymgynghorydd busnes annibynnol yn gweithio ar draws Cymru ac yn Ne-orllewin Lloegr.
Cafodd ei fagu yn Abertawe, ac mae bellach yn athro anrhydeddus yn y Coleg Gwyddorau Dynol ac Iechyd ym mhrifysgol y ddinas honno, lle mae’n cadeirio bwrdd llywodraethu’r Academi Iechyd a Llesiant. Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething:
Mae’n bleser mawr croesawu Jan yn gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Mae’n ymgymryd â’r rôl hon yng nghanol pandemig byd-eang, ond mae’n awyddus iawn i fwrw ati yn ei swydd newydd.
Mae cadeiryddion byrddau iechyd yn cael eu penodi ar sail eu profiadau, ac mae rolau blaenorol Jan – gan gynnwys ei rôl fel aelod annibynnol o fwrdd ac fel is-gadeirydd yn y GIG yng Nghymru – yn golygu bod unrhyw gyfraniad ganddo’n hynod werthfawr ac yn seiliedig ar ddealltwriaeth a pharch.
Rwy’n edrych ymlaen at barhau â gwaith Llywodraeth Cymru gyda Jan a Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro wrth inni weithredu ein rhaglen uchelgeisiol i ddiogelu ein pobl rhag effeithiau’r coronafeirws a chreu Cymru iach ac egnïol wrth inni symud ymlaen at y ‘normal newydd’.
Gan siarad am ei benodiad newydd, dywedodd Jan:
Dw i wrth fy modd o fod wedi cael fy mhenodi’n gadeirydd Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro a hefyd o gael y cyfle i barhau i adeiladu ar fy rôl fel is-gadeirydd, er mwyn darparu gwasanaethau gofal iechyd i Gaerdydd a Bro Morgannwg.
Ar hyn o bryd, rydyn ni’n byw drwy gyfnod digynsail, ac ni fu rôl y gwasanaeth iechyd yn ein cymunedau erioed yn bwysicach. Mae’n fraint cael gweithio ochr yn ochr â staff ymroddgar a sensitif i wella ein gwasanaeth yn barhaus, a dw i’n diolch iddynt am hynny. Gyda’n gilydd byddwn yn parhau i ddarparu gofal iechyd drwy gyfnodau o argyfwng, ar y cyd â’n gweithwyr allweddol eraill a sefydliadau partner.
Dw i’n credu mai un o rinweddau gorau cadeirydd yw’r gallu i wrando ar farn ein cleifion, ein staff, a’n cymunedau er mwyn inni barhau i wella ein gwasanaethau iechyd gyda’n gilydd. Mae’r ansicrwydd sydd wedi codi yn sgil pandemig y coronafeirws y golygu ein bod, ar hyn o bryd, yn dysgu sut i gyd-fyw â’r feirws, ochr yn ochr ag ymateb i’r angen i sicrhau bod llawer o’n gwasanaethau’n gweithredu’n effeithiol unwaith yn rhagor.
Bydd hyn yn her sylweddol i’r maes iechyd a’n cymdeithas fel ei gilydd, a dw i wedi ymrwymo i’r gwaith o arwain y bwrdd a’m cydweithwyr yn ein hymateb i’r her hon.