Mark Drakeford AS, Prif Weinidog
Ers dechrau’r cyfnod clo, rwyf wedi gwneud 10 datganiad llafar i’r Senedd ar destun coronafeirws.
Dyma’r datganiad olaf yn y gyfres gan y byddwn yn dychwelyd i’r drefn cwestiynau llafar wythnos nesaf.
Fel arfer, byddaf yn canolbwyntio ar ddatblygiadau mewn portffolios nad ydynt wedi’u cynrychioli mewn datganiadau llafar Gweinidogol eraill heddiw.
Byddaf hefyd yn cyflwyno’r cefndir ar gyfer y penderfyniadau pwysig y mae’n rhaid inni eu gwneud wrth inni ddod i ddiwedd cylch adolygu tair wythnos gorfodol y cyfyngiadau symud.
Yr wythnos diwethaf roedd hi’n wythnos Gofalwyr, a bydd llawer o aelodau yn ymwybodol o hyn o’u hetholaethau eu hunain. Gyda’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, fe ymunais â thrafodaeth ar-lein gyda gofalwyr i glywed am eu profiadau nhw yn ystod y cyfyngiadau symud a dysgu am yr heriau a ddaeth yn sgil hyn. Rwy’n gwybod y bydd defnydd da iawn i’r £50,000 ychwanegol y gwnaethom ei gyhoeddi i gefnogi gwaith Gofalwyr Cymru.
Mae’r byd y mae coronafeirws wedi’i greu wedi golygu’r angen i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio mewn sawl maes. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda’n partneriaid cymdeithasol yn ein holl feysydd cyfrifoldeb i gynorthwyo gyda’r broses honno.
Yn ystod yr wythnos ddiwethaf yn unig, darparwyd canllawiau newydd ar gyfer darparwyr gofal plant, ysgolion a cholegau, cymorth i fyfyrwyr, gwasanaethau profedigaeth, gwasanaethau deintyddol, ymwelwyr i gartrefi gofal, ac ar y defnydd o fasgiau meddygol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Gallaf hefyd roi gwybod i Aelodau’r Senedd bod set pellach o reoliadau wedi’u gwneud, yn ymhelaethu ar y trefniadau cwarantin a gynlluniwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ac a ddaeth i rym ddydd Llun yr wythnos diwethaf.
Bydd y rheoliadau newydd yn sicrhau bod teithwyr rhyngwladol ar awyrennau a llongau yn cael gwybodaeth iechyd y cyhoedd bwysig yn ymwneud â coronafeirws cyn cyrraedd Cymru, gan gynnwys gwybodaeth am yr angen i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl cyrraedd.
Bydd yr Aelodau’n awyddus i wybod beth yw ein hasesiad diweddaraf o ran sefyllfa’r coronafeirws yng Nghymru wrth inni nesáu at wneud y penderfyniadau diweddaraf o ran llacio’r cyfyngiadau.
Bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhoi rhagor o fanylion yn ei ddatganiad heddiw, ond yn gryno, mae’r sefyllfa yn parhau i wella. Mae lledaeniad y feirws yn lleihau o hyd, a nifer y cleifion mewn gwelyau gofal critigol, a’r bobl sy’n marw o COVID-19 ar ei isaf ers diwedd mis Mawrth.
Mae’r diolch am hyn i ymdrechion enfawr ein cymunedau i gadw at reolau’r cyfyngiadau symud a dod â’r pandemig yng Nghymru o dan reolaeth. Rhaid defnyddio’r hyblygrwydd sydd wedi’i greu yn ofalus ac yn systematig, i ailagor ein heconomi, ac i roi’r rhyddid y mae pobl wedi’i aberthu dros dro yn ôl iddynt, a gwneud hyn oll mewn ffordd sy’n parhau i ddiogelu ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Yng Nghymru, mae’r sefyllfa wedi’i hatgyfnerthu gan ein system o Brofi Olrhain Diogelu. Mae’r system yn rhan hanfodol o’n trefniadau gwyliadwriaeth, ac yn ein galluogi i adnabod ac ymateb i achosion lleol o’r coronafeirws os sylwn ar fannau problemus o ran yr haint. Mae mesurau gwyliadwriaeth eraill hefyd ar waith. Mae 70,000 o ddinasyddion Cymru yn rhoi gwybodaeth yn rheolaidd drwy ap COVID-19 Coleg King’s, a’i bartner yng Nghymru, Banc Data SAIL ym Mhrifysgol Abertawe.
Rwy’n falch y bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu rhaglen waith i gefnogi monitro lefelau COVID-19 mewn dŵr gwastraff, dan arweiniad Prifysgol Bangor, ac mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caerdydd, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Dŵr Cymru.
Drwy fonitro dŵr gwastraff mae’n bosibl y cawn rybudd cynnar o gynnydd mewn achosion o COVID-19. Bydd yn cynorthwyo ein rhaglenni gwyliadwriaeth iechyd y cyhoedd ehangach, ac yn adeiladu ar ein cryfderau yng Nghymru ym maes gwyddor yr amgylchedd, cadw gwyliadwriaeth ar afiechydon a genomeg pathogenau.
Bydd yr arbenigedd yng Nghymru yn gwneud cyfraniad pwysig i’r prosiect monitro dŵr gwastraff arfaethedig yn y DU. Bydd yn cryfhau’r cydberthnasau pwysig a fydd yn ddefnyddiol inni ar gyfer COVID-19 yn ogystal â chlefydau trosglwyddadwy eraill posibl yn y dyfodol.
Mae Llywodraeth Cymru yn dal i wrthod cyngor y bobl hynny sy’n dadlau bod yr angen i ddiogelu iechyd y cyhoedd a’r angen i ailgychwyn ein heconomi yn ddau beth sy’n cystadlu â’i gilydd: bod diogelu iechyd yn niweidio’r economi. Mewn gwirionedd, yr unig sail ar gyfer economi iach yw cymdeithas iach; mae diogelu iechyd a chreu cyfoeth yn amcanion sy’n ategu ei gilydd, yn hytrach na’n mynd yn groes i’w gilydd.
Mae profiad coronafeirws yn sicr wedi dysgu hynny inni, oherwydd rydym wedi gweld yn union sut y mae anfanteision economaidd hefyd yn cael effaith uniongyrchol ar iechyd. Roedd dadansoddiad yr ONS a gyhoeddwyd ddydd Gwener yr wythnos diwethaf yn dangos bod cyfraddau marwolaeth COVID-19 ddwywaith yn uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig nag yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig. Nid yw’r niweidiau ‘cudd’ hyn yn rhai amlwg, ond nid yw hynny’n golygu nad ydyn nhw’n bodoli ac nad ydyn nhw’n sylweddol.
Felly wrth inni wneud penderfyniadau am y dyfodol bydd ein dull o adfer yn edrych yn eang ar iechyd y cyhoedd gan ymateb i’r ffyrdd y mae anfanteision economaidd yn lleihau ansawdd bywyd a dosbarthiad cyfleoedd bywyd.
Mae’r ddealltwriaeth hon yn sail i’n penderfyniadau sydd wedi darparu’r pecyn mwyaf hael o gymorth busnes yn unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig. Mae cwmnïau ar draws Cymru wedi manteisio o grantiau Ardrethi Annomestig gwerth dros £680 miliwn.
Yn ystod cam cyntaf y Gronfa Cadernid Economaidd rhoddwyd dros £200 miliwn i gwmnïau cymwys, a bydd yr ail gam yn agor ar 29 Mehefin.
Ddoe, cyhoeddodd Banc Datblygu Cymru ganlyniadau neilltuol sy’n dangos y rhan hanfodol y mae’n ei chwarae yn economi Cymru. Mae cyfleuster benthyciadau’r Banc, a grëwyd i helpu i ymdrin ag effaith y feirws, wedi dyrannu bron i £100 miliwn i fwy na 1,200 o fusnesau, gan roi cymorth hanfodol i ddiogelu miloedd o swyddi.
Yr wythnos diwethaf, gwnaethom lansio cam nesaf Cronfa’r Economi Gylchol, gyda £6.5 miliwn ychwanegol i gefnogi’r adferiad gwyrdd.
Yn ogystal, oherwydd bod rhannau eraill o’r llywodraeth yn dal i weithio, hyd yn oed yng nghanol argyfwng y pandemig, rwy’n falch ein bod, gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, wedi gallu cadarnhau cymeradwyo prosiect Ardal Forol Doc Penfro, sy’n rhan ganolog o Fargen Ddinesig Bae Abertawe.
Bydd y prosiect yn hwb hanfodol i’n huchelgais i ddatblygu ynni adnewyddadwy o’r môr. Parth Arddangos Sir Benfro fydd y cyfleuster mwyaf o’i fath yn y byd, gan gefnogi cwmnïau presennol, a denu cwmnïau eraill i Gymru. Mae’r prosiect hwn hefyd yn rhan bwysig o’r adferiad gwyrdd yr ydym wedi ymrwymo iddo.
Rwy’n edrych ymlaen at adeiladu ar y camau hyn i ddal ati i ailddechrau ein bywydau personol ac economaidd, gan gadw mewn cof pob amser mai’r risg mwyaf i’r ddau beth hyn fyddai gwneud gormod yn rhy fuan, gan danseilio’r llwyddiannau yr wyf wedi gallu rhoi gwybod amdanynt heddiw.
Gan y bydd y cwestiynau i’r Prif Weinidog yn ailddechrau yr wythnos nesaf, ac mai dyma fy natganiad olaf o’r math hwn, hoffwn bwysleisio unwaith eto i Aelodau bod Llywodraeth Cymru yn dal i ganolbwyntio ar y coronafeirws. Mae dros 80% o’n staff yn cyfrannu at yr ymateb i’r pandemig, gan gynnwys gwaith ar y system Profi Olrhain Diogelu, sicrhau cyflenwadau o gyfarpar diogelu personol (PPE), cynnal yr adolygiadau 21 diwrnod, cefnogi pobl agored i niwed, a pharatoi ein gwasanaethau cyhoeddus i gwrdd â’r heriau di-rif sydd wedi dod yn sgil y feirws. O’r 5500 o staff sydd gennym, mae 97% yn gweithio gartref.
Rydym ni’n dal i fod yn ymateb i argyfwng iechyd y cyhoedd. Dyma’r brif flaenoriaeth i’r cyhoedd, a dyma brif flaenoriaeth Llywodraeth Cymru nes y gallwn fod yn hyderus bod y pandemig ar ben. Ac mae’n bosib y bydd sawl mis tan hynny.