Sut mae Awdurdod Cyllid Cymru yn defnyddio gwybodaeth bersonol
Rydym yn cadw gwybodaeth bersonol amdanoch chi pan fyddwch yn delio â ni yn Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) ynglŷn â threthi Cymreig.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Efallai y byddwch yn rhoi eich data a’ch gwybodaeth bersonol i ni pan fyddwch yn:
- talu trethi datganoledig Cymreig
- yn ymwneud â thrafodiad lle mae rhywun yn talu treth Gymreig (er enghraifft, prynu eiddo sydd yn â Threth Trafodiadau Tir yn daladwy)
- cysylltu â ni ynglŷn â’n canllawiau a'n gwasanaethau
Trethi Datganoledig yw’r rhai lle mae'r rheolau treth wedi'u gosod yng Nghymru, ac mae'r dreth a gesglir yn ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus. Rydym yn casglu ac yn rheoli 2 dreth ddatganoledig:
- Treth Trafodiadau Tir
- Threth Gwarediadau Tirlenwi
Rydym yn cael gwybodaeth gennych pan fyddwn yn casglu trethi. Gall hynny ddod yn uniongyrchol oddi wrthych chi neu oddi wrth asiant, er enghraifft, cyfreithiwr sy'n gweithredu ar eich rhan.
Data a gesglir gennym
Gall y data personol hwn gynnwys eich:
- teitl a’ch enw llawn
- cyfeiriadau presennol ac yn y gorffennol
- dyddiad geni
- cyfeiriad e-bost
- rhifau ffôn
- dulliau adnabod, fel Rhif Yswiriant Gwladol, pasbort, trwydded yrru
Gwybodaeth sy'n ymwneud â thrafodiadau treth, gan gynnwys unrhyw:
- gyfeiriadau
- symiau dan sylw
Hefyd, unrhyw fusnesau sy'n gysylltiedig, gan gynnwys:
- enw’r cwmni neu enw masnachu
- cyfeiriadau
- rhif y cwmni, os yn berthnasol
- rhif cofrestru TAW, os yn berthnasol
Defnydd o'ch data
Byddwn ond yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn gyfreithlon, ac yn y ffyrdd canlynol i gefnogi'r trethi Cymreig rydym yn eu casglu a'u rheoli er mwyn:
- sicrhau bod y swm cywir o dreth yn cael ei dalu ar yr adeg gywir
- gweithio gyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus y gallwn rannu data â hwy, fel Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi
- dadansoddi a gwneud gwaith ymchwil er mwyn deall trethi Cymru yn well a gwella gwasanaethau
Ni fyddwch chi na'ch asiant yn cael eich adnabod mewn dadansoddiadau neu adroddiadau ymchwil a gyhoeddir gennym.
Byddwn hefyd yn sicrhau na fydd gwybodaeth amdanoch chi neu eich asiant:
- yw'n cael ei rhannu y tu allan i ACC oni bai bod rheswm cyfreithlon a bod y prosesu’n deg ac yn angenrheidiol
- yn cael ei ddefnyddio na'i gadw pan fyddwch chi wedi defnyddio unrhyw rai o'ch hawliau a nodir yn yr hysbysiad hwn.
Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth
Byddwn yn cadw eich data am gyhyd ag y bydd angen i ni:
- gyflawni ein dyletswydd
- gwirio osgoi, twyll, neu wall (gall fod am fwy na 25 mlynedd)
- er mwyn cefnogi dadansoddi ac ymchwil am gyhyd ag y mae'n ddefnyddiol
Diogelwch data
Bydd unrhyw wybodaeth y byddwn yn ei chasglu amdanoch chi neu'ch asiant yn cael ei chasglu, ei storio a'i throsglwyddo'n ddiogel. Byddwn ond yn rhannu gwybodaeth amdanoch chi gydag eraill lle mae'n gyfreithlon gwneud hynny ac yn ofynnol at ddiben a nodwyd.
Eich hawliau
Mae cyfraith diogelu data’n rhestru hawliau penodol sydd gennych yn ymwneud â'ch data. Mae'r hawliau hyn yn dibynnu ar y sail gyfreithiol ar gyfer casglu a defnyddio eich data. Ar gyfer y rhan fwyaf o ddefnyddiau a wneir o'ch data, mae gennych yr hawl i gael gwybod (y mae'r hysbysiad hwn yn ei gwmpasu).
Rhagor o wybodaeth
I gael manylion llawn am wybodaeth sydd gennym amdanoch chi, eich hawliau, defnydd cyfreithlon, a phwyntiau cyswllt, gweler ein hysbysiad preifatrwydd data treth neu cysylltwch â ni.
Swyddog Diogelu Data
Awdurdod Cyllid Cymru
Blwch Postio 108
Merthyr Tudful
CF47 7DL
E-bost: data@acc.llyw.cymru
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.