Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Mae cynnal safonau lles anifeiliaid uchel yn parhau’n flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Wrth ymddangos ger bron y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig ddydd Iau, 11 Mehefin, ailddatgenais fy ymrwymiad i gyflwyno deddfwriaeth newydd i wahardd gwerthu cŵn a chathod bach trwy drydydd parti yng Nghymru erbyn diwedd y Senedd hon. Gwnes i gadarnhau hefyd bod fy swyddogion wrthi’n delio â’r mater. Ond rwy’n siŵr eich bod yn gwerthfawrogi’r pwysau ychwanegol y mae Covid-19 wedi’i roi arnom a bod angen rheoli adnoddau’n ofalus.
Heddiw, byddaf yn lansio’r ymgynghoriad olaf ar y cynnig i wahardd gwerthu cŵn a chathod bach trwy drydydd parti. Mae’r ymgynghoriad yn allweddol i’r broses o gasglu tystiolaeth i’n helpu i weld sut orau y dylai’r Llywodraeth ddelio â’r mater a chael yr effaith fwyaf yng Nghymru.
Rwy’n siŵr eich bod yn gwerthfawrogi bod angen i unrhyw newid i’r ddeddfwriaeth neu’r trefniadau gorfodi fod yn gymesur ac yn seiliedig ar dystiolaeth. Yng ngoleuni ymgynghoriadau blaenorol ar y mater a chyhoeddi’r Crynodeb o’r Ymatebion, bydd yr ymgynghoriad hwn yn para wyth wythnos. Byddwn yn gweithio gyda Plant yng Nghymru ac yn holi mudiadau allweddol eraill sy’n delio â lles anifeiliaid yr un pryd â’r ymgynghoriad i wneud yn siŵr bod clust i glywed llais plant a phobl ifanc Cymru.
Hoffwn ei gwneud yn glir mai dim ond un o’r camau sydd eu hangen i wella lles anifeiliaid sy’n cael eu cadw mewn sefydliadau bridio yng Nghymru yw’r ddeddfwriaeth hon i wahardd eu gwerthu trwy drydydd parti. Mae swyddogion yn cydweithio ag awdurdodau lleol ac fel rhan o brosiect treialu 3 blynedd a noddir gan Lywodraeth Cymru, mae awdurdodau lleol wrthi’n ystyried sut i chwalu’r rhwystrau i orfodi; gwella hyfforddiant; cyngor gwell; a defnyddio adnoddau’n well. Byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys Awdurdodau Lleol a Gweinyddiaethau eraill i sicrhau bod y newidiadau yn cael effaith hirdymor ar safonau lles cŵn a chathod sy’n cael eu bridio yng Nghymru.
https://llyw.cymru/gwahardd-gwerthu-cwn-chathod-bach-gan-drydydd-parti