Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru
Mae gofal cymdeithasol yn rhoi cymorth gwerthfawr i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, ond y gofal hwn hefyd yw’r sylfaen anweledig sy'n cefnogi ein Gwasanaeth Iechyd a'n cymdeithas yn ehangach.
Yn ystod pandemig y coronafeirws, mae staff gofal cymdeithasol wedi darparu gofal eithriadol – yng nghartrefi pobl ac mewn cartrefi gofal ledled Cymru. I gydnabod y cyfraniad hwnnw, fe wnaethom gyhoeddi fis diwethaf y byddai pob gweithiwr mewn gofal cartref a phob gweithiwr gofal cymdeithasol yn cael taliad arbennig o £500.
Yn dilyn y cyhoeddiad, rydym wedi cael trafodaethau helaeth gyda chyflogwyr, awdurdodau lleol ac undebau llafur ynglŷn â'r taliad. Rwy’n falch o gyhoeddi y bydd ar gael i bob aelod o staff ategol sy'n gweithio mewn cartrefi preswyl ac sydd wedi chwarae rhan weithredol o ran cefnogi’r ddarpariaeth gofal.
Mae cartrefi gofal yn gweithredu fel aelwydydd mawr ac mae amrywiaeth eang o staff wedi datblygu perthynas werthfawr gyda phreswylwyr ac wedi cyfrannu at eu gofal a'u lles yn ystod pandemig y coronafeirws. Mae staff ceginau a staff domestig, er enghraifft, wedi helpu yn ystod yr argyfwng gan roi cefnogaeth a chyfeillgarwch hanfodol i breswylwyr pan nad yw eu perthnasau wedi gallu ymweld â nhw. Mae cydlynwyr gweithgareddau wedi parhau i gynnal gweithgareddau difyr ac ystyrlon ar gyfer y preswylwyr. Bydd staff nyrsio a gyflogir gan gartrefi gofal yn cael eu cynnwys hefyd.
Mae cartrefi gofal yn cynnwys y rhai sydd wedi'u cofrestru i ofalu am oedolion hŷn, oedolion iau a phlant. Mae hyn yn cynnwys y gwasanaeth llety diogel i blant a'r ysgolion arbennig preswyl hynny sydd wedi'u cofrestru fel cartrefi gofal gydag Arolygiaeth Gofal Cymru.
Mae gweithwyr gofal cartref a chynorthwywyr personol, sy’n darparu gofal i’r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru, wedi’u cynnwys yn y cynllun hefyd.
Taliad untro ar ffurf cyfradd safonol fydd hwn, ar gyfer pobl a gyflogir mewn swyddi cymwys rhwng 15 Mawrth a 31 Mai. Bydd yr un fath i bawb, waeth faint o oriau y mae'r staff wedi eu gweithio. Nod y taliad hwn yw cydnabod cyfraniad staff gofal cymdeithasol sydd wedi gweithio yn ystod y cyfnod tyngedfennol hwn.
Rydym yn gweithio i gael y taliad hwn i’r gweithlu gofal cymdeithasol cyn gynted a phosibl ac rydym yn parhau i weithio gyda’r awdurdodau lleol, Fforwm Gofal Cymru ac undebau llafur i gwblhau’r manylion terfynol ar gyfer darparu’r arian hwn. Mae natur amrywiol y sector gofal cymdeithasol yn golygu na fydd pawb sy'n gymwys yn cael y taliad yr un diwrnod. Rydym hefyd yn dal i drafod â Llywodraeth y DU er mwyn cael eglurder ynglŷn â’r goblygiadau o ran treth ac yswiriant gwladol.
Rydym yn parhau’n ymrwymedig i sicrhau cynaliadwyedd y sector gofal cymdeithasol a byddwn yn sefydlu Fforwm Gwaith Teg ar gyfer Gofal Cymdeithasol, mewn cydweithrediad â'n partneriaid cymdeithasol. Bydd y Fforwm yn cael y gorchwyl o ystyried pa gamau pellach y dylid eu cymryd i sicrhau gwaith teg yn y tymor canolig a hir ar draws y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru.