Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
Gallaf bellach gadarnhau bod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi cytuno i gymeradwyo achos busnes prosiect Ardal Forol Doc Penfro.
Bydd prosiect Ardal Forol Doc Penfro Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn creu canolfan o’r radd flaenaf ar gyfer peirianneg forol a fydd yn canolbwyntio i ddechrau ar ynni carbon isel. Mae disgwyl i’r prosiect greu dros 1,800 o swyddi dros y 15 mlynedd nesaf a bydd yn cyfrannu £73.5 miliwn y flwyddyn at economi Dinas-Ranbarth Bae Abertawe.
Ardal Forol Doc Penfro yw unig brosiect Bargen Ddinesig Bae Abertawe sy’n cael ei arwain gan y sector preifat, ac mae’n cynnwys pedair elfen gysylltiedig:
- Ardal Brofi Ynni Morol o fewn Dyfrffordd Aberdaugleddau a arweinir gan Ynni Morol Cymru. Bydd yn galluogi datblygwyr technoleg i brofi eu dyfeisiau ynni morol yn agos at eu safle gweithredu
- Y cyfleuster mwyaf o’i fath yn y byd. Parth Arddangos Sir Benfro a fydd yn 90 cilomedr sgwâr gan Wave Hub Limited. Bydd yn galluogi gwaith sbarduno technolegau creu ynni ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys gwynt arnofiol
- Canolfan Ragoriaeth Peirianneg Ynni Morol – canolfan ar gyfer technoleg, arloesedd ac ymchwil a gyflenwir gan Gatapwlt Ynni Adnewyddadwy ar y Môr
- Ailddatblygu tir yn Noc Penfro, dan arweiniad Porthladd Aberdaugleddau, er mwyn cyflenwi’r seilwaith sydd ei angen ar y diwydiant wrth iddo barhau i aeddfedu
Mae hwn yn gam pwysig wrth ddatblygu Bargen Ddinesig Bae Abertawe ac wrth ddangos ein hymrwymiad i ddatblygiad Canolfan Ragoriaeth ar gyfer technoleg forol yng Nghymru.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda phartneriaid i ddarparu’r Fargen Ddinesig, ac mae’r cyhoeddiad hwn yn ein gwneud yn hyderus y gall y fargen ddarparu ar gyfer pobl sy’n byw ac yn gweithio o fewn Rhanbarth Ddinesig Bae Abertawe.
Byddaf yn parhau i hysbysu Aelodau ynghylch y newyddion diweddaraf wrth i Fargen Ddinesig Bae Abertawe barhau i ddatblygu.