Eluned Morgan AS, y Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol
Ar 17 Mehefin cyhoeddodd Llywodraeth y DU gyfres o ddogfennau mewn perthynas â thrafodaethau masnach y DU ag Awstralia a Seland Newydd. Rwy’n ysgrifennu atoch i roi diweddariad ar farn Llywodraeth Cymru ar y trafodaethau masnach hyn, ac ar y trafodaethau â Japan a lansiwyd yn ddiweddar.
At ei gilydd mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod gan fasnach rydd rôl hanfodol i’w chwarae wrth gefnogi economi Cymru a’n hadferiad economaidd yn dilyn y pandemig COVID-19. Yn ôl y data roedd allforion yn cyfrannu 23% at GDP Cymru cyn y pandemig.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau’n barhaus na ddylai Cytundebau Masnach Rydd newydd fod yn lle Cytundeb Masnach Rydd â’r UE – yn hytrach dylai cytundebau o’r fath ategu Cytundeb Masnach Rydd â’r UE. Hyd yn oed os yw’r senario gorau’n cael ei wireddu, ni fyddai Cytundebau Masnach Rydd â Japan, Awstralia a Seland Newydd yn darparu ond ffracsiwn o’r twf economaidd y byddem yn ei golli os nad ydym yn dod i Gytundeb Masnach Rydd cynhwysfawr â’r UE.
Ar 9 Mehefin lansiodd Llywodraeth y DU drafodaethau â Japan. Nod y trafodaethau yw adeiladu ar y cytundeb presennol rhwng yr UE a Japan, gan geisio sicrhau parhad ar gyfer busnesau sydd eisoes yn elwa ar y cytundeb rhwng yr UE a Japan. Mae gan Gymru gysylltiadau economaidd agos â Japan, a gwerth y masnach â Japan yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020 oedd £935m (2.6% o fasnachu nwyddau Cymru). Mae’n hanfodol ein bod yn atgyfnerthu ac yn adeiladu ar y cysylltiadau hynny, felly rydym yn croesawu dechrau’r trafodaethau ynghylch cytundeb newydd rhwng y DU a Japan.
Mae disgyrchiant masnach yn helpu i egluro pam mae masnach Cymru ag Awstralia a Seland Newydd yn weddol gyfyngedig – mae data ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020 yn dangos nad oedd y nwyddau a gafodd eu hallforio i Awstralia a Seland Newydd yn cyfrif am ond 0.7% a 0.1% o holl allforion Cymru, yn y drefn honno. Er bod yr achosion amlinellol ar gyfer Awstralia a Seland Newydd yn fan cychwyn rhesymol ar gyfer trafodaethau, ac yn nodi’r cyfleoedd sy’n bodoli, mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o’r difrod y gellid cael ei wneud i’n sector bwyd-amaeth os nad yw’r cytundeb yn cael ei drafod er budd y DU gyfan. Mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan lawn yn y trafodaethau i sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu diogelu.