Diweddariad gwybodaeth reoli ar olrhain cysylltiadau a ddarparwyd fel rhan o'r strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu yng Nghymru, ar gyfer 1 i 14 Mehefin 2020.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Profi, Olrhain, Diogelu (olrhain cysylltiadau ar gyfer coronafeirws (COVID-19))
Data ar gyfer 1 i 14 Mehefin
Yng Nghymru, yn ystod y cyfnod rhwng 1 a 14 Mehefin, cyfeiriwyd 1,309 o achosion positif at dimau olrhain cysylltiadau lleol a rhanbarthol. Arweiniodd hyn at adnabod 1,752 o gysylltiadau i'w holrhain. Cysylltwyd â 1,553 o'r rhain yn llwyddiannus a'u cynghori.
Gwybodaeth bellach
Mae'r data yn seiliedig ar wybodaeth reoli a adroddwyd gan dimau olrhain cysylltiadau lleol a rhanbarthol yn ystod pythefnos gyntaf olrhain cysylltiadau COVID-19 yng Nghymru. Nid yw'r wybodaeth reoli wedi'i dilysu ac ni chynhaliwyd gwiriadau ansawdd data pellach fel sy'n cael eu cynnal ar gyfer ystadegau swyddogol. Bydd y system gymorth ddigidol genedlaethol newydd yn cael ei defnyddio yn sail i'r dull o adrodd yn y dyfodol, unwaith y bydd y system wedi ymsefydlu a’r data wedi’u dilysu.
Mae'r Prif Ystadegydd wedi cytuno i ryddhau'r wybodaeth reoli hon yn gynnar gan ei bod er budd y cyhoedd i Lywodraeth Cymru ac eraill ddefnyddio'r data yng nghyd-destun cynllunio ar gyfer sefyllfa COVID-19.
Efallai na fydd yn bosibl olrhain pob unigolyn sy'n cael ei gyfeirio at y gwasanaeth olrhain cysylltiadau. Am amryw o resymau, ni fydd manylion cysylltu wedi'u darparu ar gyfer rhai unigolion ac mae'n bosibl nad yw eraill wedi ymateb i alwadau, negeseuon testun neu e-byst gan dimau olrhain.
Nid yw achosion positif sy'n ymwneud â lleoliad caeedig, megis cartref gofal neu ysbyty, yn arwain at waith dilynol o ran olrhain cysylltiadau.
Mae nifer yr achosion a atgyfeiriwyd ar gyfer olrhain cysylltiadau yn fwy na nifer yr achosion newydd a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru oherwydd gwahaniaethau mewn amseru a lefel y dilysiad. Mae timau olrhain cysylltiadau yn cael data crai gan system brofi'r labordy a all, er enghraifft, gynnwys achosion a nodwyd yn flaenorol fel rhai positif. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu data at ddibenion gwyliadwriaeth ac yn defnyddio data o gylch amser sefydlog i sicrhau cysondeb adrodd a hefyd yn dilysu'r data i ddileu achosion a nodwyd o’r blaen. Rydym yn gwneud gwaith pellach i ddeall ac esbonio'r gwahaniaethau hyn.
I gael gwybodaeth a chyngor ar olrhain cysylltiadau, ewch i’n tudalennau canllawiau.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.