Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae’r canllawiau wedi’u datblygu gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac asiantaethau allweddol eraill gan gynnwys Undebau Llafur, yr Asiantaeth Safonau Bwyd a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, yn dilyn achosion diweddar mewn tri safle prosesu cig a chynhyrchu bwyd yng Nghymru.
Mae’r canllawiau newydd yn rhoi cyngor clir i’r sector ar amryw o bethau gan gynnwys:
- Gweithdrefnau i reoli achosion a amheuir, gan gynnwys gwybodaeth am wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru
- Asesiad risg yn y gweithle
- Cyfathrebu gyda gweithwyr
- Llety a rennir a thrafnidiaeth i’r safle
- Mynediad i’r safle a chadw pellter corfforol ar y safle, gan gynnwys mewn ardaloedd cymunol
- Hylendid bwyd.